- Area:
- Cymru
- Programme:
- Arian i Bawb Cymru
- Release date:
- 4 10 2011
Mae'r seren pop Syr Cliff Richard a'r cyflwynydd BBC Kate Humble wedi rhoi cefnogaeth nodedig i ddau brosiect yng Nghymru sy'n derbyn arian Loteri.
At ei gilydd bydd 85 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £346,237 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf Arian i Bawb, rhaglen grantiau bach y Gronfa Loteri Fawr (Cliciwch yma i weld rhestr lawn o
ddyfarniadau
- 90KB).
Ac yntau'n noddwr i Golden-Oldies, sy'n derbyn £4,910 i lansio sesiynau canu ar gyfer pobl hyn ac anabl yng Nghymru, croesawodd y Syr Cliff newyddion am y grant.
“Mae'n wych clywed bod Golden Oldies wedi cael ei gydnabod a'i gefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr,” meddai'r seren pop sy'n 70 oed, a aeth yn noddwr ar ôl clywed am lwyddiant y grwp sy'n canu ei recordiau poblogaidd yn aml. "Nid yw cerddoriaeth sy'n gwneud bywyd yn well yn estron i Gymru, a bydd y grant hwn yn helpu pobl oedrannus ac anabl dros y ffin i hel hen atgofion a'u mwynhau - a theimlo'n well drwy wneud hynny".
Mae Golden Oldies, a lansiwyd yng Nghaerfaddon, eisoes yn cynnal 60 o sesiynau canu ysgafn rheolaidd ar gyfer cannoedd o bobl hyn yng ngorllewin Lloegr, ac wedi derbyn clod am roi hwb i iechyd a lles ei aelodau.
Mi fydd bellach yn defnyddio arian gan y Gronfa Loteri Fawr i gyflwyno tri grwp newydd yng Nghaerdydd, ac yna mae'n bwriadu ehangu ar draws Cymru. I gael gwybod mwy, ewch i www.golden-oldies.org.uk
Meddai'r sylfaenydd Grenville Jones: “Dyma gam mawr ymlaen wrth i ni lansio Goldies Cymru ac ni fyddai modd i ni wneud hyn heb y grant yma gan y Gronfa Loteri Fawr.
"Byddwn yn dechrau gyda thair sesiwn yn ardal Caerdydd, a'n bwriad yw cyflwyno Goldies Cymru ledled Cymru dros y blynyddoedd i ddod. Mae hyn yn bosib diolch i Arian i Bawb."
Gan sylwi ar y gefnogaeth gan Syr Cliff, ychwanegodd Mr Jones: “Bob wythnos ar draws gorllewin Lloegr, mae cannoedd o bobl hyn yn dod at ei gilydd mewn sesiynau canu, a'r caneuon mwyaf poblogaidd yw ei ganeuon ef. Ar fore oer y gaeaf, nid oes dim byd gwell ar gyfer rhoi wên ar wynebau pobl na chanu Summer Holiday."
Grwp arall o Gymru sy'n cael sylw gan seren yw Gwyl Gerdded Sir Fynwy, sy'n derbyn £1,110 i helpu i hyrwyddo eu gwyl annibynnol gyntaf, wedi'i chefnogi gan Kate Humble.
A hithau'n un o drigolion Trefynwy, seren deledu a Chyflwynydd BBC Springwatch, mae hi wedi rhoi ei chefnogaeth i'r digwyddiad ac yn gwybod yn dda y buddion a ddaw o gerdded yn yr ardal: “Sir Fynwy yw fy nghartref a dw i'n caru'r lle,” meddai. “Dw i'n credu fy mod i'n byw mewn un o'r lleoedd prydferthaf yn y byd. Ac fel yr awydd am basio rysáit wych ymlaen neu argymell llyfr da, rwyf eisiau i bobl ddarganfod Sir Fynwy yr un ffordd y gwnes i - ar droed.
“Bydd Gwyl Gerdded Sir Fynwy yn rhoi cyfle i chi wneud hynny. Mae nifer mawr o deithiau cerdded tywysedig ar gyfer cerddwyr ar bob lefel, felly rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen a dewch i brofi'r amrywiaeth ryfeddol y gall Sir Fynwy ei chynnig. Yna gallwch fod â'r pleser o gyflwyno eich ffrindiau i un o lefydd prydferthaf y byd."
Cynhelir yr wyl deng niwrnod rhwng dydd Gwener 21 Hydref a dydd Llun 31 Hydref gyda dewis o fwy na thri deg o deithiau cerdded a digwyddiadau. Mae mudiadau lleol megis grwpiau cadwraeth, cymdeithasau hanesyddol, cymdeithasau seryddiaeth a hyfforddwyr ffitrwydd wedi gweithio gyda'r Wyl i roi'r rhaglen at ei gilydd. I gael mwy o wybodaeth am yr wyl, ewch i www.walkinginmonmouthshire.org
Mae grantiau sy'n helpu i ddarparu buddion Cymru gyfan yn cynnwys £4,200 i Healing the Wounds ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a fydd yn defnyddio'r arian i hyfforddi gwirfoddolwyr i drin anhwylder straen ôl-drawmatig ymysg y lluoedd arfog a phersonél y gwasanaethau brys. I gael mwy o wybodaeth am y grwp, ewch i www.healingthewounds.org.uk
Ymysg y grwpiau eraill sy'n derbyn dyfarniadau y mae North Wales Superkids yn Sir Ddinbych a fydd yn defnyddio £5,000 i lansio gweithdai celf a chrefft ar gyfer plant a'u rhieni ym Modelwyddan, a bydd Ysgol Pendalar yng Ngwynedd yn derbyn £4,985 i greu rhandiroedd cymunedol yn eu hysgol.
Yng ngorllewin Cymru, bydd Quiet Earth yn Sir Benfro yn defnyddio £4,300 i gynnal gynhadledd ‘Byw Oddi Ar y Grid’ i helpu addysgu cymunedau am ddefnyddio ynni adnewyddadwy, ac yng nghanolbarth Cymru, bydd Clwb Pobl â Nam ar y Golwg Y Drenewydd a'r Cylch yn gwario £600 ar weithgareddau i aelodau.
Meddai Llefarydd Quiet Earth, Rachel Whitehead: “Bydd y grant hwn yn rhoi cyfle i ni gynnig gwybodaeth i gynulleidfa ehangach ar themâu byw oddi ar y grid, gan gynnwys ynni'r haul, gwynt a dwr, casglu dwr glaw, ymagweddau gwahanol a dulliau technegol.”
Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”
Gellir lawrlwytho ffurflen ymgeisio'r rhaglen, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ei chwblhau a'i dychwelyd yn uniongyrchol drwy e-bost i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hefyd ar gael ar ffurf copi caled.
Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy fynd i www.arianibawb.org.uk neu ffonio 0845 4 10 20 30.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags