Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Pawb a’i le mewn canolfan i blant a theuluoedd ym Mhowys

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
2 5 2008
Mae cynlluniau cyffrous ar waith i ddatblygu Canolfan Deuluol ac ardal chwarae newydd, amlbwrpas yn Aberhonddu, diolch i hwb ariannol o dros £3 miliwn a ddyfarnwyd i brosiectau yng Nghymru drwy raglen Pawb a’i Le Cronfa Loteri Fawr.

Dyfarnwyd cyfanswm o £3,195,150 i brosiectau ledled y wlad fel rhan o’r rhaglen Pawb a’i Le, sy’n ceisio uno pobl i gryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau gwledig a threfol.

Diolch i ddyfarniad o £21,500, bydd Cyngor Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol yn datblygu eu cynlluniau i ddarparu canolfan adnoddau penodol i blant a theuluoedd yn nhref farchnad hanesyddol Aberhonddu, yng nghanolbarth Cymru. Bydd Canolfan Adnoddau Plant a Theuluoedd St. John yn  cael ei sefydlu yn Ysgol Hen Briordy St. John ger ward St. John, lle mae problemau yn cynnwys lefelau uchel o aelwydydd di-waith, tlodi plant a lefelau isel o gyrhaeddiad addysgiadol.

Os gwireddir y cynllun, bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adnewyddu, a’r ganolfan newydd yn cael ei defnyddio ar gyfer grŵp chwarae, clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol. Byddai gwelliannau eraill yn cynnwys gosod cegin addas ar gyfer sesiynau coginio a phrydau bwyd teuluol, ardal ar gyfer sesiynau rhieni a phlant bach, ac ardal dawel ar gyfer y grŵp chwarae neu hyfforddiant i rieni. Byddai’r llawr cyntaf, gyda mynediad i’r anabl, yn darparu swyddfeydd i staff ac ystafelloedd ymgynghori at ddefnydd ymwelwyr iechyd a bydwragedd ayyb. Bydd ardaloedd ar gael hefyd ar gyfer sesiynau cyswllt teuluol wedi eu goruchwylio.

Byddai’r ganolfan newydd yn darparu hyfforddiant i ddatblygu hyder a sgiliau bywyd ymysg pobl, ac yn delio gyda materion yn ymwneud â diogelwch y gymuned ac ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy raglenni ymyrraeth gynnar. Byddai’r prosiect yn lleihau ynysigrwydd, yn enwedig i deuluoedd, drwy adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol a hybu cefnogaeth cymheiriaid. Byddai’r ganolfan hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli er mwyn hybu gwell cyfathrebu rhwng unigolion o grwpiau oedran gwahanol ac o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol gwahanol. Byddai’r adeilad hefyd yn lleoliad atyniadol ar gyfer amryw o weithgareddau cymunedol, yn ogystal â’i ddefnydd fel Canolfan Deuluol yn ystod y dydd.

Wrth sôn am yr effaith gadarnhaol y bydd y dyfarniad yn ei gael, dywedodd Aelod Pwyllgor Cymru Cronfa Loteri Fawr a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le, Janet Reed: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn cyflawni ein haddewid i ddefnyddio arian Loteri i adnewyddu ac adfywio cymunedau, taclo anfantais a gadael etifeddiaeth barhaol. Bydd y dyfarniad hwn yn galluogi’r prosiect i ddatblygu cynlluniau cyffrous fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a’u teuluoedd yn y gymuned.”

Am fwy o wybodaeth am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch at www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch adnodd chwilio penodol ‘Cymru’.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell Destun: 0845 6021 659

Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn o arian achosion da'r Loteri bob wythnos, sy’n golygu, gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl ledled Cymru yn byw o fewn rhai milltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Bu Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DG ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 250,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH