- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 23 8 2012
Mae tair wythnos ar ôl i gymunedau yng Nghymru wneud cais i gynllun ariannu’r Loteri Pentref SOS am brosiectau i wyrdroi dirywiad gwledig
Heddiw cynigiwyd grant Loteri o £48,179 i gymuned bentref yng Nghymru i helpu i roi bywyd newydd i’w hardal.
Bydd yr arian ar gyfer Tyn y Capel yn Y Mwynglawdd, Clwyd, yn cefnogi rhedeg bwyty newydd yn eu tafarn bentref a brynwyd yn ddiweddar. Bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd gwaith i bobl leol a defnyddir yr elw er budd grwpiau eraill yn yr ardal.
Daw’r arian o gynllun Pentref SOS y Gronfa Loteri Fawr, sy’n cefnogi cymunedau gwledig ar draws y DU i ddod ynghyd i wella cyfleusterau, gwasanaethau a chyfleoedd i bobl leol.
Dywedodd Gale Taylor, cadeirydd Tyn y Capel: “Mae Ffrindiau Tyn Y Capel yn dymuno ailagor y dafarn a’r bwyty y gwelwyd eu colli gan y gymuned leol ers dros flwyddyn. Bydd y dyfarniad grant hwn yn mynd tuag at gostau rhedeg y busnes ac yn mynd â ni gam yn agosach at gyflawni ein nod er budd y gymuned leol.”
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn annog cymunedau gwledig eraill gyda phoblogaethau o lai na 3,000 ar draws Cymru i fanteisio ar y cynllun ariannu cyn iddo gau ar 12 Medi. Mae grantiau o rwng £10,000 a £50,000 ar gael ar gyfer prosiectau mentrus o siopau a thafarndai a redir gan y gymuned i gynlluniau ynni neu gludiant, a phrosiectau crefft neu fwyd. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.villagesos.org.uk
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru y Gronfa Loteri Fawr: “Mae hwn yn gyfle unigryw i gael arian i fentrau cymdeithasol felly byddwn yn annog mwy o gymunedau gwledig yng Nghymru i wneud cais.”
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa’r Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 224
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.biglotteryfund.org.uk
Gofynnwch gwestiwn i BIG yma: https://ask.biglotteryfund.org.uk
Dilynwch BIG ar Twitter: www.twitter.com/BigLotteryFund #BIGlf
Ewch i BIG ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFund
Nodiadau i Olygyddion
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da yn
gyfrifol am ddosbarthu 40% o’r arian a godwyd i achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwelliannau gwirioneddol i gymunedau a
bywydau’r bobl fwyaf anghenus ac mae wedi bod yn dosbarthu grantiau i iechyd, addysg, yr
amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers Mehefin 2004 mae’r Gronfa wedi
dyfarnu dros £4.4bn.
- Sefydlwyd y Gronfa yn ffurfiol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags