- Area:
- Cymru
- Release date:
- 18 6 2008
Mae Cyfarwyddwr Cymreig sefydliad sy’n cynnig cyngor ar amrediad eang o broblemau wedi ei dewis i helpu penderfynu sut y bydd arian y Loteri yn cael ei fuddsoddi ar wella bywydau miloedd o bobl ledled Cymru.
Mae Fran Targett, o Gaergybi yn Ynys Môn, Gogledd Cymru, wedi ymuno â Phwyllgor Cymru Cronfa Loteri Fawr a bydd yn awr yn cefnogi ei aelodau wrth oruchwylio sut y bydd miliynau o bunnoedd o arian achosion da y Loteri yn cael ei fuddsoddi ledled Cymru. Fran yw Cyfarwyddwr Cyngor Ar Bopeth Cymru, y sefydliad sy’n helpu pobl i ddatrys eu problemau ariannol, cyfreithiol ac eraill drwy roi cyngor a gwybodaeth rhad ac am ddim, a thrwy ddylanwadu ar ysgrifenwyr polisi.
Mae gan y Pwyllgor gyfoeth o brofiad ac mae Fran yn ymuno â’r Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, cyn Brif Weithredwr Cynghorau Sir Gwynedd a Dinbych, Graham Benfield, Prif Weithredwr CGGC, Gareth Newton, a chyn athro a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes o Rondda Cynon Tâf, Janet Reed, Rheolwr Cenedlaethol Nwy Prydain, Mike Theodoulou, Cadeirydd Gweithredol Asiantaeth Adfywio Foothold a Barbara Wilding, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru.
Yn hapus iawn i fod yn rhan o’r pwyllgor, dywedodd Fran: “Wedi gweithio yn y trydydd sector am nifer o flynyddoedd rwy’n ymwybodol iawn fod yr arian y mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ei ddosbarthu yng Nghymru yn hanfodol i gyflwyniad prosiectau gwirioneddol dda, sy’n helpu pobl ar draws y wlad. Gobeithiaf y gallaf ddod â’m profiad i sicrhau fod arian y loteri yn parhau i alluogi sefydliadau i gyflwyno prosiectau sy’n gwella hyd yn oed mwy o fywydau. Bydd fy ymrwymiad llwyr i gydraddoldeb a hawliau dynol yn allweddol yn fy agwedd i’r gwaith ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’m cydweithwyr newydd.”
Mae Fran Targett wedi bod yn gysylltiedig â Chyngor Ar Bopeth ers 1978, ac fe’i phenodwyd yn Gyfarwyddwr Cyngor Ar Bopeth Cymru yn 2000, gan arwain tîm sy’n gyfrifol am gyflwyno gwasanaethau Cyngor Ar Bopeth i fiwros ar draws Cymru ac am arwain gwaith polisi Cyngor Ar Bopeth Cymru.
Mae Fran yn eistedd ar Fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; yn cynrychioli’r sector Cyngor ac Eiriolaeth ar y Cyngor Partneriaeth Sector Gwirfoddol; yn Cadeirio Fforwm Darparwr Annibynnol Cenedlaethol y Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol ac mae’n eistedd ar Bwyllgor Cymru y Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol fel cynrychiolydd darparwyr.
Yn ymrwymedig i gydraddoldebau, mae Fran yn gweithio’n agos â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae’n Cadeirio’r Rhwydwaith Cydraddoldeb a Hawliau Cyflogaeth Cymru.
Gan groesawu’r ychwanegiad newydd i’r Pwyllgor, dywedodd Cadeirydd Cymru y Gronfa Loteri Fawr, Huw Vaughan Thomas: “Fel aelod pwyllgor, bydd gan Fran gyfle euraidd i gyrraedd a chefnogi pobl o wahanol oedran a gallu yng Nghymru, pobl sydd o gefndiroedd ethnig neu leiafrifol ac hefyd i helpu’r rhai sydd yn wynebu materion arbennig neu anfanteision mewn cymdeithas.”
Ychwanegodd: “Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Fran a defnyddio ei harbenigedd i wneud penderfyniadau pwysig ar brosiectau a fydd yn cael effaith bositif ar gymunedau ledled Cymru ac a fydd yn gadael etifeddiaeth barhaol. Ar ran Bwrdd y DU, hoffwn ei chroesawu i’r Pwyllgor a gobeithiaf y bydd yn mwynhau ac yn cael budd mawr o’r profiad.”
Mae Pwyllgor Cymru yn gyfrifol am strategaeth, polisi, cynllunio a rheoli rhaglenni yng Nghymru, o fewn fframwaith strategol ac ariannol gyffredinol sydd wedi’i bennu gan Fwrdd DU y Gronfa Loteri Fawr.
Y Gronfa Loteri Fawr yw’r mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol ac mae wedi dosbarthu mwy na £600 miliwn yng Nghymru i brosiectau sy’n dod â gwir welliannu i gymunedau ac i fywydau’r bobl sydd mewn angen ledled y wlad.
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp chi ymgeisio am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr yn www.cronfaloterifawr.org.uk
Gwybodaeth pellach
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar ein gwefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags