- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 14 10 2008
Bydd dyfarniad o ymron i £240,000, a gyhoeddir heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr, yn helpu canolfan yn Ne Cymru i ddatblygu rhaglen helaeth o weithgareddau a gwasanaethau i wella iechyd y gymuned, gostwng unigedd ac ailgysylltu ag unigolion sy’n wynebu rhwystrau at ddysgu a chyflogaeth.
Mae Canolfan y Mynydd Du ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin, wedi derbyn dyfarniad o £238,248 o dan raglen Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Yn swatio wrth droed y Mynydd Du ger Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog, mae Canolfan y Mynydd Du yn yr hen Ysgol Feithrin yng nghanol Brynaman. Mae’r ganolfan yn chwarae rôl allweddol mewn bywyd cymunedol yn y pentref ac fe’i sefydlwyd i hyrwyddo iechyd, addysg a hamdden ar gyfer y preswylwyr a'r ardal gyfagos. Ar ôl profi prosiect adnewyddu ac ailddodrefnu helaeth gwerth £800,000, mae’r ganolfan bellach yn cynnig cyfoeth o gyfleusterau megis llyfrgell, meddygfa meddyg, swît gyfrifiadurol, ystafelloedd cyfarfod, cyfleusterau cynadleddau o’r radd flaenaf a Bwyty a fydd yn cefnogi’r prosiect wrth gyflawni cynaladwyedd.
Bydd yr arian yn helpu’r prosiect i redeg prosiect A Brighter Future Phase 5, gan alluogi pobl sy’n byw yng nghymuned Cwm Aman Uchaf i wneud y defnydd mwyaf o’r cyfleusterau hyn. Bydd yr arian yn cael ei wario ar gyflogi staff i ddatblygu rhaglen o weithgareddau i fodloni anghenion y gymuned a adnabuwyd trwy ymgynghoriad.
Bydd y gweithgareddau a’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys clwb cinio ar gyfer pob hŷn, cangen yr undeb gredyd, gweithgareddau byw’n iach gan gynnwys dosbarthiadau maeth, dosbarthiadau coginio ar gyllideb a ffitrwydd, sgiliau rhieni, addysg i oedolion, cymorthfeydd cyngor a gweithgareddau yn ôl i'r gwaith gan gynnwys hyfforddiant (megis TG a hylendid bwyd), cyfleoedd gwirfoddoli a gweithdai ymarferol (megis sgiliau ysgrifennu CV a chyfweliad). Bydd y cymorthfeydd cyngor yn cynnwys rhoi’r gorau i ysmygu a chymorthfeydd yr heddlu a bydd cynllun bancio amser yn cael ei sefydlu er mwyn gwobrwyo’r rheini sy’n gwirfoddoli yn y ganolfan. I oresgyn unigedd, bydd y prosiect hefyd yn cynnig trafnidiaeth gymunedol i ag o’r ganolfan.
Wrth ymhyfrydu yn y dyfarniad, dywedodd y Lynsey Harries, Swyddog Ariannu yng Nghanolfan y Mynydd Du: “Y prif faterion sydd gennym yn y gymuned yw iechyd gwael, cysylltiadau trafnidiaeth gwael, unigedd, diweithdra uchel a sgiliau isel. Bydd y prosiect hwn yn adfywio’r gymuned trwy wella mynediad at wasanaethau cyngor ac eiriolaeth, gan alluogi pobl i gymryd rhan wrth gynllunio gwasanaethau cysylltiedig ar gyfer eu cymuned a galluogi pobl i ddod yn fwy hyderus ac ennill sgiliau ymarferol. Bydd yr arian hwn yn galluogi i ni wella ein cyfleusterau trwy gynyddu ystod y gwasanaethau a’r gweithgareddau sydd ar gael i'r gymuned leol.”
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.
Gwybodaeth Bellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags