Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Y gronfa loteri fawr yn lansio ‘ffordd o fyw’ newydd i deuluoedd Cymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
18 6 2007
Heddiw, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn lansio menter ariannu newydd a fydd yn gwario £7 miliwn ar fynd i'r afael â phroblem gynyddol gordewdra ymhlith plant Cymru.

Heddiw, (Dydd Llun 11 Mehefin) mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymweld â Llandudno, Gogledd Cymru, er mwyn cynnal y cyntaf o blith cyfres o ddigwyddiadau briffio a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru er mwyn cyhoeddi ei menter Ffordd o Fyw newydd.

Gordewdra ymhlith plant yw un o’r tueddiadau iechyd mwyaf pryderus yng Nghymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gyda mwy o blant yn ordew nag erioed o'r blaen. Yn sgil ymgyrchoedd amlwg gan gogyddion enwog fel Jamie Oliver, mae pobl bellach yn derbyn fod yn rhaid i bobl ifanc a'u teuluoedd weithredu a mynnu cefnogaeth. Mae Ffordd o Fyw y Gronfa Loteri Fawr yn fenter ariannu newydd a fydd yn ceisio brwydro yn erbyn gordewdra ymhlith plant.

Y fenter yw'r olaf o’r ddwy ffrwd i gael ei lansio o dan raglen newydd Teuluoedd Iach gwerth £20 miliwn y Gronfa Loteri Fawr. Bydd Ffordd o Fyw yn gwario £7 miliwn ar ddatblygu ffyrdd newydd o hyrwyddo bwyta’n iach, gweithgaredd a chwarae ymhlith plant dan 12, drwy brosiectau a fydd yn cynnwys y teulu i gyd.  Bydd yr ail, ffrwd ‘Chwarae Plant’, a lansiwyd y llynedd ac sydd bellach ar gau ar gyfer ceisiadau, yn gwario’r £13 miliwn sy’n weddill ar adeiladau’r parciau chwarae a gosod offer er mwyn cefnogi datblygiad chwarae plant yng Nghymru, a chreu mentrau chwarae newydd.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr hefyd wedi penodi Hall Aitken, arbenigwyr ymgynghori mewn cymunedau, iechyd ac adfywio, i gefnogi ymgeiswyr i'w menter ‘Ffordd o Fyw’. Ar ôl ymgynghoriadau helaeth gydag arbenigwyr iechyd a maeth, bellach mae Hall Aitken wedi datblygu dulliau a modelau allweddol y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn eu defnyddio i gyflwyno’r rhaglen.  

Bydd grantiau sy’n amrywio rhwng £250,000 a £500,000 ar gael i ymgeiswyr i gynnig cefnogaeth i bobl yn eu hardaloedd targed. Bydd Hall Aitken hefyd yn cynnig cymorth helaeth i’r rheini sydd eisiau gwneud cais am arian.

Cefnogir yr ymgeiswyr llwyddiannus drwy amryw ffyrdd gan gynnwys gweithdai, cyngor un i un, ymweliadau rheolaidd â’r prosiect, setiau dysgu gweithredu ar draws prosiectau, cefnogaeth ar y we a llinell gymorth.  Bydd y prosiectau a’i hariennir yn casglu gwybodaeth a data ar eu gweithgareddau.  Asesir pob un o’r modelau cyflwyno am eu heffeithlonrwydd, eu cynaladwyedd a’u trosglwyddedd.  Drwy gydweithio, bydd Hall Aitken a’r Gronfa Loteri Fawr yn adnabod arfer da ac yn lledaenu dysg ar draws Cymru ac ymhellach.

Wrth bwysleisio pwysigrwydd y fenter, dywedodd Graham Benfield, aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Teuluoedd Iach: “Bydd Ffordd o Fyw yn adnabod bylchau yn y ddarpariaeth ac yn datblygu mentrau newydd a fydd yn mynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ordewdra ymhlith plant yng Nghymru.

“Mae gordewdra ymhlith plant yn bryder mawr sy’n wynebu teuluoedd a’r llywodraeth yng Nghymru a dengys ein hymgynghoriad mai’r ffordd orau i fynd i'r afael â dylanwadau negyddol ar ffordd o fyw plant yw drwy ymdriniaeth sy’n ceisio cysylltu gweithgaredd corfforol a maeth. Dengys tystiolaeth gyfredol fod prosiectau sy’n mynd i'r afael â’r materion hyn drwy gynnwys y teulu cyfan yn fwy llwyddiannus a dyna pam fod y Gronfa Loteri Fawr wedi datblygu’r rhaglen Teuluoedd Iach."

Gwybodaeth Pellach

Am wybodaeth bellach ar raglen Teuluoedd Iach – Ffordd o Fyw, ymwelwch â www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio.

Am wybodaeth bellach ar gyfleoedd cyfweld, ffilmio a ffotograffau, cysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ar y rhifau isod.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa:  07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun:  0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn yr wythnos mewn arian achosion da y Loteri ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a’i ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
  • Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau bod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
ADBORTH