Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Y Gronfa’n Cefnogi Prosiectau Cymru i Ddatblygu ‘Llais y Bobl’

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
10 2 2012

Mae grwpiau cymunedol ledled Cymru'n rhannu mwy na £300,000 a ddyfarnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr heddiw i'w helpu i ddatblygu prosiectau sydd â'r nod o roi llais cryfach i'w cymunedau.

Bydd pymtheg prosiectau ym mhob cwr o Gymru'n rhannu cyfanswm o £314,115 mewn grantiau datblygu a ddyfarnwyd o dan rownd gyntaf rhaglen Llais y Bobl £12 miliwn y Gronfa Loteri Fawr, sydd â'r nod o helpu cymunedau yng Nghymru i ddylanwadu ar y polisïau a'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Wedi'i arwain gan eu Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS) lleol, bydd pob prosiect bellach yn datblygu eu cynigion ac yn ymgeisio am yr ail rownd ariannu a fydd yn dyfarnu £500,000 - £1.5 miliwn ar gyfer prosiectau sy'n cynyddu cyfleoedd i ddinasyddion gymryd rhan wrth gynllunio a rhedeg gwasanaethau a phrosiectau sy'n ymateb i anghenion eu cymunedau ac yn datblygu buddion cymunedol.  

Yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod helaeth o fudiadau a budd-ddeiliaid gan gynnwys trigolion, awdurdodau lleol a byrddau iechyd, bydd disgwyl i'r CGS ddatblygu prosiectau a all ddylanwadu ar benderfyniadau lleol megis datblygu llais cymunedol effeithiol ar gyfer grwpiau lleiafrifol, pobl anabl, pobl ifanc a grwpiau eraill sy'n anodd eu cyrraedd.

Yn Ynys Môn, Gogledd Cymru, bydd Medrwn Môn yn gwario £25,000 ar ddatblygu eu cynigion i gyflwyno 10 prosiect dros bedair blynedd i annog pobl hyn, pobl iau, pobl anabl, pobl ddigartref a grwpiau difreintiedig ac wedi'u tangynrychioli i ddatblygu sgiliau a hyder i'w galluogi i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau a chymryd rhan wrth gynllunio a cyflwyno gwasanaethau ar yr ynys.

Ymhellach i'r Dwyrain, bydd NEWVOL yn Sir Ddinbych yn gwario £22,600â chymunedau

£23,753 i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion yn eu helpu i wireddu eu huchelgais  o redeg saith prosiect ar draws y sir a fydd yn targedu dinasyddion sydd wedi'u dadrithio, gan gynnwys gofalwyr, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl iau a'r rhai sydd â nam ar y golwg.

Yn Sir Benfro gerllaw, bydd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro hefyd yn defnyddio £22,028 i ddatblygu prosiect a fydd yn cynnwys aelodau'r gymuned sydd wedi'u dadrithio, p'un a yw hynny oherwydd rhesymau daearyddol neu ar gyfer grwpiau penodol gan gynnwys gofalwyr, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl iau a'r rhai sydd â nam ar y golwg.

Gan fod Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yn cwmpasu pedwar awdurdod lleol, maent yn gymwys i wneud dau gais ac mae dau grant datblygu wedi'u dyfarnu iddynt. Mae un prosiect yn cynnwys siroedd Blaenau Gwent a Chaerffili ble bydd grant o £22,156 yn cael ei wario ar ddatblygu cynigion ar gyfer portffolio o wyth prosiect a fydd yn canolbwyntio ar ddod â defnyddwyr gwasanaethau ynghyd i rannu gwybodaeth, profiad ac arfer gorau. Bydd y prosiect yn targedu grwpiau gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, pobl hyn, goroeswyr strôc, tenantiaid, teuluoedd a chymunedau gwledig sy'n anodd eu cyrraedd.

Bydd grant datblygu arall o £22,156 yn galluogi GAVO i ddatblygu cynigion i redeg prosiect a fydd yn targedu grwpiau yng Nghasnewydd a Sir Fynwy, gan gynnwys pobl hyn, goroeswyr strôc, tenantiaid sy'n anodd eu cyrraedd, pobl yr effeithiwr arnynt gan salwch meddwl ac anableddau dysgu, pobl ifanc du a lleiafrifoedd ethnig, pobl â namau synhwyraidd a phlant a theuluoedd.

Meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: “Mae'r rhaglen hon yn darparu mwy o gyfle i gymunedau Cymru leisio eu barn.  Mae'n ymwneud â phobl yn dweud eu dweud i ddylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymuned ac ar eu bywydau eu hunain.

Rydym am i'r rhaglen hon eu cefnogi i fod yn fwy cynaliadwy ac yn wydn i heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn y dyfodol yn ogystal â datblygu ymdeimlad mwy cryf o gymuned."

I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk neu ffoniwch 0300 123 0735.

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o ddyfarniadau 
- 58KB
.

Mwy o Wybodaeth

Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu tua £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH