Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Arian y Gronfa’n Anelu at Drawsnewid Bywydau Pobl Drawsrwy yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
6 12 2011

Un prynhawn dydd Sul daeth Tony â'i deulu ynghyd yn y lolfa yn eu cartref yng ngogledd Cymru a chyflwynodd lythyr iddynt yn eu hysbysu ei fod, mewn gwirionedd, yn fenyw o'r enw Debbie.

Debbie Roberts yw Cadeirydd Unique Transgender Network yng Ngogledd Cymru, ac yn diweddar fe gymerodd ran  yn y prosiect Hyblygrwydd Rhyw, prosiect datblygu ymchwil a chefnogaeth a redir gan Ganolfan Rhagoriaeth LGBT Cymru yng Nghaerdydd a ariennir gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr. Nod y prosiect yw datblygu rhwydwaith cryfach ar gyfer pobl drawsryw yng Nghymru ac i ddarparu mwy o gyngor a chefnogaeth ar gyfer unigolion fel Debbie sy'n profi newidiadau mawr yn eu bywydau.

Mae Debbie, 57 oed, yn berson trawsryw ac wedi bod yn cuddio y tu ôl i Tony drwy gydol ei bywyd. Ond ni allai barhau i guddio, a bu'n rhaid iddi ddweud wrth y byd pwy yw hi.

“Nid oedd unrhyw olau disglair sydyn, dim ond ei fod yn teimlo fel yr amser iawn i ddweud wrthyn nhw i gyd,” meddai Debbie.

“Roeddwn bob amser yn gwybod fy mod yn wahanol i'r bechgyn eraill. Roeddwn yn genfigennus o'r merched a'u dillad hyfryd, a dw i wedi gwisgo fel merch ers fy arddegau cynnar. Rwy'n gwirioni ar fod yn un o'r merched a mynegi'n agored yr emosiynau a'r teimladau mewnol, mae'n teimlo'n iawn i mi.

"Mae fy nheulu yn dweud wrthyf yr oeddwn bob amser mewn trafferth o bum mlwydd oed ymlaen. Es i ysgol Gatholig ac roedd y lleianod bob amser yn fy nhynnu allan o'r ty doliau a gorfodi fi i chwarae gyda'r bechgyn a'u tryciau a'u ceir a phethau. Felly mae'n amlwg mai rhywbeth a oedd yno yn gynnar iawn gyda fi yw hi.

I mi, nid mater o ddull o wneud pethau yw e; mae'n ffordd o fyw. Rwyf wedi bod yn ei guddio drwy gydol fy mywyd. Rwyf wedi bod yn trio bod yn ddyn ac mae wedi bod yn waith caled. Bu'n rhaid i mi gyflwyno'r ddelwedd yma nad oedd yn real i bobl."

Wedi'i ddrysu a heb neb nag unrhyw le i fynd am gyngor a chefnogaeth, roedd tyfu i fyny yn Lerpwl yn anodd i Debbie, a gafodd ei magu fel dyn o'r enw Tony:

“Ces i fy ngeni a fy magu mewn ty teras bach yn Lerpwl ac nid oeddech yn cael dangos y pethau hyn,” meddai.

“Roedd pawb yn gwybod am bobl hoyw ond a bod yn onest dw i ddim yn credu yr oeddent hyd yn oed yn ymwybodol o bobl drawsryw. Roedd y plant yn arfer bwlio fi gan i mi fod yn denau ac yn wan. Rydym ni'n siarad am y 1960au yma a doeddwn i ddim yn ymwybodol bryd hynny yr oeddwn yn drawsryw, felly yn bendant nid oedd unrhyw ffordd iddyn nhw wybod. Y cyfan yr oeddwn yn ei wybod oedd sut yr oeddwn yn teimlo yn fy mhen a chredais mai fi oedd yr unig berson yn y byd i deimlo fel hyn."

Cyn i Caroline Cossey, actores a model o Loegr a oedd yn actio rhan mewn ffilm James Bond gael ei datgelu yn y News of the World fel person trawsryw ym 1981, ni sylweddolodd Debbie nad hi oedd yr unig un.

“Darllenais yr erthygl a meddyliais Waw! Mae yna pobl eraill fel fi yn y byd,” meddai.

Un o'r pethau yr ydw i'n fwyaf balch ohono yw fy mod yn gyfeillion gyda Caroline Cossey ar Facebook bellach. Dw i jest mor hapus fy mod i'n ffrindiau gyda menyw a barodd i mi sylweddoli nad fi oedd yr unig un blynyddoedd maith yn ôl.”

Am chwe blynedd, cyn hyd yn oed dod allan i'w theulu, roedd Debbie yn Gadeirydd Unique Transgender Network, mudiad gwirfoddol sy'n cefnogi pobl drawsryw yng ngogledd Cymru a gorllewin Swydd Gaer. Mae hi'n cyfaddef yr oedd yn anodd cadw'r ddwy fodolaeth yn mynd ac roedd ganddi wardrob gudd mewn uned storio nad oedd ei theulu'n gwybod amdani.

"Hyd yn oed pan oeddwn i'n briod byddwn yn gwisgo fel Debbie mor aml y gallwn." meddai.

“Rwyf wedi bod yn gadeirydd Unique ers chwe blynedd bellach, a dw i wedi teithio i gynadleddau yn Ffrainc a Chaerdydd fel Debbie. Teithiais i lawer o leoedd fel Debbie cyn i mi ddweud wrth fy nheulu. Mae wedi bod yn anodd gan y bu'n rhaid i mi flaengynllunio popeth. Nid oedd yn ymwneud dim ond â blaengynllunio sut y byddwn yn cyrraedd cyfarfod; roedd yn ymwneud â'r hyn yr oeddwn yn mynd i'w wisgo. Roedd gennyf uned storio yn Swydd Gaer a oedd fel wardrob cerdded i mewn.”

Gan iddi ysgaru o'i gwraig, mae hi hefyd yn deall effaith dod allan ar ei theulu.

“Dros y ddwy flynedd diwethaf, aeth fy anghenion mor gryf y bu'n rhaid i bethau newid," meddai Debbie.

“Nid oedd gan fy ngwraig y syniad lleiaf. Roedd hi bob amser yn meddwl fy mod yn ddyn eithaf benywaidd, ac roedd hi'n iawn gyda'r ffaith fy mod yn drawsryw, ond yr hyn a achosodd y rhwyg yw'r twyll a aeth ymlaen am gyfnod mor hir. Dw i'n gwybod bod angen dyn arni yn ei bywyd ac ni alla i fod y dyn hwnnw. Mae fy merched wedi bod yn wych a dw i'n aros gyda fy merch hynaf nes fy mod yn trefnu fflat ar fy nghyfer.

“Gwnes i guddio'r peth rhagddynt am amser mor hir gan eich bod yn dysgu dyrannu eich bywyd i gydrannau gwahanol. Mae fel switsh yn fy mhen. Gallwn switsio Debbie ymlaen ac i ffwrdd ond fe aeth yn fwyfwy anodd ei switsio hi i ffwrdd gan i mi fynd yn fwyfwy fel Debbie. Rydych yn mynd yn fedrus iawn wrth ddyfeisio esgusodion, dod o hyd i resymau i fynd allan o'r ty a phethau.”

Wrth edrych yn ôl, mae Debbie yn gwybod y dylai hi fod wedi dod allan blynyddoedd yn ôl:

“Mae ôl-ddoethineb yn wych, ond pan ydych yn tyfu i fynd yn y 60au a'r 70au yn Lerpwl, roedd disgwyl i chi ddod o hyd i gariad, dod o hyd i wraig, cael plant, dechrau teulu ac roeddech yn tueddu i fynd ymlaen gyda hynny,” mae hi'n esbonio.

“Mae pwysau gan gymheiriaid yn nodi y dylech chi wneud pethau mewn ffordd benodol ac rydych yn gwneud hynny, gan fod gennych ofn y bydd unrhyw un arall yn dod i wybod amdano. Rydych yn gwneud beth bynnag a ddisgwylir gennych. Mae'n rhaid i mi gyfaddef y ces i syndod pan aeth fy ngwraig yn feichiog y tro cyntaf. A bod yn onest nid oeddwn yn meddwl bod gennyf y gallu i fod yn dad gan i mi feddwl fy mod yn ormod o ferch. Peidiwch â chamddeall, roeddwn yn caru fy nwy wraig, ond wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaenau mae eich lefelau testosteron yn gostwng ac roedd Debbie yn dod i'r amlwg yn fwyfwy.  

“Debbie ydw i nawr a dw i ddim eisiau mynd yn ôl!”

Rhyddhad

A hithau'n teimlo'n rhydd, daeth Debbie, sy'n gweithio fel swyddog tai ar gyfer cymdeithas tai, allan i'w chyflogwyr ym mis Ionawr eleni ac mae hi wedi bod yn byw ac yn gweithio fel Debbie ers mis Awst eleni.

“Mae fy nghydweithwyr yn y gwaith wedi bod yn syfrdanol ac ni allwn fod wedi gofyn am fwy o gefnogaeth," meddai.

“Debbie ydw i ym mhobman nawr ac mae'n teimlo fel y 'fi' go iawn.”

Ar hyn o bryd mae Debbie yn mynd drwy'r broses o ailaseinio rhyw ac mae hi ar y rhestr aros ar gyfer llawdriniaeth, tua dwy flynedd i ffwrdd, a fydd yn ymwneud â thynnu ei bidyn ymaith. Mae’n broses hir ond mae hi'n credu y bydd i gyd yn werth chweil yn y pen draw.

“Dechreuodd fy nhaith pan es i weld fy meddyg, a'm cyfeiriodd fi i therapydd seicorywiol yng ngogledd Cymru sy'n arbenigo mewn hunaniaeth rhyw," meddai Debbie.

“Es i'w weld e ac fe drefnodd bedwar neu bump o sesiynau un awr. Ar ddiwedd yr awr cyntaf meddai, 'Debbie, dw i'n credu ein bod yn eich dal chi'n ôl, rydych chi'n barod i symud ymlaen.’ Fe gyfeiriodd fi i seiciatrydd, a ddywedodd yn union yr un peth. Erbyn hyn dw i ond yn aros am brawf gwaed i ganfod lefelau fy hormonau a'r hyn y mae angen ei wneud i ddechrau triniaeth hormonau.

“Mae'r llawdriniaeth ailaseinio rhyw tua dwy flynedd i ffwrdd bellach. Wrth dyfu i fyny roeddwn bob amser yn teimlo bod fy nghorff yn anghywir, a dw i'n cael y cyfle nawr i'w gywiro. Rwy'n aros bellach i'r GIG ddweud eu bod nhw'n barod.

“Pan oeddwn yn tyfu i fyny, roedd fy nhueddfryd rhywiol yn ddryslyd. Ces i rywfaint o gwnsela rai blynyddoedd yn ôl a gwnaethant dybio fy mod yn debyg i fenyw heterorywiol.   Yn bendant mi hoffwn i ganlyn efo dyn rhywbryd."

Goresgyn rhwystrau

Cafodd Debbie ei bwlio a'i phryfocio wrth dyfu i fyny ac mae hi'n dal i gredu y ceir cryn dipyn o stigma o hyd mewn perthynas â materion trawsryw oherwydd, yn ei thyb hi, diffyg addysg. Trwy'r gefnogaeth y mae Unique yn ei rhoi i unigolion a'r wybodaeth a hyfforddiant amrywiaeth y mae'n eu rhoi i'r gymuned ehangach, gwaith y grwp yw goresgyn rhwystrau a helpu pobl drawsryw i dderbyn eu hunain a chael eu derbyn gan bobl eraill.

“Pan fydd pobl yn ymwneud â chi, maen nhw'n sylweddoli mai person normal ydych chi," meddai.

“Yr unig wahaniaeth yw bod eich ymennydd yn wahanol o ran rhyw i'r un sydd ar y darn bach o bapur a roddir i chi ar ôl cael eich geni. Mae i gyd yn ymwneud ag addysg i bob pwrpas. Po fwyaf chi'n siarad â nhw, mwyaf maen nhw'n deall. Dyma ethos cyffredinol Unique - byddwn yn siarad ag unrhyw un sy'n barod i wrando arnom ni.

"Os galla i addysgu un person ac maen nhw'n dweud wrth hyd yn oed yn fwy o bobl, mae'r gair yn cael ei ledaenu a dyna hanner y frwydr. Mae llawer o sianeli teledu wedi gwneud rhaglenni am unigolion trawsryw a materion trawsryw dros y chwe blynedd diwethaf a dw i'n credu bod hynny'n peri i bobl sylweddoli nad rhywbeth dieithr a gwrthnysig yw e. Y ffaith yw bod yr ymennydd yn dweud un peth a'r corff yn dweud rhywbeth arall. Nid oes unrhyw beth y gallwch ei wneud amdano, mae yno yn eich pen, yn rhan annatod ohonoch chi."

Ychwanegodd: “Dw i'n credu mai'r ffordd orau o gynyddu ymwybyddiaeth yw trwy addysg. Yn yr hir dymor mae angen i ni fod yn addysgu plant yn yr ysgol. Os gallwn atal y stigma mewn ysgolion ni all ond wneud y dyfodol yn well ar ein cyfer."

Dyfodol newydd

Beth sydd ar y gorwel, felly, i Debbie?

“Dw i eisiau cael llawdriniaeth, cael tystysgrif cydnabod rhyw, tystysgrif geni i fenyw ac, i bob pwrpas, parhau gyda'r hyn dw i'n ei wneud gydag Unique,” meddai.

“Rwyf am fod fy hun, a sicrhau bod Unique yn parhau i fynd o nerth i nerth. Dyna'r peth pwysicaf. Cefnogaeth i bobl drawsryw yw'r peth gorau y gallant ei gael. Nid yw llawer ohonom ni mor gryf â minnau, a gallant ddioddef problemau iechyd.  Fel cymuned rydym yn gweld cryn nifer o bobl yn ceisio lladd eu hunain gan na allant gyrraedd y lle y maent eisiau bod yn ddigon cyflym, ac mae hynny'n effeithio ar eu hiechyd meddwl nhw a'u teuluoedd.”

Gan annog mwy o grwpiau yng Nghymru i ymgeisio am ariannu, meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, “Mae'r prosiect hwn yn enghraifft dda o sut gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn y cymunedau mwyaf anghenus. Dyna pam rydym yn annog mwy o grwpiau a phrosiectau cymunedol i fanteisio'n llawn ar fuddion y rhaglen hon.”

Ychwanegodd:  “Neges syml sydd gennym - os oes gan grwp cymunedol syniad ar gyfer prosiect sy'n cefnogi gweithgaredd cymunedol, yn estyn mynediad a chyfranogiad, yn cynyddu sgiliau a chreadigrwydd neu'n gwella ansawdd bywydau yn eu hardal yn gyffredinol, yn bendant rydym am glywed oddi wrthynt.”

Gellir lawrlwytho ffurflen ymgeisio'r rhaglen, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ei chwblhau a'i dychwelyd yn uniongyrchol drwy e-bost i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hefyd ar gael ar ffurf copi caled. Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy fynd i www.arianibawb.org.uk neu ffonio 0845 4 10 20 30.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH