- Area:
- Cymru
- Release date:
- 20 11 2008
Mae cymunedau yng Ngheredigion cael eu hannog i gymryd rhan mewn trafodaeth ar sut y dylid gwario arian y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru rhwng 2009 a 2015. Mae ymgynghoriad y Farn Fawr y Gronfa Loteri Fawr, a lansiwyd yr wythnos hon, yn anelu at ganfod barnau pobl ar y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer rhaglenni ariannu yn y dyfodol.
Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau a drefnir ar draws y sir, Ddydd Llun 8 Rhagfyr, bydd y Gronfa Loteri Fawr yn ymweld â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Yng ngwir arddull, ‘Who Wants to be a Millionaire’, bydd aelodau’r cyhoedd a budd-ddeiliaid fydd yn mynychu pob digwyddiad yn defnyddio botymau pleidleisio electronig i rannu eu safbwyntiau ar ble ddylid targedu arian y Loteri yn y dyfodol.
Y Gronfa Loteri Fawr yw’r mwyaf o blith dosbarthwyr y Loteri ac mae’n gyfrifol am ddyfarnu hanner yr arian y mae’r Loteri Genedlaethol yn ei godi i achosion da. Mae ei phortffolio o raglenni ariannu cyfredol yn buddsoddi dros £1 miliwn yr wythnos mewn prosiectau ar draws Cymru ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bob math o gymunedau.
Dywedodd Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ac Aelod o Fwrdd y DU, Huw Vaughan Thomas: “Wrth gynllunio at y blynyddoedd i ddod, rhaid i ni gadw'n gyfredol gyda’r anghenion ar ddod a deall yr hyn sydd bwysicaf i bobl. O ystyried y cyd-destun economaidd cyfredol, sydd eisoes yn cael effaith ddifrifol ar bobl ar draws Cymru, rydym yn wynebu her gynyddol i ganfod ble y gallwn ychwanegu’r gwerth mwyaf a pharhau i wneud y cyfraniad gorau posibl i'r cymunedau mwyaf anghenus.”
Mae’r Farn Fawr yn dilyn adolygiad cynhwysfawr ar raglenni ariannu cyfredol yng Nghymru a gynhaliwyd yn 2007 er mwyn helpu i gynllunio buddsoddiadau yn y dyfodol. Fe wnaeth yr adolygiad hwn adnabod angen i barhau gyda ffrydiau ariannu cyffredinol wedi’u harwain gan alw, ond roedd hefyd yn awgrymu y dylai cefnogaeth bellach gael ei thargedu o fewn themâu strategol allweddol, sef pobl hŷn, asedau cymunedol, newid yn yr hinsawdd a chryfhau llais y dinesydd. Bydd yr ymgynghoriad cyfredol hefyd yn ystyried y cynigion a oedd yn deillio o’r adolygiad.
Enghraifft berffaith o brosiect sydd wedi symbylu pobl i feddwl am effeithiau newid yn yr hinsawdd yw’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, Powys. Mae’r Ganolfan yn anelu at ysbrydoli pobl i fyw yn fwy cynaliadwy ac i edrych ar ddatrysiadau ymarferol tuag at broblemau amgylcheddol trwy hyrwyddo ynni adnewyddadwy, adeiladu yn amgylcheddol, effeithlonrwydd ynni, systemau glanweithdra arbed dŵr a thyfu’n organig.
Mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen wedi enw o nifer o ffrydiau ariannu oddi wrth y Gronfa Loteri Fawr, gan gynnwys dyfarniad gwerth £544,000 tuag at brosiect tirnod i adeiladu canolfan hyfforddi gynaliadwy gwerth £6.2 miliwn o’r enw Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Cynaliadwy. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer ehangu ar gyrsiau achrededig proffesiynol y Ganolfan, sy’n hyfforddi plymwyr a thrydanwyr i osod technoleg ynni adnewyddadwy, sydd eu hangen ar frys os ydym am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn effeithiol.
Fe wnaeth y Gronfa Loteri Fawr hefyd ddarparu £50,000 tuag at arddangosfeydd rhyngweithiol newydd yng nghromen geodesig y Ganolfan Dechnoleg Amgen a adeiladwyd o hen boteli a thwnelau polythen, ac mae’r ddau yn dangos yr enghreifftiau symlaf o wresogi solar goddefol. Mae’r rhain wedi profi’n arbennig o boblogaidd ac maent yn dod â'r dyfodol i'r presennol ar gyfer ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.
Mae ymgynghoriad y Farn Fawr yn cael ei gynnal ar draws y DU er mwyn sicrhau bod arian y Loteri yn parhau i gael ei wario ar brosiectau gwerth chweil gan helpu’r rhai mwyaf anghenus a chael yr effaith fwyaf bosibl ar fywydau pobl. Yma yng Nghymru, bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar 10 o Gwestiynau’r Gronfa Loteri Fawr sy’n perthyn i egwyddorion ariannu allweddol sy’n berthnasol i’r DU gyfan, ynghyd â chwestiynau manylach ynghylch meysydd buddsoddi arfaethedig yn benodol yng Nghymru.
Aeth Huw Vaughan Thomas ymlaen i ddweud: “Rydym yn gofyn i bobl fynegi eu barnau ar ein cynigion ar gyfer blaenoriaethau yn y dyfodol i Gymru sy'n deillio o ganfyddiadau ein hadolygiad cychwynnol. Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn casglu ymatebion gan ystod eang o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol ac unigolion, er mwyn hysbysu cynllunio’r rhaglenni ar gyfer 2009-2015. Mae dros 70% o’r boblogaeth yn cymryd rhan reolaidd yn y Loteri Genedlaethol, felly mae gan bawb yr hawl i ddweud sut y dylid gwario’r arian a godir o werthiannau tocynnau. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl gael dylanwad uniongyrchol ar sut y bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gweithio yng Nghymru yn y dyfodol.”
Fe ychwanegodd: “Mae’r Farn Fawr yn ymwneud ag edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma ac edrych ymlaen at yr hyn y gallwn ei wneud yn well yn y dyfodol. Ynghyd â dathlu llwyddiant y gorffennol, bydd yr ymgynghoriad hwn yn galluogi i ni ddysgu o'n profiad cronedig o fwy na 10 mlynedd o ariannu’r Loteri yng Nghymru.”
Agorodd y Farn Fawr Ddydd Llun [17 Tachwedd 2008] a bydd yn rhedeg hyd at 27 Chwefror 2009. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn a’r holiadur ar gael i'w lawr lwytho ar y wefan www.yfarnfawr.org.uk. Cynhelir pedwar digwyddiad ar draws Cymru yn ystod misoedd Rhagfyr ac Ionawr er mwyn rhoi cyfle i bobl ddweud eu dweud a chymryd rhan mewn trafodaeth fanylach ynghylch y cynigion.
Cynhelir y digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth, Ddydd Llun, 8 Rhagfyr rhwng 10am a 1pm. Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad neu am wybodaeth bellach cysyllter â'r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 702 neu ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk.
Gwybodaeth Bellach:
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y Tu Hwnt i Oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn ar raglenni’r Gronfa Loteri Fawr a’r dyfarniadau grant ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Pennawd y Llun: Cromen oddi cartref: Roedd hi’n broses drylwyr adeiladu’r gromen poteli ar gyfer staff a’r gwirfoddolwyr yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth ond roedd y canlyniad yn werth chweil.
- Mae manylion llawn ar y Farn Fawr gan gynnwys y ddogfen ymgynghori, adborth ar-lein ynghyd â digwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol ar gael ar www.yfarnfawr.org.uk.
- Yn 2007, cyhoeddwyd y byddai £638 miliwn o arian y Gronfa Loteri Fawr rhwng 2009 s 2012 yn cael ei drosglwyddo i Ddosbarthwr Loteri’r Gemau Olympaidd er mwyn cefnogi gemau 2012 Llundain. Mae’r dargyfeiriad i’r Gemau Olympaidd yn golygu y bydd gan y Gronfa Loteri Fawr lai o arian ar gael i'w ddosbarthu rhwng 2009 a 2015 na’r hyn a fyddai ar gael fel arall. Disgwylir y bydd ariannu’r Gronfa Loteri Fawr yn cael ei adfer yn agos at y cyfraddau arferol yn ystod y blynyddoedd ar ôl 2012.
- Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi nodi’n glir na fydd unrhyw arian pellach o'r Loteri yn cael ei drosglwyddo i Gemau Olympaidd Llundain 2012.
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn yr wythnos mewn arian achosion da y Loteri ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
- Mae tua 70 y cant o boblogaeth oedolion y DU yn chwarae’r Loteri yn rheolaidd.
Tags