- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 25 9 2012
Mae'r rhaglen Ar y Blaen gwerth £3.4 miliwn yn anelu at ymgysylltu, paratoi a symbylu y rhai sy'n gadael gofal a throseddwyr ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant i ymgymryd â lleoliad gwaith chwe mis a gefnogir â thâl. Nod y rhaglen yw gwella'u cyfleoedd o symud ymlaen at gyflogaeth gynaliadwy neu ddysgu/hyfforddiant pellach trwy gynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd.

Un enghraifft ddisglair ar gyfer pobl ifanc sydd ar fin elwa o'r rhaglen hon yw Christopher Storer, 17 oed, o Gaerdydd sydd wedi manteisio i'r eithaf ar fynychu prosiect tebyg sydd hefyd wedi'i ariannu'n rhannol gan y Gronfa Loteri Fawr.
Yn tyfu i fyny gyda phroblemau mawr yn yr aelwyd, roedd gan Chris Storer blentyndod cythryblus a threuliodd ei arddegau cynnar yn triwantio o'r ysgol ac yn lolian o gwmpas ar strydoedd Caerdydd nes iddo gael ei leoli o dan Ofal yr Awdurdod Lleol. Gyda dim byd i'w wneud a heb unrhyw obaith, symbyliad, breuddwydion na dyheadau ar gyfer y dyfodol - roedd ar lethr lithrig a arweiniai at ddyfodol gwag.
Wrth droi'r cloc ymlaen deng mis mae Chris bellach yn adrodd stori gwbl wahanol. Ar ôl gadael gofal mae'r dyn ifanc bellach mewn cyflogaeth amser llawn, mae ganddo arian yn ei boced, mae'n llawn hyder ac yn edrych ymlaen at ei ddyfodol yn llawn gobaith.
Mae Chris ymysg y cannoedd o bobl ifanc o Gaerdydd a Chymoedd De Cymru sydd wedi elwa o'r Cynllun Learning 4 Life a redir gan yr elusen ddigartref Llamau. Wedi'i ariannu'n rhannol gan y Gronfa Loteri Fawr, nod y cynllun yw rhoi cefnogaeth ac arweiniad wedi'u teilwra i bobl ifanc sy'n gadael gofal i'w helpu i ddechrau gweithio a'u galluogi i fyw bywydau annibynnol.
“Roedd fy mywyd yn ddiflas cyn i mi ddechrau ymwneud â'r cynllun hwn," meddai Chris.
“Roeddwn allan ar y strydoedd yn lolian o gwmpas, yn gwneud dim byd ac roedd gennyf gryn nifer o broblemau adref.”
“Nid oedd gennyf unrhyw beth i'w wneud. Ceisiais ddod o hyd i swydd ond nid oeddwn i'n gallu dod o hyd i unrhyw beth. Gwnes i byth ganolbwyntio yn yr ysgol ychwaith, roedd fy sylw bob amser ar rywbeth arall. Alla i ddim eistedd i lawr i ysgrifennu a darllen - mae hynny i gyd yn ddiflas i mi. Mae'n well gennyf ddefnyddio fy nwylo a dysgu trwy edrych ar bobl ifanc yn gyntaf a gwneud e y ffordd 'na."
Ar ôl cael ei roi o dan ofal yr Awdurdod Lleol, cyfeiriwyd Chris i Llamau gan Weithiwr Cymdeithasol o Wasanaethau i Blant y llynedd. I ddechrau cymerodd ran mewn cynllun profiad gwaith ond roedd yn awyddus i gael cyflogaeth â thâl ar sail barhaol.
“Dechreuais fynd yn ôl i'r ysgol i ddangos fy mod yn gwneud ymdrech i newid a ceisio gwneud rhywbeth allan o'm bywyd,” meddai Chris.
Yna trefnodd fy ngweithiwr cymdeithasol gyswllt rhyngof fi a'r prosiect, a dechreuodd y cyfan bryd hynny."
Trwy'r cynllun, cynigiwyd lleoliad gwaith i Chris gydag AE Insulation Ltd, cwmni yng Nghaerdydd sy'n darparu ac yn gosod inswleiddio ar gyfer adeiladau preswyl, diwydiannol a masnachol. Ar ôl ychydig wythnosau o waith, fe'i cyflogwyd gyda thâl.
Ac yntau wrth ei fodd â'i swydd newydd, nid yw 'diflastod' yn air sy'n rhan o eirfa Chris bellach ac ni all ddychmygu bywyd heb waith: “Rwy'n mwynhau'n wirioneddol ac ni allaf aros i fod yn gwbl gymwysedig,” meddai.

Ar ôl delio gyda chryn dipyn o gythrwfl yn ystod ei blentyndod, nid oedd Chris yn barod am brentisiaeth a chredodd y byddai'n ormod i ymgymryd â hi mor gynnar. Roedd am gael cyflogaeth â thâl gyda'r posibilrwydd o astudio'n fwy difrifol nes ymlaen. Erbyn hyn mae Chris wedi bod yn gweithio i AE Insulation ers deng mis ac mae wedi symud ymlaen o'i swydd wreiddiol o osod inswleiddio mewn toeon i inswleiddio waliau ceudod.
