- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 7 3 2012
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dathlu bod £20 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gwella bywydau Pobl Hyn ar draws Cymru
Mae prosiect sy'n cefnogi pobl hyn gyda chlefyd Alzheimer a phrosiect sy'n defnyddio pwer cân i wella ansawdd bywyd cleifion cancr dros 50 oed, ymhlith yr ystod o fudiadau ar draws Cymru a ddaw ynghyd heddiw ar gyfer cynhadledd arbennig i ddathlu'r £20 miliwn y mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi'i fuddsoddi wrth wella bywydau pobl hyn ar draws y Wlad.
Yn 2011, fe rannodd 29 o brosiectau ar hyd a lled Cymru yn yr £20 miliwn a ddyfarnwyd trwy raglen Llawn Bywyd y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at roi'r grym i bobl hyn yng Nghymru trwy ostwng unigedd cymdeithasol a datblygu gwasanaethau cymorth.
Trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol, cyfleoedd rhwydweithio ac areithiau pwysig gan westeion arbennig gan gynnwys Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, bydd y gynhadledd Dyfodol Llawn Bywyd a gynhelir heddiw yng Nghanolfan Gorseinon Centre yn Abertawe (10am – 4pm Ddydd Mercher 7 Mawrth) yn cynnig cyfle euraidd i brosiectau ddod ynghyd i rwydweithio a chyfoethogi eu prosiectau trwy rannu dysg a phrofiadau.
Bydd y rheini sy'n mynychu'r gynhadledd hefyd yn cael pleser o wrando ar berfformiad arbennig gan brosiect Tenovus Sing With Us Choir for your Community a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr a dderbyniodd ymron i un filiwn o bunnau trwy raglen Llawn BYWYD y llynedd i sefydlu 15 côr Sing for Life newydd ar gyfer cleifion cancr dros 50 oed ar draws Cymru. Mae'r côr hefyd yn agored i'w teuluoedd, eu gofalwyr, eu ffrindiau a'r rheini sydd wedi profi colled trwy gancr ar draws Cymru.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y gynhadledd, dywed Aelod o Bwyllgor Cronfa'r Loteri yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Llawn BYWYD, Fran Targett: "Mae ein rhaglen Llawn BYWYD wedi'i chynllunio i wella ansawdd bywyd a llanw'r bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth ar gyfer pobl hyn dros hanner cant. Mae'r gynhadledd bwysig hon yn cynnig cyfle euraidd i brosiectau yr ydym wedi'u hariannu i ddod ynghyd, rhannu arfer gorau a chyfoethogi ein buddsoddiad ymhellach."
“Mae pwysigrwydd mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol i wella lles ac ansawdd bywyd pobl hyn yn cael ei gydnabod yn gynyddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, ac mae wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae ein hymchwil helaeth hefyd wedi adnabod hyn fel maes allweddol ble y gallem wneud gwahaniaeth positif a dyna pam ein bod wedi ariannu'r prosiectau hyn ar draws Cymru."
Wrth edrych ymlaen at y gynhadledd ac at gwrdd â'r prosiectau, dywedodd Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, Ruth Marks: "Rwy'n falch iawn o weld y rhaglen benodol hon sydd wedi'i chynllunio i wella gwasanaethau a helpu pobl hyn ar draws Cymru. Fel Comisiynydd, rwy'n clywed yn rheolaidd gan bobl hyn sy'n dioddef o unigedd cymdeithasol ac unigrwydd - problemau y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy. Edrychaf ymlaen at ddysgu mwy am brosiectau Llawn BYWYD a sut y gall enghreifftiau o arfer da gael eu rhannu i helpu i wella a chefnogi bywydau pobl hyn ar draws y wlad.”
Mae'r rhaglen Llawn BYWYD wedi dyfarnu rhwng £200,000 a £1 miliwn dros brosiectau sy'n rhedeg rhwng tair a phum mlynedd.
I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan y Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags