Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Hwyl yr ŵyl wrth i blant Cymru ddathlu hwb o £2 miliwn o arian Loteri

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
18 12 2007
Daeth y Nadolig yn gynnar i blant ledled Cymru yn dilyn cyhoeddiad Cronfa Loteri Fawr heddiw am hwb ariannol o £2 miliwn o arian Loteri, i ddatblygu cyfleoedd chwarae newydd i blant ledled y wlad.

Mae naw prosiect ledled Cymru yn elwa o’r £2,213,390 sy’n cael ei ddosbarthu, wedi’i ddyfarnu drwy ffrwd £13 miliwn ‘Chwarae Plant’,  rhaglen £20 miliwn Teuluoedd Iach y Gronfa Loteri Fawr. Mae’r holl brosiectau yn anelu at gyflawni blaenoriaethau’r rhaglen, drwy adeiladu ar y strwythur sy’n cefnogi datblygu chwarae plant yng Nghymru a chreu cyfleusterau a mentrau chwarae newydd ym mhob ardal.

Datblygwyd y rhaglen Teuluoedd Iach yn sgil ymgynghoriad cynhwysfawr ac fe’i lansiwyd mewn cynhadledd arbennig a drefnwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghaerdydd y llynedd. Bydd y rhaglen yn hyrwyddo agwedd holistig at ddelio gyda gordewdra, a bydd mentrau a ariannir drwy ffrwd Chwarae Plant yn ei wireddu.

Gan sôn am yr effaith cadarnhaol y bydd y dyfarniadau yn eu cael ar blant a’u teuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru, meddai Cadeirydd Pwyllgor Teuluoedd Iach, Graham Benfield: “Bydd y prosiectau hyn yn nodi meysydd penodol sydd angen eu hwynebu o fewn chwarae plant yng Nghymru, drwy ddatblygu blaenoriaethau ac adeiladu neu ddatblygu strwythurau newydd i gyflawni cyfleoedd chwarae newydd a chyffrous. Rhaid i ni weithredu i gynnal iechyd y genhedlaeth nesaf ac annog plant i fyw bywydau iachach, mwy bywiog. Rwy’n siŵr y bydd y prosiectau hyn yn gwneud hynny.”

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gweithio’n agos gyda Chwarae Cymru, sefydliad cenedlaethol a hyrwyddwr chwarae plant, i gefnogi ymgeiswyr a dosbarthu’r arian sydd ar gael.

Meddai Cyfarwyddwr Chwarae Cymru, Mike Greenaway: “Mae Chwarae Cymru yn hapus iawn i rannu’r newyddion da ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus yn rownd gyntaf rhaglen Chwarae Plant.  Mae’r dyfarniad hwn yn arwydd o lwyddiant mawr, ac mae’n ganlyniad i lawer o waith caled, trafod a chynllunio gan grwpiau ledled Cymru.  Edrychwn ymlaen at gefnogi ymgeiswyr llwyddiannus i wneud y gorau o’r arian, ac rydym yn hyderus y bydd yn dod â buddiannau mawr i blant Cymru yn y dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Theuluoedd Iach - rhaglen Chwarae Plant, ewch at www.cronfaloterifawr.org.uk  a defnyddiwch yr adnodd chwilio.

Cyfleoedd Cyfweld, Lluniau a Ffilmio: Mae cynrychiolwyr o’r Gronfa Loteri Fawr a Chwarae Cymru ar gael i’w cyfweld, ffilmio a thynnu eu lluniau. Er mwyn trefnu unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr ar y rhifau ar ddiwedd y datganiad.

Rhestr lawn o’r prosiectau:

SefydliadLleoliadSwm a ddyfarnwyd
Ail-Greu Canolfan Adnoddau Chwarae CaerdyddCaerdydd a Bro Morgannwg£246,523
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir GaerfyrddinSir Gaerfyrddin a Sir Benfro£250,000
RAY CeredigionCeredigion£249,831
Cymdeithas Chwarae RCT Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr£250,000
Chwarae IawnAbertawe a Nedd Port Talbot£249,859
Fforwm Chwarae Merthyr TydfilMerthyr Tydfil, Blaenau Gwent a Chaerffili£220,300
Cyngor Bwrdeistref Sir ConwyYnys Môn, Gwynedd a Chonwy£246,974
Cynghrair Gwirfoddol TorfaenTorfaen, Casnewydd a Sir Fynwy£249,903
Cyngor Sir y FflintSir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam£250,000

Mwy o Wybodaeth:

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu Hwnt i Oriau Swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell Destun:  0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £1 miliwn yr wythnos o arian achosion da'r Loteri, sydd yn golygu, o’i gyfuno gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect wedi’i ariannu gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DU ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 280,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Plant
  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH