- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 14 10 2008
Diolch i grant o dros £200,000 a gyhoeddir heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr, bydd pobl sy'n byw mewn cymuned fach ym Maesteg yn dysgu sgiliau newydd a fydd yn helpu i adfywio'r ardal trwy agor drysau at gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth.
Mae Prosiect Cymunedol Capel Noddfa, sydd wedi’i leoli yn ardal Caerau, Maesteg, wedi derbyn £203,477 o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at ddwyn pobl ynghyd er mwyn gwneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Capel Noddfa yw un o’r canolfannau cymunedol prysuraf yng Nghaerau ac mae wedi’i leoli i'r gogledd o’r pentref. Mae’r adeilad yn ganolfan gymunedol a chanddo ystod o gyfleusterau gan gynnwys llyfrgell leol, swît TGCh, clybiau ieuenctid, grwpiau plant bach, a chylch bocsio. Mae Caerau yn ardal sy’n arunig yn ddaearyddol ac mae dirywiad y diwydiant glo yn parhau i ddifetha'r gymuned gyda lefelau uchel o ddiweithdra, yn deillio o ddiweithdra'r bedwaredd genhedlaeth mewn rhai achosion.
Gyda'r arian hwn gan y Gronfa Loteri Fawr, bydd Prosiect Cymunedol Capel y Noddfa yn gweithio gyda sefydliadau partner perthnasol er mwyn darparu ystod o hyfforddiant a chefnogaeth i bobl sy’n byw yn yr ardal. Ymhlith y gefnogaeth a’r gwasanaethau fydd grŵp rhieni a phlant, Dechrau’n Deg, a fydd yn darparu Iaith a Chwarae a Sbonc a Rhigwm, a chyfleuster galw i mewn ar gyfer y rhai rhwng 16 a 25 mlwydd oed lle bydd Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig mynediad at brosiectau, cyngor, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth priodol.
Trwy weithio mewn partneriaeth gyda’r sefydliad cyflogaeth Working Links, bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi hefyd i bobl sydd eisiau dychwelyd at hyfforddiant, addysg a chyflogaeth. Bydd ystod o gyfleoedd hyfforddi achrededig a heb eu hachredu yn cael eu cynnig trwy bartneriaeth gyda sefydliadau megis adran Dysgu i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, prosiect Llynfi Prifysgol Morgannwg, Cymraeg i Oedolion a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Bydd cyfleuster meithrinfa hefyd yn cael ei ddarparu er mwyn caniatáu i rieni gymryd rhan ac elwa o’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.
Wrth ymhyfrydu yn y dyfarniad, dywedodd Caroline Marlow, Rheolwr Prosiect Cymunedol Noddfa: “Trwy ddarparu ystod o wasanaethau, cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl o fewn ardal ddifreintiedig, bydd y prosiect hwn yn cefnogi pobl i ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau a fydd nid yn unig yn helpu i hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth unigolion, ond bydd yn cyfrannu at adfywio’r ardal a helpu i adeiladu cymuned gryfach, fwy gweithredol.”
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.
Gwybodaeth Bellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags