Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Awydd am Arloesi’n Darparu Adduned Blwyddyn Newydd Prosiectau o Gymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
11 1 2012

Mae prosiect i ddarparu cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sy'n weithwyr rhyw a phrosiect i fynd i'r afael â hiliaeth ac eithafiaeth y dde eithaf ymysg pobl ifanc ymhlith yr ystod o grwpiau ledled Cymru i rannu mwy nag £1 miliwn a ddyfarnwyd heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr.

Bydd cyfleoedd am gyfweliadau, ffilmio a lluniau gyda chynrychiolwyr y Gronfa Loteri Fawr a phrosiectau ar gael ar gais drwy gysylltu â Swyddfa Wasg y Gronfa. Mae Stephanie Lloyd, Swyddog Menywod Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM), hefyd ar gael i drafod y sefyllfa bresennol ynglyn a myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw yng Nghymru.

Bydd pum prosiect ar draws Cymru'n rhannu'r £1,376,049 a ddyfarnwyd o dan rownd gyntaf y rhaglen Awydd am Arloesi, a fydd yn rhoi cefnogaeth benodol i brosiectau sy'n profi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol datblygol a chyfredol (Cliciwch yma i weld rhestr lawn o ddyfarniadau 
- 33KB
).

Daw'r newyddion wrth i'r rhaglen agor i'r ail rownd o geisiadau, gyda darpar ymgeiswyr yn cael tan ddydd Iau, 23 Chwefror, 2012 i ymgeisio am grantiau rhwng £20,000 ac £1 miliwn ar gyfer prosiectau arloesol newydd.

Mae asiantaethau iechyd rhyw, academyddion ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi mynegi pryderon bod nifer cynyddol o fyfyrwyr yn gweithio yn y farchnad rhyw yng Nghymru i dalu am eu haddysg, ac nad yw'r myfyrwyr hyn, o bosib, yn hygyrchu gwasanaethau iechyd rhyw priodol. Bydd grant o bron hanner miliwn o bunnoedd (£489,143) a ddyfernir o dan y rownd gyntaf i Brifysgol Abertawe yn ei galluogi i redeg y prosiect Interactive Health: Student Sex Workers. Defnyddir yr arian i sefydlu prosiect tair blynedd i hyrwyddo dysgu a dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr sy'n weithwyr rhyw a materion cysylltiedig, ac i ddarparu gwasanaeth iechyd rhywiol arloesol ar eu cyfer.

Bydd y prosiect yn darparu cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru y maent yn weithwyr rhyw, a bydd yn eu cyfeirio i wasanaethau lleol. Bydd y prosiect hefyd yn darparu gwybodaeth iechyd rhywiol ac arweiniad arfer da ar gyfer Prifysgolion a gwasanaethau lleol yng Nghymru.

Gan amlygu pwysigrwydd y prosiect, meddai Dr Tracey Sagar, Prif Ymchwilydd y prosiect a Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe sy'n arbenigo mewn rheoleiddio gwaith rhyw:

“Ar hyn o bryd rydym yn gwybod bod gennym gymuned o fyfyrwyr sy'n weithwyr rhyw yng Nghymru, ond nid ydym yn deall eu cymhelliant a'u hanghenion. Bydd y prosiect hwn yn ymdrin â'r bwlch hwn mewn gwybodaeth ac yn datblygu gwasanaethau sy'n 'addas i'r diben'."

“Gan ddechrau ym mis Mehefin 2012 a chan weithio gyda'n partneriaid arbenigol - Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Cardiff and Vale Integrated Sexual Health, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac Ysgol Ffilm Casnewydd, byddwn yn cychwyn ar ymgyrch cynyddu ymwybyddiaeth amlgyfrwng ac yn datblygu gwasanaeth e-iechyd ar draws sectorau ar gyfer myfyrwyr sy'n weithwyr rhyw yng Nghymru. Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol mae angen ariannwr gwrthrychol y mae'r peth pennaf ar ei gyfer yw'r 'gymuned' a'r 'angen' am ariannu prosiect arloesol fel hwn. Rydym yn hynod o ddiolchgar i raglen Awydd am Arloesi'r Gronfa Loteri Fawr am wneud y dyfarniad hwn."

Gyda'r nod o ymdrin â'r potensial ar gyfer hiliaeth ac eithafiaeth y dde eithaf yn Abertawe, bydd y Tîm Cefnogi Pobl Ifanc Ethnig yn defnyddio eu dyfarniad o £169,916 i redeg y Think Project, a fydd yn profi ac yn datblygu ffyrdd newydd o weithio gyda'r bobl ifanc groenwyn sydd wedi'u dadrithio fwyaf yng Nghymru. Nod y prosiect yw ymateb i'r heriau a geir oherwydd bodolaeth a chyfreithlonrwydd cynyddol yr adain dde eithaf yn y DU ac Ewrop a normaleiddiad cynyddol rhethreg agweddau ac ymddygiad hiliol ar lefel leol a chenedlaethol.

Gan amlinellu pwysigrwydd y prosiect, sydd i ddechrau fis Ebrill eleni, meddai Cyfarwyddwr y Tîm Cefnogi Pobl Ifanc Ethnig, Rocio Cifuentes: “Yn anffodus, er gwaethaf datblygiadau megis llofruddwyr Steven Lawrence yn wynebu eu cosb o'r diwedd, nid yw hiliaeth a chefnogaeth i'r dde eithaf yn rhywbeth hanesyddol ond yn realiti byw mewn rhai rhannau o'n cymuned. Trwy Think Project gobeithiwn gydweithio â phobl ifanc nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i ddysgu llawer o bethau positif am fewnfudwyr, pobl dduon ac yn y blaen, a newid hwn drwy roi cyfle iddynt ddysgu, profi a meddwl drostynt eu hunain, gan gydnabod eu cwynion ar yr un pryd a'u helpu i wella'u cymunedau.”

Ac mewn prosiect arall sy'n cwmpasu Cymru gyfan, bydd elusen Barnardos yn gwario £265,572 ar ddatblygu offer asesu safonol i'w ddefnyddio gyda merched yn eu harddegau sydd wedi ymwneud ag ymddygiad rhywiol niweidiol tuag at eraill. Bydd y prosiect, sy’n dechrau’n ffurfiol ar 1 Ebrill 2012, yn cynnwys datblygu llawlyfr triniaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gan alluogi'r merched hyn i leihau unrhyw risgiau y maent yn eu hachosi i eraill a chan roi cyfle iddynt symud tuag at berthnasoedd iach fel oedolion.

Meddai Denise Moultrie, Rheolwr Gwasanaethau Plant Gwasanaeth Taith Barnardo's Cymru: “Gwyddwn fod tua thraean o gamdriniaeth rywiol yn y DU yn cael ei chyflawni gan bobl ifanc.

Er mai dynion sy’n cyflawni rhan helaethaf o’r gamdriniaeth, mae merched a menywod ifanc hefyd yn cyflawni camdriniaeth rywiol. Mae Gwasanaeth Taith Barnardo’s Cymru wedi gweithio ers un ar ddeg mlynedd yng Nghymru gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi ymwneud ag ymddygiad sy’n niweidiol yn rhywiol, ac felly mae mewn sefyllfa dda i gwblhau’r gwaith ymchwil a datblygu hwn na roddwyd cynnig arno o’r blaen yn y DU. Mae angen i ni gael gwell dealltwriaeth o broffil seicolegol menywod ifanc sy’n cam-drin eraill yn rhywiol er mwyn i ni ddeall eu hanghenion penodol yn well.”

Ychwanegodd: “Bydd y prosiect hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran ein dealltwriaeth ac am y tro cyntaf bydd yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol yn y DU gynnig asesiadau gwybodus o anghenion triniaeth merched a chynnig yr ymyraethau mwyaf priodol. Bydd hyn yn lleihau’r risg barhaus i eraill yn y gymuned ac yn gwella’r tebygolrwydd y bydd y merched ifanc hyn yn symud ymlaen i ddatblygu perthnasoedd diogel ac iach.”

Gan amlygu pwysigrwydd y prosiectau a ariannwyd a chan annog mwy o grwpiau i ymgeisio am ariannu o dan yr ail rownd, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Awydd am Arloesi, Graham Benfield: “Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi'i hymrwymo i ddod â gwir welliannau i'r cymunedau mwyaf anghenus, ond mae'n cydnabod nad yw dulliau presennol o ddiwallu anghenion yn gweithio bob tro, a bod rhai anghenion yn newydd, heb fod yna unrhyw ffordd o fynd i'r afael â nhw. Dyna pam rydym wedi lansio Awydd am Arloesi yng Nghymru. Fel bod y prosiectau a ariennir heddiw yn ei ddangos, gall helpu i droi'r syniadau mawr a newydd sydd gan bobl yn realiti.”

Ychwanegodd:  “Neges syml sydd gennym - os oes gan grwp neu fudiad syniad newydd ac arloesol ar gyfer prosiect sy'n darparu atebion newydd a gwell i broblemau cymdeithasol sydd wedi bodoli ers tro neu sy'n newydd ddod i'r amlwg - yn bendant rydym eisiau clywed oddi wrthynt.”

Mae gan y Gronfa Loteri Fawr ddiddordeb mewn ceisiadau gan ystod eang o sectorau a mudiadau er mwyn i'r "syniadau gorau a gwirioneddol arloesol" gael eu hadnabod a'u hariannu. Bydd yn ystyried bod syniad yn un newydd os na roddwyd cynnig arno unrhyw le arall yn y DU, a bydd yn ariannu prosiectau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol cyhyd â bod o leiaf 75 y cant o'r bobl a fydd yn elwa yn byw yng Nghymru.

Ymysg y gofynion allweddol eraill ceir y gofyniad i ddangos bod y prosiect yn un newydd ac arloesol, ymgynghori'n helaeth â phobl sydd â diddordeb yn y gwaith ynghyd â darparwyr gwasanaeth eraill, ymchwil drwyadl i adnabod anghenion a dangos profiad o weithio gyda mudiadau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol i wneud y defnydd gorau o'r arbenigedd.

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Awydd am Arloesi a sut y gallwch ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk

Mwy o Wybodaeth

Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu tua £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Ariannu gwell
  • Pobl Ifanc
ADBORTH