- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 16 10 2012
Mae grwpiau sy'n cynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd anarferol a phrosiect sy'n cefnogi dioddefwyr trais domestig ymysg y rhai sy'n rhannu'r rownd ddiweddaraf o arian gan y Loteri Genedlaethol.
At ei gilydd bydd 44 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £178,347 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf Arian i Bawb, rhaglen grantiau bach y Gronfa Loteri Fawr (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad. Cysylltwch â Ben Payne i gael disgrifiadau llawn o'r prosiectau).
Bydd £4,375 gan Arian i Bawb yn dod â The Arthrogryposis Group i Gymru am y tro cyntaf, gan godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr anarferol. Mae pobl gyda Arthrogryposis amryfath cydenedigol yn cael eu geni gyda chymalau crwm mewn nifer o rannau o'r corff. Mae'r cyflwr yn amrywio'n fawr a gall effeithio ar bob unigolyn mewn ffordd wahanol. Bydd yr ariannu'n cynnal 'Big Welsh Meet' yng Nghymru a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr a'r driniaeth sydd ar gael.
Bydd y digwyddiad yn annog unigolion a theuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan arthrogryposis i rannu profiadau a dod o hyd i wybodaeth. Bydd y gefnogaeth hon yn eu galluogi i rannu profiadau o lygad y ffynnon o fyw ac ymdopi â'r cyflwr.
Bydd y grwp hefyd yn helpu i hyfforddi gwirfoddolwyr i weithredu fel cwnsleriaid i ddarparu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan y cyflwr.
Meddai Jacqui Marr, Swyddog Cyswllt Cenedlaethol, The Arthrogryposis Group: "Mae'n rhoi cyfle hefyd i ni gynnal cyfres o weithdai bod yn gyfaill gwirfoddol sydd â'r nod o drosglwyddo awgrymiadau ymarferol a darparu'r sgiliau angenrheidiol i aelodau o Gymru gefnogi pobl eraill sy'n ceisio cyngor a gwybodaeth ar arthrogryposis."
Mae'r Gymdeithas Anemia Dinistriol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn grwp arall sy'n cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd y mis yma. Dyfarnwyd £5,000 i'r prosiect. Gydag Anemia Dinistriol, ni all y corff amsugno fitamin B12.
Mae'r gymdeithas yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr, teuluoedd a ffrindiau, a defnyddir yr arian i greu cyfres o ddigwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cyflwr hwn sy'n effeithio ar fywydau bob dydd. Bydd y digwyddiadau hefyd yn creu cysylltiadau â gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn treialu ffordd newydd o drin y cyflwr.
I gynyddu ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, mae, Cymorth Menywod Pontypridd yn derbyn £4,546 i ddarparu hyfforddiant Pecyn Cymorth Ailsefydlu ar ôl Cam-drin Domestig ar gyfer dioddefwyr i gynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer menywod yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig.
Meddai'r rheolwr cyllid, Moira Jones: "Mae'r Pecyn Cymorth Ailsefydlu'n defnyddio model seico-addysgol sy'n seiliedig ar alluogi unigolion i ddeall ac ymdopi'n well â'u profiadau blaenorol trwy roi gwybodaeth iddynt. Mae cryfderau, adnoddau a sgiliau ymdopi'r unigolion yn cael eu cryfhau, gan gyfrannu at eu hiechyd a'u lles personol dros yr hir dymor.
Bydd y Pecyn Cymorth Ailsefydlu ar ôl Cam-drin Domestig yn cael ei redeg gan Sue Penna Associates ac yn cynnwys hyfforddiant datblygu hyder personol a hunanymwybyddiaeth.
Mae cangen canolbarth Cymru Motorcycle Action Group (MAG) yn Aberystwyth wedi derbyn grant Arian i Bawb o £2,500. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer y rhai sydd â beiciau modur. Bydd MAG yn ymgysylltu â'r cyhoedd trwy sioeau teithiol, diwrnodau hyfforddiant a deunyddiau darllen, i gyd wedi'u cyflwyno gan wirfoddolwyr.
Bydd yn sicrhau hefyd bod y cyhoedd yn deall manteision defnyddio eu beiciau'n ddiogel trwy wella hyfforddiant, diogelwch ac ymwybyddiaeth.
Meddai Ian Williamson, o MAG,: "Bydd y grant yn galluogi MAG i gynorthwyo'r rhai sy'n ddifreintiedig neu o grwpiau lleiafrifol i gymryd y camau cyntaf tuag at fod yn annibynnol o ran cludiant, a bydd hefyd yn dangos i bobl y gall cludiant ar ddwy olwyn fod yn rhad ac yn llesol i'r amgylchedd.
Mae Prosiect Undod LGBT (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryw) Bae Abertawe wedi derbyn £5,000 i gynnal prosiect bod yn gyfaill yn Abertawe. Bydd y prosiect hwn yn cynnig gwasanaeth bod yn gyfaill er mwyn i bobl dros 55 oed ymwneud â'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryw.
Yn gwella gwasanaethau i'r genhedlaeth hyn hefyd yw Gofal a Thrwsio Conwy, sydd wedi derbyn £4,477 i greu prosiect Rhannu Gwybodaeth.
Bydd yr ariannu'n galluogi rhannu adnoddau gyda'r cyhoedd, mudiadau'r trydydd sector ac asiantaethau i gynyddu ymwybyddiaeth o nwyddau a gwasanaethau. A bydd hefyd yn darparu cydau cymorth i bobl hyn i wella'u bywydau a'u diogelwch, gan alluogi iddynt barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Meddai Eirian James, swyddog datblygu, Gofal a Thrwsio Conwy: "Trwy'r prosiect hwn y gobaith yw y bydd pobl yn llai tebygol o gael eu twyllo trwy dderbyn gwybodaeth well am y risgiau."
Ymysg y prosiectau eraill sy'n gwella ymwybyddiaeth gymunedol mae prosiect darllen Cymdeithas Trigolion Pentre Mawr a gafodd ddyfarniad o £2,326. Bydd yr arian hwn yn galluogi plant i wella'u sgiliau darllen yn gyfnewid am ddysgu sgiliau technoleg ddigidol newydd i'r trigolion. Derbyniodd y grwp Cilgerran Walkers Are Welcome yn Sir Benfro ariannu o £4,850 i greu llyfryn dwyieithog o deithiau cerdded yn yr ardal. Gobeithir y bydd hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth o'r ardal leol ymysg y gymuned, yn ogystal â denu twristiaid.
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Mae ffurflenni cais ar gael i'w lawrlwytho yn Gymraeg a Saesneg o www.arianibawb.org.uk neu drwy ffonio 0845 4 10 20 30.
Rhestr lawn y dyfarniadau:
| Mudiad |
Lleoliad |
Dyfarniad |
--- |
Mudiad |
Lleoliad |
Dyfarniad |
| Rhwydwaith Clybiau Plant Ynys Môn |
Ynys Môn |
£2,625 |
: |
SEWREC LTD |
Newport |
£4,310 |
| Trydydd Cybiau a Sgowtiaid Maesteg |
Pen-y-bont ar Ogwr |
£4,965 |
|
Marloes and Dale Public Access Defibrillator Scheme |
Sir Benfro |
£4,000 |
| Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Rhisga |
Caerffili |
£4,232 |
|
Yr Hen Ysgol Dinas |
Sir Benfro |
£5,000 |
| Ysgol Gynradd Llysfaen |
Caerdydd |
£1,222 |
|
Cymdeithas Neuadd Pentref Abercych |
Sir Benfro |
£4,936 |
| Cymdeithas Cyn-filwyr Llanelli |
Sir Gâr |
£5,000 |
|
Cilgerran 'Walkers Are Welcome' |
Sir Benfro |
£4,850 |
| Pensiynwyr Cwmaman |
Sir Gâr |
£1,197 |
|
Cymdeithas Rhandiroedd Tygwyn |
Powys |
£4,098 |
| Clwb Caredig |
Sir Gâr |
£4,945 |
|
Canolfan Gymunedol Llanidloes |
Powys |
£4,912 |
| Cyngor Eglwys Plwyf Betws Dewi Sant Rhydaman |
Sir Gâr |
£4,995 |
|
Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes |
Powys |
£2,000 |
| Clwb Lles Carmel a'r Cylch |
Sir Gâr |
£4,291 |
|
Friends of Four Seasons |
Rhondda Cynon Taf |
£2,339 |
| Clwb Ar Ôl Ysgol y Ddwylan |
Sir Gâr |
£4,947 |
|
Tenantiaid a Thrigolion Mount Pleasant |
Rhondda Cynon Taf |
£3,500 |
| Ysgol Gynradd y Bigyn |
Sir Gâr |
£4,900 |
|
Creative Cynon |
Rhondda Cynon Taf |
£4,062 |
| Clwb Hwyl Y Plant |
Ceredigion |
£4,895 |
|
Cymorth Menywod Pontypridd Cyfyngedig |
Rhondda Cynon Taf |
£4,546 |
| Ysgol Gymunedol Gynradd Llechryd |
Ceredigion |
£5,000 |
|
Grŵp Sgowtiaid 1af Dyffryn Lliw (Casllwchwr) |
Abertawe |
£4,200 |
| Cymdeithas Trigolion Pentre Mawr |
Conwy |
£2,326 |
|
Prosiect Undod LGBT Bae Abertawe |
Abertawe |
£5,000 |
| Ysgol Clawdd Offa |
Sir Ddinbych |
£5,000 |
|
Plwyf Cilâ |
Abertawe |
£3,300 |
| Grŵp Gweithredu Ieuenctid Y Rhyl Cyfyngedig |
Sir Ddinbych |
£4,705 |
|
Grŵp Arthrogryposis |
Abertawe |
£4,375 |
| Clwb Ar Ôl Ysgol Yr Hybarch Edward Morgan |
Sir y Fflint |
£4,233 |
|
Cymdeithas Pensiynwyr Menywod Treforys |
Abertawe |
£2,910 |
| Clwb Dawns Gilwern |
Sir Fynwy |
£4,643 |
|
Pobl yn Gyntaf y Fro Cyfyngedig |
Bro Morgannwg |
£4,932 |
| U3A Y Fenni |
Sir Fynwy |
£2,760 |
|
Cyfeillion Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-y-garn |
Torfaen |
£4,788 |
| Cymdeithas Anemia Dinistriol |
Castell-nedd Port Talbot |
£5,000 |
|
Gofal a Thrwsio Conwy |
Cymru |
£4,477 |
| Prifysgol y Drydedd Oes Castell-nedd |
Castell-nedd Port Talbot |
£4,942 |
|
Aberystwyth MAG |
Cymru |
£2,500 |
| Grŵp Cefnogi Anghenion Arbennig Castell-nedd Port Talbot |
Castell-nedd Port Talbot |
£4,977 |
|
Merched y Wawr Maelog |
Cymru |
£1,512 |
Mwy o Wybodaeth:
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Tags