Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Carreg filltir o £100 miliwn o ddyfarniadau pawb a’l le yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
11 5 2012

Mae grwpiau a mudiadau cymunedol ym mhob cwr o Gymru'n dod ynghyd gyda'r Gronfa Loteri Fawr i ddathlu heddiw wrth gyrraedd y garreg filltir o werth £100 miliwn o ariannu o'i rhaglen Arian i Bawb i brosiectau sy'n gwneud gwir welliannau i gymunedau a bywydau'r bobl fwyaf anghenus.  

Dyfarnwyd y swm enfawr o £5,655,857 i 16 o brosiectau yng Nghymru heddiw o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen Pawb a'i Le, gan godi'r Gronfa Loteri Fawr y tu hwnt i'r garreg filltir o £100 miliwn a ddyfernir trwy'r rhaglen, sydd â'r nod o ddod â phobl ynghyd i wneud cymunedau'n gryfach a gwella amgylcheddau gwledig a threfol (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).

P'un a yw'n ymwneud â phrosiectau i ddatblygu sgiliau pobl a'u helpu i ddychwelyd i gyflogaeth, ariannu i fynd i'r afael â hiliaeth, neu gefnogaeth ar gyfer pobl ag anableddau a phobl fregus sydd ag ystod o anghenion cymhleth, mae bron i 520 o grantiau wedi'u dyfarnu yng Nghymru i ystod o brosiectau ers i'r rhaglen gael ei lansio yn 2005.

Gan ddangos natur amrywiol y rhaglen, mae'r prosiectau y dyfarnwyd grantiau iddynt heddiw  yn cynnwys gwasanaeth arbenigol rhoi'r gorau i ysmygu ar gyfer ysmygwyr ifanc, prosiect i ddarparu hyfforddiant ac addysg i bobl ddigartref fregus a gwasanaeth cefnogi ar gyfer teuluoedd plant ag anableddau difrifol a lluosog.

Yn Ne-ddwyrain Cymru, bydd dyfarniad o bron i £490,000 (£487,743) yn galluogi Sparkle Appeal i redeg y prosiect Sparkle Family, Support & Play, a fydd yn darparu gwasanaeth cefnogi cyfannol i deuluoedd plant sydd ag anableddau difrifol a lluosog ar draws siroedd Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen. Bydd y prosiect yn sicrhau y gellir integreiddio plant ag anableddau cymhleth i'r gymuned yn well trwy wella'u sgiliau a'u helpu i fwynhau chwarae a gweithgareddau gyda'u brodyr a'u chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu (astudiaeth achos ar gael ar gyfer y prosiect hwn).

A hithau wrth ei bodd â'r ariannu a'r gwahaniaeth a ddaw i deuluoedd ar draws De-ddwyrain Cymru yn sgil hynny, meddai Dr Sabine Maguire, Cadeirydd Sparkle Appeal a'r nerth y tu ôl i'r prosiect: “Mae Sparkle a'r 1,200 o deuluoedd rydym yn cydweithio â nhw bob blwyddyn wrth eu boddau â'r grant hael yma gan y Gronfa Loteri Fawr a fydd yn rhoi cyfle am y tro cyntaf i ni ddarparu gwasanaethau y mae eu hangen yn fawr ar ein teuluoedd, gan gynnwys cwnsela rhieni a brodyr a chwiorydd, therapydd chwarae, cyswllt teuluol ac ariannu tuag at ardal chwarae awyr agored hygyrch - y cyntaf o'i fath yng Ngwent.”

“Heb yr ariannu hollbwysig hwn byddai teuluoedd yn parhau i ddod i'n canolfan ond fe fyddem wedi'n cyfyngu o ran y gefnogaeth a'r gweithgareddau y gallem eu cynnig iddynt, nid yn unig i'r plentyn ond i'r rhieni, y brodyr a'r chwiorydd a'r teulu ehangach.”

Ychwanegodd: "Gwyddwn fod yna angen mawr am y prosiect hwn a gobeithiwn fod y prosiect yn rhagori ar ein disgwyliadau, yn galluogi creu cymuned actif go iawn sy'n dweud ei dweud ar bob agwedd ar anableddau plant ac yn symbylu newid dros yr hir dymor."

Mae dau brosiect sy'n gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg hefyd wedi derbyn cyfran o'r ariannu o dan y rownd ddiweddaraf. Gyda'u dyfarniad o £249,390, bydd Cymuned Wallich Clifford yn rhedeg y prosiect Streets Ahead – South East Wales a fydd yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau bywyd y mae eu hangen ar dros 200 o bobl ddigartref fregus yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i hygyrchu cyfleoedd dysgu, hyfforddiant, gwirfoddoli, profiad gwaith a chyflogaeth.  Bydd hyn yn gwella'u hyder a'u sgiliau ac yn cynyddu eu hannibyniaeth, eu hunan-barch a'u cyfranogiad o fewn y gymuned.

Gan amlygu pwysigrwydd yr ariannu, meddai Janine Hailey, Pennaeth Dysgu yn y Wallich: "Mae digartrefedd yn meithrin diwylliant o anobaith ac mae'r sefyllfa economaidd gyfredol yn ei gwneud hi hyd yn oed yn anoddach i bobl fregus gael unrhyw gyfle i ddysgu, datblygu a dechrau ar gyflogaeth. Ein buddiolwyr ni yw rhai o'r bobl fwyaf bregus o fewn cymdeithas, maen nhw wedi'u hynysu a'u stigmateiddio ac yn gyffredinol maent yn ei chael hi'n anodd hygyrchu gwasanaethau prif ffrwd. Mae Streets Ahead yn rhoi cyfle i fuddiolwyr wireddu eu potensial eu hunain a chyflawni eu dyheadau.”

“Heb y Gronfa Loteri Fawr, byddai newid a thorri'r cylch o ddigartrefedd yn profi cymaint yn anoddach.”

Yng Ngogledd Cymru, bydd Grwp Gweithredu Cymunedol Prestatyn ac Allt Felyd yn gwario eu dyfarniad o bron £270,000 (£269,145) ar Project Eleven-Twenty-Five, sydd â'r nod o ddarparu gwasanaethau wedi'u targedu i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ar ymylon cymdeithas ym Mhrestatyn a'r cylch. Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno o Ganolfan Galw Heibio bresennol y dref a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, a bydd yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a'r rhai sy'n dod o Gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig.

Ac mae hen ysgol bentref ym mhentref bach Trewyddel, Sir Benfro yn denu cryn dipyn o sylw diolch i grant o £150,000 (153,439) sy'n cael ei ddyfarnu i Grwp Cymunedol Cymdeithas Trewyddel. Bydd yr arian yn galluogi'r grwp i drwsio a gwella'r ysgol bentref gynt a gaeodd yn 2003 ac sydd bellach yn cael ei defnyddio fel canolfan gymunedol.  

Bydd yr arian yn cael ei wario ar atgyweirio ac yn gwella'r cyfleuster trwy newid y boeler a'r system wresogi, y gosodiad trydanol a'r ffenestri, gwella'r plymwaith a gosod toiled i'r anabl, trin pydredd sych, trwsio'r to a'r cafnau, gosod cegin a llawr newydd, darparu mynediad i'r anabl a chreu mwy o le ar gyfer man cyfarfod.

Gan edrych yn ôl ar effaith y rhaglen Pawb a'i Le hyd yn hyn, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le, Gareth Newton: “Rydym yn falch iawn o'r hyn y mae'r rhaglen hon wedi'i gyflawni hyd yma wrth i ni ddathlu cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon. Ond yr hyn sy'n bwysicach na maint yr arian a ddosbarthwn yw'r effaith gadarnhaol y mae'r arian hwn yn ei chael ar fywydau'r bobl a'r cymunedau mwyaf anghenus ledled Cymru. Y rhaglenni fel Pawb a'i Le yw'r rhai sy'n cyflwyno ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu ein cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth barhaus."

Ychwanegodd: "Ac mae'r drws ar agor o hyd i geisiadau. Os oes gan fudiad neu grwp cymunedol syniad ar gyfer prosiect i adfywio cymunedau, gwella cysylltiadau cymunedol neu wella amgylcheddau lleol - rydym am glywed oddi wrthynt.”

Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael gwybod mwy am y rhaglen Pawb a'i Le a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk

Rhestr lawn y prosiectau a ariannwyd yng Nghymru heddiw 
- 52KB
.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales  
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100k y diwrnod mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH