Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cydnabyddiaeth i’r Gronfa Loteri Fawr am fod yn wyrdd yng Nghymru

Area:
Cymru
Release date:
16 8 2007
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Busnes a Chynaladwyedd Cymru mewn cydnabyddiaeth o’i gyflawniadau helaeth wrth weithredu polisi gwyrdd yn y gweithle.

Mae’r Gwobrau Busnes a Chynaladwyedd  Rhwydwaith ARENA wedi bod yn rhedeg am 10 mlynedd ac mae’r Gronfa Loteri Fawr yn un o dri sefydliad yng Nghymru sydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Rheolaeth am ddatblygiad cynaliadwy yn y sector cyhoeddus.  Bydd raid i’r Gronfa Loteri Fawr aros tan seremoni wobrwyo 2007 a’i chynhelir ym mis Hydref i gael gwybod os ydynt yn llwyddiannus ai peidio.   

Mae swyddfeydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghaerdydd a’r Drenewydd eisoes  wedi ennill Tystysgrif Amgylcheddol y Ddraig Werdd, a ddyfarnwyd gan rwydwaith ARENA yn ôl yn 2006.  Mae’r Gronfa hefyd wedi profi fod gweithredu yn fwy gwyrdd yn dda iawn i fusnes drwy arbed miloedd o bunnoedd mewn ymgyrch amgylcheddol sydd yn gosod y safon ar gyfer swyddfeydd eraill y Gronfa ledled y DU. Mae mentrau gwyrdd gan staff wedi torri defnydd o drydan gan 15 y cant, wedi cynyddu ailgylchu gan 80 y cant, wedi creu 315kg mewn defnydd compostio ac wedi arbed £4,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.  Cymryd y camau mwyaf syml megis troi’r golau i ffwrdd, argraffu dwy ochr ar bapur, ailgylchu a chompostio gwastraff sydd wedi cyflawni’r toriadau yma.    

Mae staff wedi arbed mwy na 6,600 milltir o deithio a 37 diwrnod gwaith drwy ddefnyddio cyfleusterau fideo gynadledda i gysylltu’r swyddfeydd.  Mae’r Tîm Gwyrdd yn swyddfa Cymru, sydd wedi gyrru'r polisi amgylcheddol ymlaen yn awr yn enghraifft o arfer da ar gyfer swyddfeydd y Gronfa Loteri Fawr ledled y DU.   Bu staff Cymru yn helpu i sefydlu Tîm Gwyrdd yn swyddfa’r Gronfa yng Nghaergrawnt yn ddiweddar ac mae timau eraill i gael ei sefydlu mewn swyddfeydd eraill y Gronfa ledled y wlad.  Bydd staff Cymru hefyd yn rhannu eu gwybodaeth werdd â thenantiaid eraill yn eu hadeiladau swyddfa yng Nghaerdydd a’r Drenewydd.  

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Ceri Doyle: “ rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd y rownd derfynol a hoffwn longyfarch yr holl staff am eu hymrwymiad werth weithredu’r polisïau a chwrdd â’r amcanion a osodwyd gan y Tîm Gwyrdd.  Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn awr ac mae angen i ni gyd gymryd cyfrifoldeb dros ein planed.   Yn ogystal â gwella safon bywyd, rydym wedi profi fod bod yn dda i’r blaned a pheidio â gwastraffu egni yn gallu bod yn dda iawn i’ch cyllideb a’ch enw da.”

Bydd y seremoni wobrwyo 2007 yn cymryd lle ar y 18fed o Hydref yn y Mercure Holland House Hotel yng Nghaerdydd ac yn y  Ramada Plaza, Wrecsam. Bydd y ddau leoliad yn cael eu cysylltu â lloeren ac mae’n argoeli i fod yn noson werth ei chofio.  

Am wybodaeth bellach am gyfleoedd cyfweld, ffilmio a thynnu llun, cysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.

Swyddfa wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd yn y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol gychwyn yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei wario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da.  O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi ei godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi ei dyrannu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.   

Tags

Categori

  • Corfforaethol
ADBORTH