Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn nodi £4 Miliwn o Gefnogaeth i'r Iaith Gymraeg

Area:
Cymru
Release date:
1 3 2012

Wrth inni ddod ynghyd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi, mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dathlu newyddion ei bod bellach wedi dyfarnu dros £4 miliwn o gefnogaeth i brosiectau'r iaith Gymraeg.

Fel un o elfennau pwysicaf cyfansoddiad diwylliannol Cymru, mae'r iaith Gymraeg angen grwpiau gweithredol i helpu i gynnal a hyrwyddo defnydd ar yr iaith. Ac er 1994, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £4.2 miliwn i hyrwyddo ei defnydd yn weithredol o fewn cymunedau.

Er mwyn helpu i ddathlu'r newyddion hyn, bydd prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn tynnu lluniau o'u gweithgareddau Dydd Gwyl Dewi er mwyn eu postio ar dudalennau Facebook y Gronfa Loteri Fawr www.facebook.com/biglotteryfundwales

Mae ymrwymiad y Gronfa Loteri Fawr i ariannu cyfoeth o brosiectau iaith Gymraeg wedi gweld un o fentrau iaith uchaf ei pharch yn y wlad, Menter Iaith, yn mynd o nerth i nerth. Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu cannoedd ar filoedd o bunnau o ariannu i gefnogi gwahanol brosiectau Menter Iaith lleol sydd wedi'u sefydlu ar draws siroedd Cymru, sy'n golygu bod cannoedd o bobl ifanc wedi gallu dechrau dysgu neu ddefnyddio mwy o'u Cymraeg diolch i arian y Loteri Genedlaethol.

Rhan fechan yn unig o'r ariannu sydd wedi mynd at yr iaith Gymraeg yw'r gefnogaeth dros Fenter Iaith. Ymhlith y grwpiau eraill i elwa o'r Gronfa Loteri Fawr y mae Urdd Gobaith Cymru, Cylchoedd Meithrin a Merched y Wawr. Yn wir, mae pob punt o'r £600 miliwn a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru i helpu'r cymunedau mwyaf anghenus yn cefnogi'r iaith Gymraeg mewn rhyw ffordd neu'i gilydd gan fod yr holl brosiectau sy'n derbyn arian yn cael eu hannog i weithio'n ddwyieithog.

Dyfarnwyd un o'r grantiau mwyaf o £288,705 i Fentrau Iaith Myrddin ym 1999 i helpu i adfywio'r iaith Gymraeg yng nghymunedau gwledig gogledd a gorllewin Sir Gâr. Mae'r grantiau mwyaf diweddar, gan gynnwys £191,791 i Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful a £249,051 i Deudraeth Cyf yn dwyn ffrwyth ac mae grantiau llawer yn llai yn cael effaith hefyd.

Ym mis Mai 2011, derbyniodd Cylch Meithrin Bro Sion Cwilt ger Cei Newydd, Ceredigion, £5,000 o dan  raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr. Defnyddiodd y grwp yr arian i symud i adeilad newydd er mwyn parhau i ddarparu cylch chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg a dechrau gwasanaethau ychwanegol i gefnogi gwybodaeth rhieni am yr iaith.

Ar ddydd Gwyl Dewi bydd lluniau yn cael eu gosod ar Facebook o blant y grwp wedi'u gwisgo yn eu dillad traddodiadol Cymreig yn dysgu sut i wneud Cawl.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd eu prosiect Cronfa Loteri Fawr, dywedodd arweinydd y grwp Christine Evans: "Rydym wedi cael lloriau, ffensys a dodrefn newydd a chyfarpar cyfrifiadurol newydd ar gyfer y grwp gyda'r arian. Heb arian y Loteri Genedlaethol, ni fyddai'r grwp yn bodoli ac ni fyddai modd i ni weithredu. Mae'r arian hwn yn cynnig cyfle i bobl ifanc yn yr ardal i ddysgu, cymdeithasu a chwarae ar y cyd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny'n sicr yn beth da i ddyfodol yr iaith."

Grwp arall sy’n tynnu lluniau Ddydd Iau yw Urdd Gobaith Cymru ym Merthyr Tudful a dderbyniodd £97,893 gan y Gronfa Loteri Fawr i ddarparu gweithgareddau ac addysg anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 19 oed.  Mae aelodau'r grwp yn cymryd rhan yn yr Orymdaith Gwyl Ddewi yng Nghaerdydd.

Sion Roberts yw swyddog gwaith ieuenctid Urdd Gobaith Cymru yn ardal Merthyr Tudful ac mae ei swydd yn cael ei hariannu'n rhannol trwy grant y Gronfa Loteri Fawr.

Meddai: "Er mwyn gwella dyheadau a sgiliau pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n hynod bwysig datblygu eu gyrfaoedd yn y dyfodol a rhoi'r cyfleoedd iddynt i ddatblygu sgiliau gwaith. Mae'n bwysig cynnig cyfleoedd cymdeithasol i bobl ifanc siarad Cymraeg fel bod ganddynt yr hyder i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd.

"Mae ein gwaith yn allweddol wrth sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu o fewn ardaloedd a chymunedau megis Merthyr Tudful. Heb arian y Loteri Genedlaethol a'r prosiect hwn gan Urdd Gobaith Cymru, byddai'r cyfleoedd yn llawer prinnach i bobl ifanc gymryd rhan mewn gwaith ieuenctid trwy gyfwng y Gymraeg. Mae'r prosiect hwn wedi codi ymwybyddiaeth, a'r angen, am y math hwn o wasanaeth yn y sir. Ar gyfartaledd, mae tua 700 o wahanol bobl ifanc wedi bod yn rhan o'r prosiect yn flynyddol."

Bydd pobl ifanc yng nghanolfan Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn y Bala, gogledd Cymru, a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, yn dathlu'r diwrnod trwy ymgymryd â gweithgareddau antur.

Dywed Huw Antur Edwards, cyfarwyddwr Canolfan yr Urdd yng Nglan-llyn: "Mae Canolfan Addysg Awyr Agored yr Urdd yn datblygu'r gweithgareddau a'r cyfleusterau sydd wedi'u lleoli yn y Ganolfan yn rheolaidd er mwyn cyfoethogi’r profiadau y mae'r plant a'r bobl ifanc sy'n ymweld â'r ganolfan yn eu cael yn barhaus.

“Mae'r cyfleoedd a'r profiadau preswyl awyr agored sy'n cael eu cynnig yng Nglan-llyn yn cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg i filoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru yn flynyddol, ac mae'r Ganolfan yn ddiolchgar iawn i'r Gronfa Loteri Fawr am ein galluogi ni i gyflawni hyn."

Dywed John Rose, Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: "Rydym yn anelu at gefnogi pobl a lleoedd sydd â'r angen mwyaf ac mae llwyddiant ein prosiectau iaith Gymraeg yn dangos pa mor fyw yw'r iaith ar draws Cymru.

“Gall hyrwyddo defnydd ar y Gymraeg ac annog y di-gymraeg i ddysgu'r iaith helpu pobl, boed yn hen neu'n ifanc, i ddatblygu hyder, hunangred a sgiliau bywyd gwirioneddol, a fydd yn ei dro o fudd i'w cymunedau ar draws Cymru."

I gael mwy o wybodaeth am yr ariannu sydd ar gael yng Nghymru ewch i www.cronfaloterifawr.org.ukhttp://www.biglotteryfund.org.uk/wales

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.biglotteryfund.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu £100,000 y dydd o arian achosion da’r Loteri, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
ADBORTH