Yn ogystal â chyflogaeth â thâl, mae Chris hefyd wedi caffael sgiliau newydd a chymwysterau yn y gwaith o fewn ei rôl. Mae hyd yn oed wedi ennill cymhwyster City & Guilds mewn cyfrifiadureg (TGCh), sef rhywbeth na fyddai wedi breuddwydio amdano rhai blynyddoedd yn ôl.
“Rwyf wedi gwneud cyrsiau cyfrifiadurol a chael profiad gwaith mewn sawl lle," meddai.
"Ni fyddwn byth wedi ymwneud â rhywbeth fel hyn o'r blaen, a bod yn onest. Dw i hefyd wedi gwneud llwyth o gyrsiau gyda'r gwaith."
Rhoddodd y prosiect rywfaint o hyder yr oedd fawr angen amdano i Chris: "Gwnaethom roi mwy o hyder i mi wrth gwrdd â phobl newydd hefyd," meddai.
"Roeddwn braidd yn swil ac yn dawel wrth gwrdd â phobl newydd o'r blaen. Roedd cynifer o bobl wahanol yn dod i mewn ac allan o'r prosiect fe ddes i'w hadnabod nhw yn y pen draw, a gwellodd fy hyder."
Yn ôl Chris dyma'r peth gorau sydd wedi digwydd iddo ac nid yw'n credu y byddai wedi dod o hyd i gyflogaeth o gwbl heb y gefnogaeth y mae wedi'i derbyn.
“Heb y gefnogaeth hon ni fyddwn ble yr ydw i nawr," mae'n dweud.
“Ni fyddai swydd gennyf ac mae'n debygol y byddwn i'n gwneud dim byd neu ar y clwt neu rywbeth.”
“Mae llawer yn haws gyda chefnogaeth. Os oedd rhywbeth nad oeddwn yn ei ddeall, byddai gweithiwr cefnogi'r prosiect yn ei esbonio i mi, a byddai hefyd yn fy ngwthio tuag at ddod o hyd i swydd. Pan oeddwn ar fy mhen fy hun roeddwn yn ffonio llwyth o bobl wahanol, byddent yn cymryd fy manylion ac ni fyddwn byth yn clywed oddi wrthynt eto. Aeth y prosiect hwn â mi i'r cam nesaf hwnnw o gael swydd go iawn.”
Ac erbyn hyn mae gan Chris gynlluniau pendant ar gyfer y dyfodol, a llawer mwy brwdfrydedd ar gyfer bywyd: Yn bendant rwy'n fodlon rhoi cynnig ar bethau nawr, ond yn flaenorol os nad oedd yn swnio'n dda, doeddwn i ddim eisiau gwybod," mae'n dweud.
Mae'n beth da fy mod wedi newid. Mae fy mywyd llawer yn fwy cyffrous; Mae gennyf lawer mwy o arian i wneud pethau ac nid cymaint o amser rhydd - felly rwy'n mwynhau hyd yn oed yn fwy pan fydd y penwythnos yn cyrraedd."
Ac mae ei neges yn glir ar gyfer y rhai sydd am elwa o'r rhaglen newydd: "Ewch amdani. Dewch o hyd i waith ac achubwch ar y cyfle," mae'n dweud.
SAIN AR GAEL: Chris Storer yn esbonio sut mae prosiect ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr wedi helpu iddo gael cymwysterau newydd a swydd. Cliciwch yma i wrando ar Chris http://tinyurl.com/c7gb54e I drefnu cyfweliad gydag Chris, ffoniwch Oswyn Hughes ar 02920 678 207 neu e-bostiwch oswyn.hughes@biglotteryfund.org.uk
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Dyfarnwyd dros £500,000 i'r elusen ddigartref, Llamau Ltd trwy Sgiliau Bywyd i redeg y cynllun Learning 4 Life - prosiect sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad wedi'u teilwra i dros 200 o bobl ifanc sy'n gadael gofal o Gaerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i'w helpu i ddechrau yn y gwaith a'u galluogi i fyw bywydau annibynnol.
- Mae'r prosiect Sgiliau Bywyd gwerth £14 miliwn yn ffrwd ariannu sy'n darparu arian o'r Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Gymdeithasol Ewrop - wedi'u cyflwyno trwy Lywodraeth Cymru.
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae Deddf y Loteri Genedlaethol 2006 yn rhoi caniatâd i ni drin arian nad yw'n dod o'r Loteri yn ogystal ag arian Loteri. Rydym yn gwneud hyn drwy weithredu o dan enw y Gronfa Fawr.
- Ariennir y rhaglen Ar y Blaen gan arian sydd wedi gorwedd yn segur mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu yn y DU ers 15 mlynedd neu fwy. Mae'r ffordd yr ydym yn gwario'r arian hwn wedi cael ei phennu gan Gyfarwyddiadau Polisi a roddwyd i'r Gronfa Loteri Fawr gan Lywodraeth Cymru. Datblygwyd y rhaglen hon i ddiwallu'r angen a nodwyd yn y Cyfarwyddiadau hynny.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags