Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cymunedau wrth galon pawb a’i le yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
18 12 2007
Mae prosiectau i adnewyddu canolfannau cymunedol ar draws Cymru a datblygu cyfleusterau i helpu aelodau agored i niwed y gymdeithas ymhlith nifer o brosiectau ar draws y wlad i elwa o hwb ariannol o £3 miliwn, a gyhoeddir heddiw o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr.

 

O Sir Ddinbych yng Ngogledd Cymru, i Gastell-nedd Port Talbot yn y De, mae tri ar ddeg o brosiectau cymunedol ar draws y wlad yn elwa o hwb ariannol o £2,940,272, sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.  

Ymhlith y prosiectau a fydd yn elwa heddiw y mae adnewyddu canolfannau cymunedol, arian i wella cyfleusterau hamdden ar gyfer plant a phobl ifanc i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, prosiectau i gefnogi gofalwyr a phrosiectau sy’n cefnogi pobl ddigartref.

Ym Mlaenau Gwent, bydd Llanhilleth Miners Institute Ltd yn gwario eu dyfarniad o £410,094 er mwyn helpu i adnewyddu adeilad godidog Institiwt y Glowyr yn Llanhiledd a darparu cyfleuster cymunedol a fydd yn cynnig gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol ar gyfer ward Sant Illtyd ym Mlaenau Gwent.

Wedi’i leoli ym Mangor ond yn gwasanaethu siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, bydd sefydliad Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn gwario eu dyfarniad o ymron i £250,000 ar brosiect i gynorthwyo a chefnogi gofalwyr yn y tair sir i baratoi ar gyfer argyfyngau. Bydd y prosiect yn cyflogi Swyddogion Cynllunio at Argyfwng i weithio gyda gofalwyr unigol a grwpiau o ofalwyr er mwyn adnabod systemau y gellir eu rhoi ar waith mewn argyfwng.

Bydd hwyl a sbri i gael yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan y bydd Ysgol Gynradd Gymunedol Tonnau yn gwario eu dyfarniad o £100,319 i greu ardal chwarae aml ddefnydd â llifoleuadau newydd sbon ar ddarn o dir diffaith o fewn yr ysgol gymunedol.  Bydd hyn yn darparu cyfleuster ar gyfer gweithgareddau a chyfranogiad cymunedol drwy gydol y flwyddyn a bydd hefyd o fudd i'r cymunedau ehangach.  

Bydd gan bobl ddigartref, agored i niwed sydd wedi’u hymyleiddio a’u hallgau yn gymdeithasol yn Sir Ddinbych, Gogledd-ddwyrain Cymru, rhywle i fynd i gael cefnogaeth a chyngor, diolch i grant o £634,126 a ddyfarnwyd i sefydliad SOVA yn y Rhyl.

Bwriadant ddefnyddio’r arian i ehangu ar y gwasanaethau cyfredol yng Nghanolfan Dewi Sant er mwyn darparu siop-un-stop a chanolfan ddydd sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad y sector statudol a gwirfoddol i bobl. Gobeithiant hyrwyddo, annog a chynorthwyo mynediad at wasanaethau ac adnoddau priodol er mwyn cyflawni cyfleoedd a all weddnewid eu bywydau. Mae’r prosiect wedi’i anelu’n bennaf at bobl yn Ward Gorllewin y Rhyl, y mae nifer ohonynt yn ddigartref neu heb gyfeiriad parhaol, ond nid yw’n eithrio pobl o wardiau eraill yn yr ardal.

Wrth gyfeirio at yr effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn eu cael ar gymunedau ledled Cymru, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae Pawb a’i Le yn gwireddu ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac i ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag anfantais a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau llawer o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn i ystod eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’.

Am wybodaeth bellach am y prosiectau a sut i gael manylion cyswllt yr unigolion a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.

Rhestr lawn o brosiectau:

Llanhilleth Miners Institute LtdWedi’i leoli yn Llanhiledd ac yn gwasanaethu ward Llanhiledd ym Mlaenau GwentBydd y prosiect yn adfer Institiwt y Glowyr yn Llanhiledd er mwyn darparu cyfleuster cymunedol yn darparu gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol ar gyfer ward Sant Illtyd ym Mlaenau Gwent.£410,094
Chooselife CymruWedi’i leoli yn Llanelli, ac yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin a Dyfed PowysMae’r prosiect ar gyfer grant Datblygu Cyfalaf yn perthyn i estyniad uwchlaw’r ganolfan Chooselife gyfredol er mwyn ymestyn ar y gwasanaethau a’u datblygu. Defnyddir yr estyniad ar gyfer cyfleusterau hyfforddi/llogi ystafelloedd, canolfan ddydd a chanolfan i deuluoedd. Nod y prosiect yw helpu a chefnogi camddefnyddwyr sylweddau a’u teuluoedd i integreiddio'n llawn yn ôl i'r gymdeithas.£25,000
Cymdeithas Cymuned LlanmiloeLlanmiloe, Sir GaerfyrddinBydd prosiect Canolfan Adnoddau Cymunedol Llanmiloe yn adnewyddu ac yn ailwampio adeilad gwag er mwyn i'r gymuned ei ddefnyddio fel canolfan adnoddau, man cyfarfod a chaffi cymunedol ac i ddatblygu gardd gymunedol. £86,990
Cymdeithas Gymunedol LlannewyddLlannewydd, CaerfyrddinBydd y prosiect yn adnewyddu ac yn ailwampio hen ystafell ddosbarth er mwyn darparu canolfan gymunedol a man cyfarfod ar gyfer pentref Llannewydd.£183,460
Gwasanaeth Cynnal GofalwyrWedi’i leoli ym Mangor, ac yn gwasanaethu Conwy, Gwynedd ac Ynys MônBydd y prosiect yn cefnogi gofalwyr yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn drwy eu cynorthwyo i baratoi ar gyfer argyfwng. Bydd y prosiect yn cyflogi Swyddogion Cynllunio at Argyfwng i weithio gyda gofalwyr unigol a grwpiau o ofalwyr er mwyn adnabod systemau y gellir eu rhoi ar waith mewn argyfwng.£249,339
Ysgol Gynradd Gymunedol TonnauTonnau, Castell-nedd Port TalbotCreu ardal chwarae aml ddefnydd â llifoleuadau newydd (18.5x36m) ar dir diffaith o fewn yr ysgol gymunedol.  Byddai’r grant yn cael ei ddefnyddio i greu seiliau ar dir amgen, amgylchedd amgaeedig ar gyfer gweithgaredd a chyfranogiad cymunedol drwy gydol y flwyddyn.  Grantiau i helpu hefyd gyda ffioedd proffesiynol sy’n gysylltiedig â datblygu prosiectau.  Bydd y cyfleuster yn ychwanegu at Weithgaredd y Tu Allan i Oriau Ysgol cyfredol ar safle’r ysgol a bydd y cymunedau ehangach yn elwa ohono.  Bydd y cyfleuster ar gael rhwng 9.00am a 9.00pm, 7 niwrnod yr wythnos yn ôl y galw.£100,319
Plwyf Port Talbot, St TheodorePort TalbotBydd y prosiect yn sicrhau bod holl uned Neuadd y Plwyf o fewn cyrraedd i bawb yn y gymuned, creu amgylchedd agored a chroesawgar i bawb, er mwyn iddynt ddefnyddio’r cyfleusterau sydd gan y neuadd i'w cynnig fel man cyfarfod sy’n ddiogel ac yn bleserus i'w ddefnyddio.  Bydd yn hanfodol i sefydliadau gwirfoddol yr ardal, gan mai dyma’r unig neuadd gymunedol yn ward etholiadol Port Talbot.£245,865
Pwyllgor Neuadd y Plwyf, LlanrhathSummerhill, ger Dinbych-y-pysgod, Sir BenfroBydd y prosiect yn disodli neuadd gyfredol y plwyf er mwyn darparu cyfleuster modern i fodloni anghenion y gymuned.£114,289
Pwyllgor Neuadd Cymuned Pentref NewtonNewton, ger y MwmbwlsBydd y prosiect yn cyfrannu at ddarparu adeilad cymunedol sydd o fewn cyrraedd i bawb ac yn addas i'r diben£81,060
Canolfan Gymunedol GendrosGendros, AbertaweBydd y prosiect yn gwella amgylchedd naturiol, adeiledig a chymunedol cymuned Gendros drwy weithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu cyfleusterau chwarae a hamdden er mwyn gostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn y gymuned.£237,059
The Prime Trust (Cymru)Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir BenfroBydd y prosiect yn cefnogi pobl hŷn sy’n byw ym Mhowys, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.  Bydd cydlynwyr Her Wledig yn cyhoeddi’r cynllun ac yna’n adnabod, yn hyfforddi ac yn cynnig cefnogaeth i bobl hŷn sy’n dymuno gwirfoddoli eu hamser i weithredu fel gwirfoddolwyr o fewn prosiectau er budd y gymuned leol ehangach yn y pedair sir wledig hyn.£445,000
SOVAWedi’i leoli yng Ngorllewin y Rhyl ac yn gwasanaethu’r ardal honno’n bennafBwriad y prosiect yw ehangu ar wasanaethau cyfredol Canolfan Dewi Sant er mwyn darparu siop-un-stop a chanolfan ddydd yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad y sector statudol a gwirfoddol i bobl sydd wedi’u hymyleiddio a’u hallgau’n gymdeithasol ac sy’n agored i niwed drwy hyrwyddo, annog a chynorthwyo mynediad at wasanaethau ac adnoddau priodol er mwyn cyflawni cyfleoedd a all weddnewid eu bywydau. Mae’r prosiect wedi’i anelu’n bennaf at bobl yn Ward Gorllewin y Rhyl, y mae nifer ohonynt yn ddigartref neu heb gyfeiriad parhaol, ond nid yw’n eithrio pobl o wardiau eraill yn yr ardal.£634,126
Trefnu Cymunedol Cymru (TCC)Wedi’i leoli yn Wrecsam, ac yn gwasanaethu Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y FflintBydd y prosiect yn cyflogi trefnydd cyllidebu cyfranogol er mwyn annog pobl leol i chwarae rhan wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut mae arian yn cael ei wario yn eu cymuned leol. Bydd y trefnydd yn sicrhau cytundeb gan y deiliaid cyllideb (e.e. y cyngor cymuned) ar gyfran y gyllideb y gall y bobl leol benderfynu sut i’w gwario ac yna gweithio gyda phobl leol a sefydliadau er mwyn sicrhau consensws ar sut y bydd yr arian hwn yn cael ei wario. £127,671

Gwybodaeth pellach

Swyddog y Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau:  07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan at www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a lles
ADBORTH