Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Y Gronfa Loteri Fawr yn Canu Cloch Chwarae i bob oed yn Sir Y Fflint

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
14 10 2008
Bydd tir hamdden darfodedig yn Kinnerton, Sir y Fflint yn cael ei ddatblygu yn ofod hamdden celfyddydol ar gyfer y gymuned gyfan diolch i grant gan y Gronfa Loteri Fawr, sy'n helpu i droi datblygiad cymunedol sydd ei angen yn fawr yn realiti.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn £130,000 o dan y rhaglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.

Bydd yr arian yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn nesaf ar ddatblygu'r gofod hwn nad yw’n cael ei ddefnyddio ym Mharc Kinnerton yn ardal hamdden ar gyfer pob oed. Bydd y gofod cymunedol sydd wedi’i ddatblygu o’r newydd yn cynnwys ardal gemau amlddefnydd, ynghyd â gofod agored wedi’i dirweddu, ardal bicnic ac eistedd.

Mae Kinnerton wedi gweld llawer o dwf yn y blynyddoedd diweddar ac mae’r boblogaeth wedi cynyddu’n sylweddol, ond nid yw’r cyfleusterau hamdden wedi’u datblygu i fodloni’r galw cynyddol neu anghenion newidiol y gymuned. Yn wir, mae’r ardal wedi’i hadnabod gan Uned Chwarae Cyngor Sir y Fflint, fel ardal o amddifadedd chwarae oherwydd diffyg cyfleusterau.

Bydd datblygu ardal chwarae ym Mharc Kinnerton yn gweld cyflwyno cyfleusterau hamdden ar gyfer pob oed megis ardal gemau ac eistedd a bydd hefyd yn cynnwys cynlluniau chwarae a gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol ar y safle. Bydd y fenter hon yn dwyn ynghyd Tîm Datblygu Chwarae y Cyngor Sir a Chymdeithas Parc Kinnerton i greu cyfleoedd ar gyfer aelodau hŷn y gymuned i gyfranogi trwy ddarparu hyfforddiant gweithwyr chwarae ar gyfer gwirfoddolwyr o'r gymuned.

Er bod y prosiect yn cael ei reoli gan Gyngor Sir y Fflint, mae wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad agos gyda Chymdeithas Parc Kinnerton sy’n grŵp cymunedol a sefydlwyd gan rieni pryderus i ddatblygu cyfleoedd chwarae ar gyfer eu plant.

Yn hapus iawn â’r dyfarniad, dywedodd Janet Roberts o Gyngor Sir y Fflint: “Roedd diffyg cyfleusterau yn Kinnerton a dangosodd ein hymchwil ac ymgynghoriad bod hynny’n arwain at blant yn cael eu cludo i ardaloedd eraill er mwyn cael mynediad at gyfleusterau chwarae, neu’n colli allan yn gyfan gwbl oherwydd diffyg trafnidiaeth. Bydd datblygu’r cyfleuster newydd hwn yn cynnig canolfan sydd ei hangen yn fawr ar y gymuned yn Kinnerton a bydd yn cynnig mynediad i ofod hamdden o ansawdd uchel ar gyfer pob oed.”

Ychwanegodd: “Gan mai dyma’r unig ofod gwyrdd yn Kinnerton roedd yn bwysig, ynghyd ag offer chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc, ein bod yn darparu seddi a meinciau picnic i alluogi pobl hŷn i fwynhau'r ardal hefyd."

Roedd Janet hefyd yn awyddus i dynnu sylw at gyswllt cymunedol yn y prosiect hwn sydd wedi helpu i'w yrru ymlaen o’r dechrau: “Pan adnabuwyd yr angen, gweithiodd Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Chyngor Cymunedol Kinnerton a Chymdeithas Chwarae Kinnerton i drefnu ymweliadau ag ardaloedd eraill i ddewis offer a chynllunio’r gofod a fydd yn cael ei ddatblygu ar safle Kinnerton. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r preswylwyr am eu holl amser, eu hymdrech a’u penderfyniad y maent wedi llwyddo i'w cynnal i ddatblygu'r rhaglen. Mae’r gefnogaeth hon wedi bod yn amhrisiadwy ac mae'r canlyniad yn wych!”

Bydd y prosiect yn cael ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn i ddod a bydd yn cael ei gynnal a’i reoli gan Dîm Datblygu Chwarae Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Chwarae Kinnerton.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.  Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.

Gwybodaeth Bellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr:  02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun:  0845 6021 659

Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Yr Amgylchedd
  • Cymunedau Cryfach
  • Pobl Ifanc

Categori

  • Adfywio
ADBORTH