Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dringwr yn dychwelyd i agor canolfan gymunedol newydd

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
3 7 2008
BYDD y dringwr creigiau, yr archwiliwr, yr anturiaethwr a’r gŵr antur byd enwog, Eric Jones, yn wynebu’r rhuban yn hytrach na’r graig yr wythnos yma wrth iddo ddychwelyd i agor yn swyddogol canolfan gymunedol newydd sbon a gardd sydd wrth galon pentref gwledig yng Ngwynedd.

Mae’r jynci adrenalin sydd wedi torri record y byd wedi dringo wyneb gogleddol yr Eiger, y Matterhorn a'r South Col ar Everest. Mae hefyd wedi neidio allan o awyrennau, wedi taflu ei hunan oddi ar nendyrau ac wedi plymio i lawr ochrau mynyddoedd. Serch hynny am 1pm, Ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf, bydd traed Eric Jones o Dremadog yn gadarn ar y ddaear pan fydd yn agor yn swyddogol canolfan gymunedol a gardd newydd sbon ym mhentref cyfagos Prenteg.

Ymhlith siaradwyr gwadd arbennig yn y seremoni y bydd Deian Creunant o’r Gronfa Loteri Fawr, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams. Derbyniodd y prosiect gwerth £250,000 gyfraniad o £140,960 o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau'n gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.

Tynnwyd yr hen ganolfan gymunedol y pentref i lawr 28 mlynedd yn ôl ac roedd preswylwyr Prenteg angen canolbwynt cymunedol newydd byth ers hynny. Gan nad oedd gan y gymuned unlle i gwrdd, gorfodwyd preswylwyr i deithio er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiadau mewn ardaloedd eraill.

Ddeng mlynedd yn ôl, penderfynodd cymuned Prenteg - gyda phoblogaeth o 100 - ffurfio pwyllgor i godi arian tuag at adeiladu neuadd bentref newydd a gardd. Yn ychwanegol at y grant gan y Gronfa Loteri Fawr, roedd y digwyddiadau codi arian yn cynnwys popeth o ddiwrnodau hwyl i werthu te a chacennau gerllaw gorsaf wylio Gweilch Glaslyn RSPB Cymru. Fe wnaethant hefyd dderbyn grant gwerth £100,000 trwy raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol a gynhelir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cychwynnodd y gwaith ar y ganolfan gymunedol 11 mis yn ôl ac fe’i cwblhawyd yn ddiweddar. Mae’r adeilad bellach yn cynnwys neuadd hamdden fawr, ystafell gyfarfod, cegin cwbl ymarferol, ardal storio a gardd.

Fe lwyddodd y pwyllgor hefyd i achub dau blac arbennig, yn coffau preswylwyr o’r ardal a aberthodd eu bywydau yn ystod y rhyfel byd cyntaf a’r ail ryfel byd. Pan werthwyd neuadd y capel ym 1999, nid oedd gan y placiau gartref mwyach ac ofnwyd y byddent yn cael eu colli am byth. Serch hynny, cawsant eu hachub gan y pwyllgor a dalodd iddynt gael eu hatgyweirio yn llawn a bellach mae ganddynt le blaenllaw y tu allan i'r ganolfan er mwyn i’r holl breswylwyr ac ymwelwyr eu gweld.

Wrth edrych ymlaen at y seremoni dywedodd Eric Jones, y dyn hynaf sy’n parhau i neidio bôn, ei fod yn fwy nerfus am y gwahoddiad i agor y ganolfan yn swyddogol na’r hyn ydoedd yn hongian oddi ar wyneb gogleddol yr Eiger ar ei esgyniad unigol ym 1981: “Mae’r pwyllgor wedi gweithio’n galed iawn i gyflawni eu nod ac mae’n anrhydedd cael gwahoddiad i agor y cyfleuster newydd gwych hwn,” dywedodd Eric, sy’n cael ei alw’n fwy diweddar yn ‘The Man Who Jumped Beneath Earth’, ar ôl cymryd rhan mewn naid fôn 1200 troedfedd i ogof ym Mecsico a ddarlledwyd ar y teledu.

Ychwanegodd: “Bydd y ganolfan newydd hon yn dwyn y gymuned gyfan ynghyd ac yn rhoi cyfleuster modern i bobl lle gallant gwrdd a chynnal pob mathau o gyngherddau a digwyddiadau.”

Cred un aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Prenteg, Phyllis Evans, y bydd y ganolfan newydd yn cael effaith fawr ar fywydau’r preswylwyr: “Ers yr 1960au mae’r pentref wedi colli’r ysgol, yr eglwys, y siop, swyddfa’r post, y neuadd bentref, y dafarn a’r capel, a oedd yn golygu nad oedd gan y pentrefwyr unlle i gwrdd," dywedodd Phyllis.

“Gwyddom y bydd y ganolfan gymunedol newydd yn cael ei defnyddio’n aml ac y bydd hi'n braf dod yma a gweld pobl yn mwynhau eu hunain. Mae gwahanol gymdeithasau o’r ardaloedd cyfagos eisoes wedi dangos diddordeb cryf mewn cymryd mantais lawn ar y cyfleusterau. Fe wnaethom weithio’n galed a dyfalbarhau a bellach rydym wrth ein boddau bod ein breuddwyd wedi'i wireddu o'r diwedd. Mae’n anodd credu bod y ganolfan yn bodoli.”

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le dywedodd Janet Reed, Aelod o Fwrdd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio’r cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.

CYFLEOEDD TYNNU LLUNIAU, FFILMIO A CHYFWELD:Digwyddiad: Agor Canolfan Gymunedol Prenteg yn Swyddogol Dyddiad/Amser: Ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf, 2008 am 1pm. Amser yn gymwysiedig i’r cyfryngau a’r sawl sydd wedi derbyn gwahoddiad yn unig.Lleoliad: Canolfan Gymunedol Prenteg, Prenteg, Porthmadog, GwyneddPhotocall/ Filming:Bydd Eric Jones a Deian Creunant o’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar gyfer cyfleoedd ffilmio, cyfweld a thynnu lluniau.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn Testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan  www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Cymunedau Cryfach

Categori

  • Adfywio
ADBORTH