- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 21 3 2012
Mae gofalwr sydd wedi treulio’r chwe blynedd diwethaf yn gofalu am ei wraig sydd â chlefyd Alzheimer wedi siarad yn agored am sut mae’r salwch wedi dinistrio eu bywydau a sut mae cefnogaeth gan brosiect a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yn darparu saib y mae angen mawr amdano o’i gyfrifoldebau gofalu bob dydd.
Y llynedd dyfarnwyd bron £960,000 i’r Gymdeithas Alzheimer gan raglen Llawn BYWYD £20 miliwn y Gronfa Loteri Fawr, sydd â’r nod o rymuso pobl hyn yng Nghymru trwy leihau unigedd cymdeithasol a datblygu gwasanaethau cefnogi.
Gwariwyd yr arian ar redeg Side by Side: An All-Wales Befriending Service for People with Dementia. Mae'r prosiect yn cynnig cwmnïaeth, cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl â dementia a gofalwyr yng Nghymru trwy hyfforddi tîm pwrpasol o wirfoddolwyr i fod yn gyfaill i bobl â dementia ar sail un ac un a chefnogi gofalwyr trwy wasanaeth bod yn gyfaill newydd ar y ffôn.
Ymhlith y bobl i elwa o'r prosiect y mae Michael Cohen, sy’n 66 oed ac yn hanu o Gydweli a'i wraig Jenny, sy'n dioddef o glefyd Alzheimer. Ar ôl gweithio'r rhan fwyaf o'u bywydau gyda'r Gwasanaeth Prawf ym Manceinion ac yn magu dau o blant, roedd y gwr a'r wraig Michael a Jenny Cohen yn edrych ymlaen at ymddeol i'w cartref delfrydol yng Nghydweli ar arfordir De Cymru a mwynhau gweddill eu bywydau gyda'i gilydd.
"Roedd y ddau ohonom wedi gweithio'n galed iawn mewn swyddi anodd a heriol am ran fwyaf ein bywydau cyn ymddeol i Gydweli pan oeddwn yn 60 oed gyda llawer o gynlluniau a syniadau ynglyn â sut yr oeddem yn mynd i dreulio ein hymddeoliad a mwynhau gweddill ein bywydau gyda'n gilydd," esboniodd Michael.
Chwalu Breuddwydion
Yn fuan ar ôl cyrraedd Cydweli, daeth hi'n amlwg bod Jenny yn sâl a thair blynedd yn ôl derbyniodd ddiagnosis Alzheimer, clefyd heb wellhad sy'n difrodi'r ymennydd ac sy'n effeithio ar tua 465,000 o bobl yn y DU. Bellach mae Michael yn treulio'i amser yn gofalu am Jenny a chymaint y mae effaith ei salwch ar eu bywydau, weithiau maen nhw'n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw o gwbl.
"Mae'r holl gynlluniau hynny wedi'u rhoi o’r neilltu oherwydd y salwch dychrynllyd hwn ac nid ydym wedi gallu mwynhau ein hymddeoliad o gwbl," dywed Michael.
"Mae'n drist ac yn drasig iawn, yn enwedig ar ôl inni weithio mor galed. Bellach mae ganddi'r salwch erchyll hwn sydd wedi draenio ei hyder a'i mwynhad o'i bywyd. Mae wedi cael effaith debyg arnaf i ond o leiaf mae gennyf fywyd y tu allan i'r salwch."
Gyda symptomau yn cynnwys colli cof, pryder, dryswch, hwyliau ansad ac ymddygiad obsesiynol, mae'r salwch wedi cael effaith erchyll ar fywyd y cwpwl:
"Rwyf wedi bod yn ofalwr cyhyd ag mae fy ngwraig wedi bod yn sâl," dywed Michael.
"Does ganddi ddim syniad pa amser yw hi na pha ddiwrnod yw hi. Mae'n ddryslyd ofnadwy ac os wyf allan gyda'r nos ac rwy'n cyrraedd gartref am 11pm, mae'n meddwl bod hi'n amser codi ac yn amser am frecwast. Nid oes ganddi ddealltwriaeth o ddydd na nos. Yn syml, mae rhannau o'r ymennydd yn rhoi'r gorau i weithredu wrth i'r afiechyd barhau. Yn y pen draw, bydd yr ymennydd yn rhoi'r gorau iddi'n llwyr."
"Mae'n anodd iawn gan nad yw'r person yr oeddwn yn ei adnabod, ac yn briod â hi ac yn byw â hi am fwy na deg ar hugain o flynyddoedd yno bellach. Person gwahanol iawn ydyw erbyn hyn ac mae'n amhosibl cael sgwrs resymegol gan na all fy ngwraig gynnal un. Ni all hi gofio unrhyw beth, mae'n profi'r hwyliau ansad mwyaf ofnadwy, ac mae'n eithaf ymosodol tuag ataf yn aml. Mae'n ysbryd neu'n gysgod o'r person yr oeddwn i'n ei adnabod."

Gadael ei Ôl
Mae'r salwch wedi gadael ei ôl ar y cwpwl, sy'n nodi 35 mlynedd o briodas y mis Medi hwn, a dywed Michael mai ei unig seibiant yw pan fydd yn gweithio tri diwrnod yr wythnos fel Cofrestrydd gyda'r Awdurdod Lleol:
"Does dim gwelliant, dim ond dirywiad," dywed.
"Mae gennyf fy mhriod na fydd byth yn gwella a fydd ond yn gwaethygu ac ychydig iawn y gallwch ei wneud i helpu o gwbl, ar wahân i fod yno ar ei chyfer. Mae fy ngwraig yn analluog i wneud unrhyw beth o amgylch y ty ar wahân i ychydig o smwddio yn achlysurol gan ei bod wedi anghofio sut i weithredu peiriannau. Nid yw'n gallu defnyddio’r ffôn, y teledu nac unrhyw gyfarpar yn y gegin. Nid yw'n gallu gwneud diod boeth i'w hun oherwydd nid yw'n sylweddoli pa bryd mae'r tegell wedi berwi. Felly rhaid i mi wneud yr holl goginio a'r golchi. Rhaid i mi wneud popeth a dweud y gwir."
'Nid yw bywyd yn werth ei fyw'
Ac nid yw'r syniadau gwaethaf fyth yn bell o'u meddyliau: "Rwy'n mynd trwy gyfnodau gwael ac rwyf ar bresgripsiwn tabledi gwrth-iselder a chysgu," dywed Michael.
"Weithiau rwy'n teimlo'n isel iawn oherwydd dw i'n gwybod mai dim ond gwaethygu y bydd pethau. Nid ydw i'n cael seibiant chwaith gan fod fy ngwraig yn gwrthod mynd i ganolfannau dydd."
"Mae'n gwrthod ystyried gofal seibiant ac unrhyw ffurf arall ar ofal ar wahân i'r hyn rwy'n ei ddarparu. Felly, yr unig seibiant rwy'n ei gael yw wrth fynd i'r gwaith oherwydd rwy'n gwybod y bydd hi'n ddiogel yn ystod y dydd."
"Mae fy ngwraig a finnau yn teimlo'n hunanddinistriol ar brydiau. Mae'n aml yn dweud nad yw bywyd yn werth ei fyw rhagor. Ar brydiau rwy'n teimlo'n eithaf gwael ac yn teimlo fel nad ydw i eisiau bod yma. Yr hyn sy'n fy nghadw i fynd yw'r ffaith pe na bawn i yma, ni fyddai'n gallu gweithredu. Byddai ar goll hebddai."
Cefnogaeth Wych
Serch hynny, mae Michael yn ddiolchgar am y gefnogaeth maen ei derbyn gan y Gymdeithas Alzheimer:
"Rydym wedi cael help amrywiol ganddynt ac maen nhw wedi cynnig cyrsiau a sesiynau hyfforddi niferus," dywed.
"Yr hyn sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol yw'r gwirfoddolwr y maen nhw wedi'i ddarparu i ni. Mae'r gwirfoddolwr yn gyn-nyrs sy'n dod i weld Jenny unwaith y pythefnos am gwpwl o oriau yn y prynhawn ac yn siarad â hi ac yn mynd â hi allan i gerdded yn y prynhawn. Mae'n rhywbeth y mae Jenny yn edrych ymlaen ato ac mae'n bwysig iawn iddi. Dyna'r unig gyswllt dynol arall sy'n ganddi ar wahân i fi. Byddem yn falch iawn pe bai modd i'r gwirfoddolwr ddod yn amlach."
"Rwy'n gwybod unwaith y pythefnos fod rhywun yno i fy ngwraig, sy'n fy helpu i, oherwydd rwy'n gwybod bod y gwirfoddolwr yn dod yn ystod un o'r dyddiau rwyf yn y gwaith ac mae rhywun yno ar gyfer fy ngwraig."
Ychwanegodd: "Mae angen mwy o ariannu yn lleol ar gyfer prosiectau megis hwn. Gorau po fwyaf o adnoddau lleol sydd ar gael. Prosiectau lleol fel hyn sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
O dan y rhaglen Llawn BYWYD, mae rhwng £200,000 ac £1 miliwn wedi'i ddyfarnu ar gyfer prosiectau a fydd yn para rhwng tair a phum mlynedd.
I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i Gymru.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 46% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU ers mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan y Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags