- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 22 11 2007
Mae WYTH o brosiectau cymunedol lleol yn ceisio am gefnogaeth ar gyfer pleidlais y cyhoedd a allai eu gweld yn ennill hyd at £80,000 yr un gan y Gronfa Loteri Fawr yng nghystadleuaeth ranbarthol Miliynau'r Bobl yr wythnos nesaf ar ITV Cymru.
Mae hyd at £400,000 o arian y Gronfa Loteri Fawr ar gael i bump o grwpiau lwcus yn y rhanbarth. Bydd y gystadleuaeth yn fyw ar newyddion min nos ITV Cymru am 6.00pm rhwng 26 a 29 Tachwedd.
Rhoddir sylw i ddau brosiect bob nos mewn brwydr benben i ennill cefnogaeth. Ar ddiwedd y rhaglen, gofynnir i'r gwylwyr bleidleisio ar y ffôn dros y prosiect ddylai ennill arian achosion da y Loteri yn eu tyb hwy. Bydd rhifau ffôn pleidleisio yn cael eu darlledu yn ystod y rhaglen a byddant hefyd ar gael ar wefan y Gronfa Loteri Fawr bob dydd.
Bydd un enillydd ar gyfer dyfarniad o £80,000 bob nos. Ar ddiwedd y gystadleuaeth bydd dyfarniad ychwanegol hefyd o hyd at £80,000 a fydd yn mynd i'r prosiect a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau o blith y prosiectau a ddaeth yn ail bob nos.
Cynhelir cystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar draws rhanbarthau ITV*, gyda chyfanswm o 90 o ddyfarniadau a hyd at £7.8 miliwn o arian y Gronfa Loteri Fawr yn nwylo'r cyhoedd sy'n pleidleisio.
Ddydd Llun 26 Tachwedd, bydd prosiect Cold Barn Farms ‘Little Monkeys’ Jungle Gym yn Nhrefethin, Torfaen, yn cystadlu yn erbyn y prosiect Calon Lan o Fryncynon, Rhondda Cynon Taf.
Pa bai prosiect Cold Barn Farms ‘Little Monkeys’ Jungle Gym yn cael gafael ar yr arian, byddent yn ei wario ar adnewyddu ac ehangu tu allan y Ganolfan Gweithgaredd Ieuenctid i greu’r ‘Little Monkeys Jungle Gym.’
Bydd yr adeilad yn cynnwys swît iechyd MOT i ddarparu rhaglenni iechyd a lles i deuluoedd a phobl ifanc lleol. Bydd cyfleuster i hyrwyddo prosiectau amgylcheddol lleol hefyd yn cael ei gynnwys.
Bydd y prosiect sy’n eu gwrthwynebu, Calon Lan, sy’n cael ei redeg gan Strategaeth Adfywio Cymunedol Bryncynon Cyf, yn darparu gardd goffa i’r gymuned a’r bobl leol sydd wedi colli anwyliaid.
Bydd yn cynnwys cerfluniau a gwaith celf yn nhir y Ganolfan Byw’n Iach a’i ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr ym Mryncynon, Rhondda Cynon Taf. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys darpariaeth sesiynau gweithdy celf a fydd yn arwain at gynllunio ac adeiladu celf i’w arddangos.
Y noson ganlynol, Nos Fawrth Tachwedd 27, bydd y prosiect Llwybr Cerdded Crwn Treffynnon yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, yn cystadlu yn erbyn Partneriaeth Dolgellau yn Nolgellau, Gwynedd.
Amcan prosiect Llwybr Cerdded Crwn Treffynnon, sy’n cael ei redeg gan Grŵp Cerdded St Beuno, yw gwella mynediad llwybrau cerdded o fewn Treffynnon, gan ddarparu’r gymuned leol a thwristiaid gyda mynediad mwy gwyrdd, glan a mwy diogel i’r amgylchedd, hamdden a mannau treftadaeth ar hyn llwybr 5km o hyd.
Amcan prosiect Partneriaeth Dolgellau, sy’n cael ei redeg gan Partneriaeth Dolgellau Cyf, yw darparu cyfleusterau newydd ym mharc y dref i gynnig cyfleoedd hamddena pellach i blant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach. Mae’r broses o ddatblygu’r prosiect trwy waith traws gymunedol hefyd yn cael ei weld fel rhan allweddol o godi hyder a lefelau sgiliau pobl yn ardal Dolgellau.
Brwydr Gogledd v Y De arall fydd hi nos Fercher, Tachwedd 28, wrth i’r prosiect EYST Urban Fix Up Project o Abertawe fynd benben yn erbyn prosiect Ailwampio/Adfywio Cam 4 Gladstone o Benarlâg, Sir y Fflint.
Bydd y prosiect EYST Urban Fix Up yn galluogi’r Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig yn Abertawe i uwchraddio’r ganolfan galw i mewn wrth hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau adeiladu sy’n ddiogel i’r amgylchedd. Bydd y prosiect yn cymryd lle dros 6 mis a bydd yn hyfforddi 12 o bobl ifanc ac yn cynnwys 100 o aelodau a gwirfoddolwyr.
Bydd prosiect Ailwampio/Adfywio Cam 4 Gladstone, yn galluogi Cyngor Sgowtiaid Ardal Clwyd i uwchraddio canolfan sgowtio er budd y gymuned leol a grwpiau sgowtio sy’n ymweld â
Gogledd Ddwyrain Cymru, gan alluogi cyfleoedd i fwynhau gweithgareddau awyr agored mewn amgylchedd diogel, cyffyrddus ac wedi ei reoli.
Ar y noson olaf, Nos Iau Tachwedd 29, bydd y prosiect Aber Valley Water Play Feature yng Nghaerffili yn diweddaru’r Prosiect Eco-Anabledd yn y sir nesaf Blaenau Gwent. Bydd y prosiect Aber Valley Water Play Feateure, sy’n cael ei redeg gan yr Aber Valley Communities Partnership, yn newid y cyfleuster pwll padlo sydd yno eisoes ond nad yw’n cael ei ddefnyddio ym Mharc Lles Senghennydd, gyda system chwarae ryngweithiol sydd wedi ei gynllunio i stimiwleiddio plant o bob gallu, yn cynnwys y rhai sydd ag anableddau.
Trwy’r Prosiect Eco-Anabledd, bydd Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Waundeg a Nant-y-bwch yn darparu mynediad i’r anabl i dŷ cymunedol yn Waundeg sydd wedi ei adeiladu o ddeunyddiau cynaliadwy. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys elfen addysgol sy’n ymwneud ŷ materion cynaliadwyedd, a fydd ac arddangosfeydd parhaol o ganlyniad.
Cyhoeddir yr enillwyr y diwrnod ar ôl y bleidlais ar newyddion rhanbarthol ITV.
Dyma’r drydedd flwyddyn i'r Gronfa Loteri Fawr a ITV uno i ddod â Miliynau’r Bobl i wylwyr ar draws y DU. Roedd cystadleuaeth y llynedd yn llwyddiant ysgubol gydag ymron i 350,000 o wylwyr yn bwrw eu pleidlais i roi cyfran o dros £4.2 miliwn i 85 o brosiectau i wneud gwahaniaeth i'w cymunedau. Bydd hyd at £15 miliwn mewn grantiau yn cael eu dosbarthu gan y Gronfa Loteri Fawr fel rhan o fenter cynnwys y cyhoedd.
Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Rydym yn awyddus iawn i sicrhau fod y cyhoedd yn chwarae rôl mwy proactif wrth benderfynu i ble’r aiff arian y loteri. Rydym yn gwneud hynny drwy hysbysebu yn agored am aelodau pwyllgor, gan fynychu digwyddiadau yn aml ac wrth ymgynghori ar flaenoriaethau ariannu. