- Area:
- Cymru
- Release date:
- 22 12 2011
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi rhoi croeso cynnes i'r newyddion bod Syr Adrian Webb wedi cael ei benodi'n Gadeirydd nesaf Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru.
Bydd Syr Adrian yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Ionawr, 2012.
Meddai: "Mae'n anrhydedd cael fy ngofyn i arwain tîm hynod ymroddedig o staff, partneriaid a mudiadau a ariennir, sy'n gwneud gwir wahaniaeth i gymunedau ledled Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i gydweithio gyda chymheiriaid ar draws y DU fel aelod o Fwrdd DU y Gronfa Loteri Fawr."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: "Edrychaf ymlaen at gydweithio'n agos â Syr Adrian Webb wrth i'r Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru barhau â'i hymdrechion i wneud gwir wahaniaeth i fywydau'r bobl, y teuluoedd a'r cymunedau mwyaf anghenus.
"Dros y pedair blynedd nesaf bydd Cadeirydd Pwyllgor Cymru'n chwarae rôl allweddol wrth arwain gwaith y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth ag aelodau Byrddau a Phwyllgorau eraill, tîm y staff a deiliaid grantiau i gyflwyno buddion gwirioneddol i bobl yng Nghymru. ”
Fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru bydd Syr Adrian hefyd yn aelod o Fwrdd DU y Gronfa Loteri Fawr.
Croesawyd ei benodiad gan Gadeirydd y Gronfa Loteri Fawr, Peter Ainsworth: "Mae'n bleser mawr croesawu Syr Adrian i'w rôl newydd fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru'r Gronfa Loteri Fawr; mae'n dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth am Gymru i'r rôl ac mae ganddo hanes rhagorol o weithio'n weithredol."
Daw penodiad Syr Adrian Webb yn sgil proses recriwtio agored lawn gan Swyddfa'r Cabinet y DU mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 46% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
- Mae Pwyllgor Cymru wedi bod yn gwneud penderfyniadau'r Gronfa Loteri Fawr ar brosiectau yng Nghymru ers 2007. Yn ogystal â gwneud penderfyniadau datganoledig ynglyn â gwario arian Loteri, mae'r Pwyllgor wedi chwarae rôl strategol o ran dyfodol y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru yn y dyfodol, a bydd yn parhau i wneud hynny.
Tags