- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 4 9 2012
Bydd prosiect i gefnogi pobl sy'n clywed lleisiau yn eu pen a phrosiectau i amlygu a dathlu amrywiaeth cymunedau Cymru ymhlith y gwahanol grwpiau a sefydliadau fydd yn rhannu dros £295,000 o ddyfarniadau o raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr heddiw.
At ei gilydd bydd 80 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £295,840 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen grantiau bach, Arian i Bawb heddiw (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad. Cysylltwch ag Oswyn Hughes i gael disgrifiadau llawn o'r prosiectau).
Diolch i grant o £1,678 gan y Gronfa Loteri Fawr, bydd y grwp Visions and Voices yng Nghasnewydd yn cynnal digwyddiad ymwybyddiaeth i alluogi pobl sy'n cael profiad o rithweledigaethau clybodol (clywed lleisiau yn eu pen) i gymdeithasu gyda defnyddwyr gwasanaethau eraill, i gael cefnogaeth cymheiriaid ac i ddysgu strategaethau ymdopi. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10:30a a 3:30pm Ddydd Gwener Medi 14 2012.
Cynhelir y digwyddiad yn Theatr y Dolman yng Nghasnewydd, ac un o'r Hwyluswyr fydd Maria Saleem. Helpodd Maria gyda sefydlu'r grwp Visions and Voices yn ôl yn 2010 ac erbyn hyn mae gan y grwp hyd at 15 aelod sy'n cwrdd bob wythnos i gefnogi'r naill a'r llall. Mae'r digwyddiad yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg a gynhaliwyd y llynedd oedd hefyd wedi'i ariannu drwy raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr.
"Roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiannus iawn, gan godi llawer o ymwybyddiaeth ac mae rhai Ysbytai GIG yn edrych ar sefydlu eu grwp lleisiau eu hunain o ganlyniad," meddai Maria, sydd wedi cymhwyso fel Hyfforddwr a Chynghorydd Iechyd Meddwl.
"Roedden ni am hyrwyddo hynny ymhellach gan fod defnyddwyr gwasanaethau newydd yn dod i mewn i'r system drwy'r amser. Mae'n cadw'r momentwm yn mynd. Mae rhai syniadau cyffredinol ynghylch beth sy'n achosi i bobl glywed lleisiau."
"Mae yna gysylltiad â sgitsoffrenia am amrywiaeth eang o gyflyrau eraill. Ond mae 'na bobl sy'n clywed lleisiau nad ydynt wedi cael diagnosis iechyd meddwl o gwbl. Dywed pobl eraill ei fod yn gysylltiedig â thrawma, ond nid yw hynny'n wir i bawb chwaith. Does dim un driniaeth unffurf all helpu pawb felly dyna pam mae cefnogaeth a digwyddiadau fel hyn mor bwysig."
"Gobeithiwn godi ymwybyddiaeth o driniaethau eraill ac o wahanol dechnegau ymdopi sydd wedi gweithio i rai pobl. Mae gennym seicolegwyr clinigol ac arbenigwyr meddygol yn dod fel siaradwyr gwadd a gobeithiwn y bydd hyn yn annog pobl i symud oddi wrth yr hen ffyrdd o wneud pethau a cheisio defnyddio dulliau newydd i drin cleifion."
Yn ôl Maria, mae llawer o bobl sy'n clywed lleisiau'n dioddef arwahanrwydd oherwydd y stigma sy'n gysylltiedig â'r cyflwr: "Mae'n chwalu eu hunan hyder gan fod llawer o'r lleisiau yn hynod negyddol," medd Maria.
"Mae hynny'n cael effaith uniongyrchol ar eu hunan barch a'u hyder. Hyd yn oed pan fyddan nhw'n mynd allan, dydyn nhw ddim yn gallu creu perthynas iawn â phobl eraill gan eu bod nhw'n gallu clywed lleisiau yn eu pen. A gan ei fod yn cael ei gysylltu â sgitsoffrenia, mae llawer o stigma ynghlwm wrtho."
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu'r gynhadledd neu ddysgu rhagor am sut y gallan nhw gael cefnogaeth gysylltu â Maria ar 07975 528367 neu e-bostio: visionsandvoices.newport@gmail.com
Mae prosiectau sy'n dathlu amrywiaeth cymunedau Cymru hefyd yn rhannu yn y dyfarniadau diweddaraf. Gyda'u dyfarniad o £4,999, byddCymru PRIDE Wales yn cynnal y digwyddiad PRIDE cyntaf erioed i Ogledd Cymru, sy'n anelu at ddod â'r gymuned Lesbiad, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a'r gymuned ehangach at ei gilydd i ddathlu amrywiaeth. Cynhelir PRIDE Gogledd Cymru rhwng 5ed a 7fed Hydref 2012 yn Hendre Hall ger Bangor gyda'r perfformwyr sydd eisoes wedi eu cadarnhau'n cynnwys Sami Brookes a gyrhaeddodd rowndiau terfynol X-Factor yn 2011.
A gyda'u dyfarniad o £5,000, bydd sefydliad Llais Afghan yn cynnal cyfres o gyflwyniadau a ffeiriau wedi eu hanelu at hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol, integreiddio, cydweithredu a chyfeillgarwch rhwng y gymuned Afghan a chymunedau eraill yng Nghymru. Bydd y Pioneer Group Wales yn gwario eu dyfarniad o £5,000 ar ddarparu dosbarthiadau Arabeg a Saesneg i rieni a phlant yn Grangetown, Caerdydd, ac yn y ddinas gyfagos, Casnewydd, bydd Newport Bangladeshi Women's Association (NBWA) yn hwyluso cwrs 16 wythnos ar sgiliau TG ar gyfer menywod Bangladeshi yn y gymuned. Bydd y cwrs yn cynnwys cyfieithydd amlieithog fydd yn helpu menywod nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Mae cefnogaeth hefyd i'r rhai agored i niwed a'r rhai ag anawsterau ac anableddau dysgu yng Nghymru. Bydd grant o £5,000 yn galluogi Gwynedd & Anglesey Asperger/Autism Support Group ym Mhorthaethwy i sefydlu clwb ieuenctid newydd i gynnig cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol i blant a phobl ifanc ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig. tra bydd yr Elite Supported Employment Agency Limited yn Ne Cymru'n gwario eu £4,965 ar ddarparu sesiynau gwybodaeth yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Caerffili ac Abertawe, gyda'r nod o chwalu'r rhwystrau a'r camsyniadau sy'n atal pobl anabl a dan anfantais rhag cael gwaith cyflog. Ac ym Mhowys bydd Fforwm Camdriniaeth yn y Cartref Powys yn gwario'r £4,390 a ddyfarnwyd iddo ar redeg y Rhaglen Rhyddid sy'n darparu cefnogaeth i fenywod i'w hamddiffyn eu hunain a'u plant rhag camdriniaeth ddomestig.
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Mae'r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei lawrlwytho o www.arianibawb.org.uk neu drwy ffonio 0845 4 10 20 30.
Rhestr lawn o ddyfarniadau a gyhoeddwyd heddiw yng Nghymru
- 84KB
SAIN AR GAEL: Maria Saleem o Visions and Voices yn esbonio pam mae angen help
Gwybodaeth bellach
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.biglotteryfund.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags