Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Arwr Bocsio yn Taflu ei Bwysau y tu Ôl i Brosiect Calon LÂn

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
24 3 2009

Mewn seremoni arbennig heddiw, fe wnaeth Pencampwr Diguro Uwch Bwysau Canol y Byd a deiliad hiraf ar deitl y byd yn hanes bocsio, Joe Calzaghe, agor gardd goffa yn swyddogol ar gyfer cymuned yn Rhondda Cynon Taf.

Ddydd Mawrth 24 o Fawrth (heddiw), cafodd Joe Calzaghe CBE gwmni aelodau o’r gymuned ac Arglwydd Rhaglaw Canol Morgannwg, Mrs Kathrin (Kate) Thomas C.V.O, i ddathlu agoriad swyddogol Gardd Goffa Calon Lân yng Nghanolfan Byw’n Iach Bryncynon yn Matthewstown, Aberpennar. Er mwyn nodi’r achlysur, fe wnaeth y pencampwr bocsio ddadorchuddio plac i agor yr ardd yn swyddogol a phlannu coeden gyda’r Cynghorydd Albert Davies MBE (Mae croeso i’r cyfryngau fynychu’r digwyddiad. Gweler diwedd y datganiad am gyfleoedd ffotograffau, cyfweld a ffilmio).

Yn 2007, enillodd y prosiect 'Calon Lân’, a redir gan Bryncynon Community Revival Strategy Ltd, gyfran o £49,100 o arian achosion da yng nghystadleuaeth Miliynau’r Bobl rhanbarthol y Gronfa Loteri Fawr, a agorodd ar gyfer ceisiadau unwaith eto'r wythnos diwethaf. Bu gwylwyr ITV Wales Tonight yn pleidleisio dros y prosiect i ennill y dyfarniad ar ôl cystadleuaeth benben agos am bleidleisiau cymunedol a ddarlledwyd ar y rhaglen newyddion rhanbarthol.

Mae’r arian wedi’i ddefnyddio i greu gardd goffa arbennig, sy’n cynnig cysur i bobl leol sydd wedi colli anwyliaid.   Ynghyd â galluogi i bobl fanteisio ar olygfeydd godidog o’r cwm, mae’r darn o dir diffaith gynt, sydd wrth ymyl y ganolfan, bellach yn cynnwys meinciau newydd, cerfluniau planhigion, a gwaith celf ac arweddion dŵr, gan ddarparu cysur awyr agored i'r gymuned.

Mae’r prosiect yn helpu pobl fel Maria Joszko i ddelio gyda’i galar. Ar 28 Mehefin 2007, lladdwyd ei brawd 28 mlwydd oed, Corporal Paul Joszko, 2il Fataliwn Y Cymry Brenhinol (Catrawd Frenhinol Cymru), ynghyd â dau filwr arall, pan ffrwydrodd bom ar fin y ffordd tra’r oedd ar batrôl ym Masra, De-ddwyrain Irac.

Mae gan yr ardd newydd blac i gofio’r personél gwasanaethu sydd wedi colli eu bywydau ar ddyletswydd ac mae enw Paul wedi’i ysgythru ar y plac, gan gynnig lle i Maria ddod i gofio am ei brawd.

“Mi gollais frawd annwyl iawn tra’r oedd ar ddyletswydd yn Irac,” esboniodd Maria.

“Fe gawsom gymaint o amseroedd da gyda’n gilydd a bellach mae'n braf gweld plac yma - fe ddylai gael ei gofio. Mae cael cofeb i mi yn golygu cymaint yng nghyswllt fy mrawd ac i bawb arall sydd wedi colli eu bywydau."

Mae Janice Morgan yn aelod arall o’r gymuned sy’n falch o’r prosiect. Ym mis Ebrill 2007, fe gollodd ei mab 41 oed, Stephen David Griffiths, i gancr: “Roedd yn fab a brawd cariadus ac mae’n rhoi llawer o gysur i mi ddod â fy wyrion yma er mwyn iddynt fwynhau a chofio am eu tad," esboniodd Janice.

“Mae cael gardd i gofio am fy mab yn ein helpu ni fel teulu i dynnu at ein gilydd er mwyn dod trwy'n galar."

Wrth ymhyfrydu yn yr ardd, dywedodd Cadeirydd Strategaeth Adfywio Gymunedol Bryncynon, y Cynghorydd Albie Davies MBE: “Rydym yn un teulu, yn un gymuned ac mae colli un yn bryder i ni gyd. Mae ymron i un miliwn o bunnau o arian y Gronfa Loteri Fawr wedi’i wario yma yn ystod y blynyddoedd ar weddnewid yr adeilad yn ganolfan gymunedol wych. A bellach, mae arian trwy’r gystadleuaeth Miliynau’r Bobl, ynghyd â chyfraniadau ychwanegol gan Gronfa Deddf Eglwysi Cymru a Chronfa Edward Lear sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,  wedi galluogi i ni ddarparu gardd yr un mor deilwng i’r gymuned er mwyn gwneud y fan hon yn hyd yn oed yn fwy arbennig. Dymunaf longyfarch bawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect ar eu holl waith caled."

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd arian y Gronfa Loteri Fawr i'r prosiect, dywedodd Aelod o Bwyllgor Cymru, Gareth Newton, a fynychodd y digwyddiad: “Trwy gystadleuaeth Miliynau’r Bobl, fe fynegodd y cyhoedd eu cefnogaeth frwdfrydig dros y prosiect lleol gwych hwn sy’n golygu cymaint i gymaint o bobl. Mae’r prosiect bellach wedi dod yn realiti a bydd y gymuned yn elwa ohoni am flynyddoedd i ddod.

“Mae’r gystadleuaeth gyffrous hon, sy’n rhoi gwariant y Loteri yn nwylo’r cyhoedd sy’n pleidleisio, yn agored i geisiadau unwaith eto eleni. Rydym yn annog prosiectau cymunedol i fynd amdani, yn yr un modd ag y gwnaeth prosiect Calon Lân ddwy flynedd yn ôl."

Mae pecynnau ymgeisio ar gyfer Miliynau’r Bobl ar gael heddiw trwy ffonio’r llinell gymorth: 08450 10 11 12 neu trwy ymweld â www.peoplesmillions.org.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Mai 2009.

Gwybodaeth Bellach

Swyddog y Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV Wales: Sally Holmes ar 08448 810 202

Mae manylion llawn ar brosiectau Miliynau’r Bobl i'w cael yn: www.biglotteryfund.org.uk/peoplesmillions

Cyfleoedd tynnu lluniau, ffilmio a chyfweld:

Digwyddiad: Joe Calzaghe yn lansio Gardd Goffa Calon Lân.
Dyddiad ac amser: 13:45 – 16:30pm Dydd Mawrth Mawrth 24, 2009
Lleoliad: The Feel Good Factory, Canolfan Byw’n Iach Bryncynon, Abercynon Road, Matthewstown, Aberpennar CF45 4XZ
Ffotograffau/Ffilmio: Mi fydd Joe Calzaghe, cynrychiolwyr o’r prosiect a’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar gyfer cyfleoedd ffilmio, cyfweld a ffotograffau yn ystod ac ar ol y digwyddiad. Mi fydd ffotograffau wedi’u comisiynu o’r lansiad hefyd ar gael o wneud cais amdanynt o swyddfa’r wasg y Gronfa Loteri Fawr – am ddim.

Nodiadau i Olygyddion

Dyddiadau allweddol Miliynau’r Bobl ar gyfer y dyddiadur:

  1. 15 Mai 2009: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
  2. 28 Hydref 2009: Cyhoeddi rhestr fer derfynol o brosiectau i’r cyfryngau
  3. 23-26 Tachwedd 2009: Darlledu cystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar ITV

  • Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth oedd ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol drwy weddnewid yr amgylchedd lleol.
  • Rhifau ffôn pleidleisio – Yn yr un modd â’r blynyddoedd blaenorol, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na’r Gronfa Loteri Fawr yn elwa o’r rhifau ffôn pleidleisio.
  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Cymunedau Cryfach

Categori

  • Adfywio
ADBORTH