Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Arian gan y Gronfa’n helpu Josephine i Gofio ei 'Stori Malta' ei hun

Area:
Cymru
Programme:
Arwyr yn Ôl
Release date:
21 2 2012

Diolch i grant gan raglen Arwyr yn Ôl 2 y Gronfa Loteri Fawr, fe ddychwelodd cyn-filwr o Ogledd Cymru yn ddiweddar i'w Malta Frodorol i gofio'r rôl y chwaraeodd wrth amddiffyn ynys y canoldir a oedd yn strategol bwysig rhag disgyn i afael yr Almaen Natsiaidd a'r Eidal Ffasgaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae Malta Story, ffilm ryfel glasurol Brydeinig o 1953 yn darlunio stori serch rhwng peilot RAF, a chwaraewyd gan Alec Guinness, a merch Maltaidd yn ystod amddiffyniad awyr arwrol o Falta pan roedd yr ynys dan warchae.

Josephine fel merch ifanc ym Malta cyn y rhyfel

Y mis hwn, fe ddychwelodd Josephine Barber, 85 oed, o'r Rhyl i'w Malta brodorol gyda'i mab, Paul Roberts, i gofio ei 'Stori Malta' ei hun, sy'n rhyfedd o debyg i'r stori serch a bortreadir yn y ffilm glasurol. Roedd Josephine yn gynllwyniwr yn Ystafelloedd Rhyfel tanddaearol Lascaris yn ystod y gwrthdaro ac roedd ganddi swydd bwysig o gyfeirio Lluoedd Prydain i ymladd ag awyrennau'r gelyn a monitro eu gweithgaredd.

Mae'n un o amryw o gyn-filwyr o Gymru sydd wedi gwneud y siwrnai emosiynol yn ôl i'r mannau ble y gwnaethant wasanaethu yn ystod y rhyfel. Mae rhaglen Arwyr yn Ôl y Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu £1 miliwn hyd yma i fwy na 830 o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, gweddwon, priod a gofalwyr o Gymru ar gyfer siwrneion yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a'r tu hwnt.

Yn ystod y rhyfel y cyfarfu Josephine â'i gwr cyntaf, Ted Roberts, milwr o Benrhyndeudraeth, Gogledd Cymru, a gafodd ei leoli am gyfnod byr ar yr ynys cyn cael ei anfon i ymladd yng nghyrch yr Eidal ac yna'r Dwyrain Canol. Er gwaethaf gwrthwynebiadau gan ei theulu Pabyddol ymroddgar ei bod yn priodi Protestant Prydeinig, fe roddodd ei thad ei fendith i Ted Roberts ac ar ôl y Rhyfel, fe ymgartrefodd yng Ngogledd Cymru gyda'i theulu newydd.    

Ganed Josephine Valetta, fel y'i galwyd bryd hynny, ym Malta ar 19 Mawrth, 1926. Roedd yn byw gyda'i theulu yn nhref Floriana, a oedd yn edrych dros Grand Harbour Valletta a oedd o bwys strategol. Cafodd ei magu ar ynys Ganoldir hardd, ac roedd bywyd cyn y rhyfel yn berffaith ar gyfer Josephine a'i theulu.

"Roedd bywyd yn heddychol ac arferem ddod ynghyd fel teulu a chael picnics gyda cherddoriaeth yn chwarae drwy'r amser," mae'n cofio.

Yn wyneb peledu trwm, rhwng 1940 a 1942, roedd Prydain yn ei chael hi’n anodd dal gafael ar ynys Malta gan ei bod mor hanfodol i gadw llinellau cyflenwi'r Cynghreiriaid yn agored. Roedd Malta yn gadarnle milwrol a llyngesol arwyddocaol, gan mai dyna'r unig ganolfan y Cynghreiriaid rhwng Gibraltar a'r Aifft. Fe wnaeth ei werth gynyddu'n sylweddol ar ôl agor ffrynt newydd yng Ngogledd Affrica. Mewn cyfnod o ddwy flynedd, hedfanodd Llu Awyr yr Almaen a'r Eidal gyfanswm o 3,000 o gyrchoedd bomio dros Falta mewn ymdrech i ddinistrio amddiffynfeydd RAF a'r porthladdoedd a chipio'r ynys bwysig hon yn strategol drostynt eu hunain. Heb unman i ddianc, tystiodd Josephine a'i theulu pob darn o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y brwydro.

O Dan Warchae

Ar 9 Mehefin, 1940, penderfynodd yr Eidal ymuno â thôn fuddugoliaethus yr Almaen gan ddatgan rhyfel ar Ffrainc a Phrydain. Y bore canlynol, ymosododd awyrennau bomio'r Eidal ar Falta (a oedd yn wladfa Brydeinig bryd hynny), â'r bwriad o fomio'r ynys yn deilchion gan niwtralu ei galluoedd ymosodol. Cafwyd sibrydion mai'r unig awyren a oedd ar gael ar yr ynysoedd ar 11 Mehefin oedd awyrennau dwbl - a enwyd yn gyflym yn Faith, Hope a Charity - y gwnaeth eu peilotiaid ymladd â chymaint o sgil a chadernid fel i beilotiaid yr Eidal amcangyfrif bod cryfder sgwadron Malta oddeutu 25 awyren.

"Dim ond tair awyren yr oedd gennym i amddiffyn yr ynys ar y pryd ac roeddynt yn rhai hynafol," dywed Josephine.

"Doedd dim gobaith ganddynt ond wedyn pan ddaeth yr Almaenwyr roedd gennym awyrennau spitfire."  

“Fe wnaethant daro ein tref, Floriana yn gyntaf, oherwydd roedden ni'n edrych dros y Grand Harbour. Yr Eidalwyr a ddaeth gyntaf ond roeddynt yn hedfan mor uchel ac yn gollwng eu bomiau o leoliad mor uchel roeddynt yn methu'r wlad y rhan fwyaf o'r amser ac aeth eu bomiau yn syth i'r môr. Ni allwn eu gweld hwy hyd yn oed gan eu bod mor uchel. Dim ond fy chwaer yng nghyfraith a allai eu gweld, felly mae'n debyg bod ganddi hi olwg gwych."

Serch hynny, ym mis Ionawr 1941, cymerodd  Luftwaffe yr Almaen drosodd a dyna pryd y gwyddai Josephine a'i theulu eu bod mewn Rhyfel go iawn.

"Pan ddaeth yr Almaenwyr y gwnaethpwyd y difrod," dywed Josphine.

"Roeddent yn hedfan mor isel fe allech chi fod wedi siarad â'r peilotiaid a doedd dim gobaith y bydden nhw’n methu'r targed o'r fan hynny - ac ni wnaethant."

“Roedd yn frawychus iawn ac roeddem eisiau bwyd oherwydd nid oedd llawer o'r cyflenwadau yn cyrraedd trwy'r porthladd.”

“Y peth oedd yn achosi'r pryder mwyaf i mi oedd ble'r oeddwn yn mynd i gael y pryd nesaf. Roedd rhai pobl yn bwyta llygod Ffrengig ond doedd dim gobaith y byddwn i’n eu bwyta. Doedd pethau ddim yn ddrwg ar y dechrau oherwydd roedd Mussolini yn cadw pawb i ddyfalu ynglyn â pha ochr y byddai'r Eidalwyr yn ymladd. Pan ddewisodd yr Almaenwyr, rwy'n cofio mam yn dyblu ei harcheb bwyd misol ac yn pentyrru bwyd a fyddai'n cadw. Fe wnaeth hi achub bywydau llawer o blant trwy roi bwyd i'r rheini oedd â dim. Fe wnaeth un wraig a fudodd i Awstralia ar ôl y rhyfel anfon carden Nadolig i fy mam bob blwyddyn ar ôl hynny gan iddi achub bywydau ei phlant yn ystod y rhyfel. Dywedodd na allai fyth ei had-dalu am achub ei babanod."  

Rhamant yn y Rwbel

Yn yr un modd ag y disgynnodd y wraig ifanc yn y ffilm Malta Story mewn cariad â chymeriad Alec Guinness, disgynnodd Josphine mewn cariad â'i darpar wr cyntaf a thad Paul, Ted Roberts, milwr o Ogledd Cymru yn gwasanaethu yng Nghatrawd Manceinion a gafodd ei leoli ar yr ynys rhwng 1940 a 1943 cyn mynd i ymladd yng nghyrch yr Eidal a'r Dwyrain Canol.   

"Fe wnes i gwrdd ag ef ar fws ar fy ffordd i briodas," mae Josephine yn cofio.

“Mae'n dweud iddo ddisgyn mewn cariad â mi yn syth a gwyddai ei fod eisiau fy mhriodi i. Ni fyddwn wedi dewis eistedd wrth ymyl milwr oherwydd byddai fy rhieni wedi bod yn anhapus â hynny. Ond roedd y bws yn llawn, felly roedd yn rhaid i mi eistedd wrth ei ymyl. Roedd tai mawr yn Floriana ble'r oeddwn yn byw, yn llawn milwyr. Ond doedd dim gobaith ganddynt gyda'r merched lleol. Rwy'n meddwl mai fi oedd yr unig un i ddyweddïo gyda milwr."

Yn ofni'r canlyniadau, cadwodd Josphine y berthynas yn gyfrinach oddi wrth ei theulu am gyfnod hir:

"Mae fy nheulu yn Babyddion ymroddgar ac ni fyddent wedi'i dderbyn ar y pryd," dywed.

"Dim ond pan wnaeth e ofyn i mi ei briodi yr aeth i ofyn i fy nhad am ganiatâd. Ni allai fy nhad ddeall pam nad oeddwn eisiau priodi rhywun o Falta. Serch hynny, fe roddodd fy nhad ei fendith ac fe wnaethom ddyweddïo. Yna, ar ôl dwy flynedd, fe aeth i'r Eidal i ymladd yng Nghyrch yr Eidal ac yna'r Dwyrain Canol. Pan roeddem yn blant ifanc, arferem redeg heibio barics y fyddin oherwydd roeddem yn ofni'r milwyr - ac fe wnes i briodi un yn y diwedd. Mae'n debyg eich bod chi'n dechrau teimlo trueni drostynt. Maen nhw'n bell o gartref, eisiau bwyd ac yn ymladd drosoch chi."

Josephine ar ddiwrnod ei Phriodas ym Mhorthmadog gyda’i gwr cyntaf, Ted Roberts

Fe wnaeth cydymdeimlad a charedigrwydd Josephine groesi ffiniau'r rhyfel.

"Rwy'n cofio teimlo trueni dros fachgen ifanc o'r Almaen a oedd yn garcharor rhyfel yn y barics yng ngorsaf awyrennau Luqa,” dywed Josephine.

"Roedd eisiau bwyd yn ofnadwy. Arferai mam rostio coes gyfan o borc felly fe wnes i rai brechdanau ar gyfer y bachgen hwn ac roedd wrth ei fodd. Ni fyddai Mam wedi poeni oherwydd roedd hi'n Gristnogol iawn ac roedd ganddi ddau fab yn y RAF. Mae'n siwr y byddai wedi hoffi i rywun arall wneud yr un peth ar eu cyfer hwy pe bai hwy'n Garcharorion Rhyfel."

Ymladd i Oroesi

Yn ystod gwarchae'r ynys, daeth y sefyllfa yn anobeithiol gyda sifiliaid yn cael eu claddu'n ddyddiol o dan rwbel a newyn yn dod yn gyffredin wrth i longau nwyddau'r Cynghreiriaid ar y môr ddod yn darged hawdd i ymosodiadau awyr y gelyn.

"O'n cartref ni fe allech chi weld dros yr harbwr i gyd a'r holl ymosodiadau," dywed.

"Rwy'n cofio'n gynnar un bore fe geisiodd yr Almaenwyr ddod i mewn i ymosod ond cafodd yr holl awyrennau eu ffrwydro fel matsis. Roedd hynny’n drist oherwydd roeddynt oll yn bobl go iawn ac roeddwn yn teimlo trueni drostynt er mai hwy oedd y gelyn. Weithiau fe allem wylio'r ymosodiadau o'n cartref pe bai hwy ar ochr arall yr harbwr."

Yn anffodus, nid oedd unman i guddio rhag y bomiau ar gyfer cartref teuluol Josephine: "Cafodd ein ty ei fomio ac fe'i torrwyd yn hanner fel darn o gaws," dywed.

“Roeddwn yn Sliema pan glywais y newyddion ac fe allwn fod wedi curo Roger Bannister yn rhedeg y diwrnod hwnnw oherwydd mi wnes i redeg yr holl ffordd o Sliema i Floriana ble'r oeddem ni'n byw (pum milltir). Roedd mam a dad yn ffodus i oroesi. Roeddent yn y lloches o dan y ty, er fe wnaeth yr holl bibellau dwr ffrwydro ac roedd ganddynt ddwr i fyny at eu pengliniau."

"Roedd yn dy hyfryd ac roedd gennym lestri hyfryd. Y pethau gorau i gyd. Yn amlwg roeddem yn drist iawn ond fe wnaeth fy nhad ei roi yn ei gyd-destun trwy ddweud bod pobl yn marw yn y rhyfel dros y byd i gyd a'n bod ni'n ffodus i fod yn fyw. 'Gellir ailadeiladu'r ty a gallwn brynu llestri newydd,' dywedodd."

"Fe wnes i aros yn y ty hwn wedi'i fomio gyda milwyr Prydain am sbel. Fe wnaethant roi blanced y fyddin i mi er mwyn i mi gael preifatrwydd i gysgu."

Josephine Barber yn gwisgo ei medal Siôr ger Ystafelloedd Rhyfel Lascaris yn Valletta

Priodas i'w Chofio

Cafodd Josephine a'i chwaer ddihangfa ffodus arall ar ddiwrnod priodas ei chwaer ym mis Ebrill 1942: "Fe briododd fy chwaer ddyn o'r RAF, George Ellis, a oedd wedi'i leoli yn Luqa ac roeddwn i'n forwyn iddi. Roeddem yn gyrru'n agos at yr orsaf awyrennau ar y ffordd i'w phriodas pan, yn sydyn, fe ymosodwyd arnom gan awyren ymladd yr Almaen," dywed Josephine.

“Fe wnes i neidio allan o'r car a gorwedd yn fflat ar fy môl ar y llawr. Rwy'n cofio fy chwaer yn gweiddi arnaf am ddwyno fy ffrog cyn inni dynnu ei lluniau priodas.”

“Mae'n rhaid bod yr awyren ymladd wedi gweld y dynion mewn iwnifform wrth iddi amgylchynu a phenderfynu ymosod a saethu tuag atom â gwn peiriant. Rwy'n cofio un o beilotiaid yr Almaen yn codi llaw arnaf o'r sedd beilot, dyna pa mor agos yr oeddent. Rwy'n cofio chwifio fy nwrn ato mewn dicter. Roedd mor haerllug."

"Cafodd Ty Opera Brenhinol Valletta ei fomio hefyd ar ddiwrnod priodas fy chwaer. Roedd yn replica o'r un yn Rhufain. Pan es i'n ôl ar fy ymweliad diweddar, fe welais y ty Opera newydd yn cael ei ailadeiladu i'w ysblander blaenorol, roedd hynny'n beth braf."

Yr Ymosodiad ar Illustrious

Mae’r ymosodiad yn harbwr Valletta ar gludydd awyrennau newydd Prydain, HMS Illustrious, hefyd yn amlwg ym meddwl Josephine, yn enwedig gan y gallai weld yr holl ddigwyddiadau yn bersonol o'i chartref yn Floriana. Fe wnaeth y cludydd helpu i hebrwng confois yn cludo cyflenwadau hanfodol i Falta ac fe gafodd ei fomio yn drwm yn ystod un cyrch o'r fath ym mis Ionawr 1941. Fe wnaeth y cyrchoedd ddifrodi'r iard longau a thair dinas ond fe wnaeth yr Echel fethu â'i boddi er iddi gael ei difrodi'n drwm allan ar y môr ac yn y porthladd ei hun.   

"O'n ty ni fe welsom yr Illustious yn dod i mewn ac yn cael ei bomio," mae Josephine yn cofio.

"Dywed y Prydeinwyr na chafodd neb eu hanafu ond fe allem weld yr Ambiwlansys yn mynd i mewn o'n ty ni ac yn cludo'r rhai a oedd wedi'u hanafu i'r ysbyty milwrol. Dyna'r rhyfel i chi. Nid ydych chi eisiau i'r gelyn wybod eu bod wedi'ch niweidio chi. Cafodd llawer o forwyr eu hanafu, a'u lladd hefyd, ddywedwn i. Am ddeuddeg diwrnod o dan ymosodiadau trwm o'r awyr, fe ddaeth pawb ynghyd i atgyweirio'r llong yn y Grand Harbour a sicrhau na fyddai'n boddi. Yn filwyr, yn forwyr ac yn bobl leol. Fe gafodd ei tharo sawl gwaith. Mae'n rhaid bod yr Almaenwyr wedi rhyfeddu pan ddaethant yn ôl i'w suddo un diwrnod a gweld ei bod wedi mynd o'r harbwr. Roeddent yn benderfynol o'i suddo, ond methu y gwnaethant."

Bywyd Tanddaearol yn y Canoldir

Yn 17 oed ym 1943, fe ymunodd Josephine â'r fyddin gan ddod yn gynllwyniwr yn Ystafelloedd Rhyfel y Lascaris, haen danddaearol ddwfn a adeiladwyd yn y graig a gafodd ei defnyddio gan Bencadlys Gweithredol y Cynghreiriaid fel man diogel i gynnal gweithredoedd. Roedd gan Josephine rôl bwysig o gynllunio gwybodaeth yn ymwneud â gweithgaredd awyrennau'r gelyn ar fap grid anferth, a fyddai wedyn yn cael ei throsglwyddo i Reolaeth Ymladd a fyddai'n defnyddio'r wybodaeth i gyfeirio awyrennau a fyddai'n hedfan i mewn i ymladd â'r gelyn. Nid oedd yn ddigon hen i ymuno, ond fe berswadiodd yr offeiriad lleol i greu tystysgrif geni ffug iddi i'w gwneud yn flwyddyn yn hyn er mwyn iddi ymuno â'r ymdrech.

"Roeddem yn ddiogel iawn yn yr ystafelloedd rhyfel oherwydd ein bod ni mor bell dan ddaear," dywed Josephine.

"Ni allai awyrennau bomio'r Almaen ein cyrraedd ni yno. Weithiau, ond yn anaml iawn, os oeddent yn bwrw'r môr ar ein hochr ni, fe allem deimlo'r dirgryniadau. Dyna'r unig bryd y byddem yn eu clywed."

Josephine yn edrych ar hen luniau a chofbethau o’r Ail Ryfel Byd gyda’i mab, Paul Roberts

Croes Siôr i Josephine

Fe wnaeth dewrder pobl Malta yn ystod ail Warchae Malta arwain at Frenin Siôr VI yn gwobrwyo Croes Siôr i Falta gyfan ar 15 Ebrill 1942 "am iddynt ddangos arwriaeth ac ymroddiad a bery'n enwog o fewn hanes." Mae Josephine yn un o'i derbynyddion balch ac fe wisgodd y fedal ag anrhydedd wrth iddi ddychwelyd yn ddiweddar i Falta gyda'i mab.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi ymestyn ei rhaglen Arwyr yn Ôl 2. Nid oes dyddiad terfyn penodol ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd. Mae'r estyniad hwn ar gyfer y cyn-filwyr hynny nad ydynt wedi gallu mynd ar eu hymweliad coffaol hyd yma.

Mae mwy o wybodaeth a manylion am sut i ymgeisio am grant Arwyr yn Ôl 2 ar gael drwy ffonio 0845 00 00 121 neu drwy fynd i www.biglotteryfund.org.uk/heroesreturn.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn parhau â'i chefnogaeth i gyn-filwyr y DU drwy ei menter Forces in Mind £35 miliwn a fydd yn sefydlu ymddiriedolaeth annibynnol i ddarparu cefnogaeth ac eiriolaeth hir dymor i gyn-filwyr. Bydd yr ariannu'n helpu cyn-filwyr a wasanaethodd mewn rhyfeloedd gan gynnwys Irac, Afghanistan a Rhyfel y Gwlff sy'n ei chael hi'n anodd trawsnewid i fywyd allan o'r lluoedd arfog, yn enwedig y rhai y mae eu lles seicolegol yn effeithio wedyn ar ansawdd eu bywydau a bywydau'r rhai sydd o'u cwmpas.

Arwyr yn Ôl oedd canolbwynt y rhaglen Aduno Cyn-filwyr a oedd yn cynnwys Cofio'r Ffrynt Cartref a ddyfarnodd £19.2 miliwn i gefnogi digwyddiadau grwp a gweithgareddau yn y DU i gofio'r rhieni a gyfrannodd at ymdrech y rhyfel ar y ffrynt cartref, ac Eu Gorffennol Eich Dyfodol gyda chynllun parhaus gwerth £9.6 miliwn yn ariannu rhaglen ysgolion ac addysg ar draws y DU i roi cyfle i bobl ifanc ddysgu drostynt eu hunain gan gyn-filwyr ynglyn â'u profiad o'r rhyfel.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a godir at achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.  
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
  • Darparodd y cynllun Arwyr yn Ôl gwerth £17 miliwn o ariannu i gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gwragedd a'u gwyr, eu gweddwon a lle bo angen, eu gofalwyr presennol, i ddychwelyd i'r mannau tramor lle gwelsant y gad.  Trwy greu cyswllt â gweithgareddau a ariannwyd drwy'r cynllun Eu Gorffennol Eich Dyfodol, mae Arwyr yn Ôl hefyd yn helpu i wella dealltwriaeth pobl ifanc o'r ymdrechion a'r ebyrth a wnaed gan gyn-filwyr.
  • Darparodd Cofio'r Ffrynt Cartref grantiau rhwng £500 a £20,000 ar gyfer prosiectau rhanbarthol a lleol ar draws y DU yn 2004-2005 i goffáu digwyddiadau'r Ail Ryfel Byd a chyfraniadau grwpiau gwahanol mewn cymdeithas.  Ariannodd y cynllun amrywiaeth eang iawn o brosiectau gan gynnwys diwrnodau cymunedol arbennig; aduniadau ac arddangosfeydd; recordiadau o brofiadau'r rhai a fu'n byw drwy gyfnod y Rhyfel; dramâu a darnau o waith celf creadigol. Yn ogystal, ariannodd y cynllun nifer o grantiau cenedlaethol i sefydliadau megis y TUC i ariannu amrywiaeth o weithgareddau coffáu.
  • Mae Eu Gorffennol Eich Dyfodol yn gynllun ysgolion ac addysg parhaus ledled y DU sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu o lygad y ffynnon gan gyn-filwyr am eu profiadau o ryfel. Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cydweithio'n agos â'r Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol a'r sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ledled y DU i helpu pobl ifanc i ymchwilio a dysgu am brofiadau a rolau personol y rhai yn y lluoedd arfog a phobl gyffredin. Mae cystadlaethau wedi galluogi ysgolion i gymryd rhan mewn ymweliadau sy'n ymwneud â'r Ail Ryfel Byd gyda chyn-filwyr. Mae gan yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol wefan (www.theirpast-yourfuture.org.uk) sy'n cynnig amrywiaeth helaeth o adnoddau i ysgolion eu defnyddio ynghyd â manylion prosiectau a gyflwynir gan amgueddfeydd ledled y DU.

Tags

Buddiolwyr

  • Cyn-filwyr
ADBORTH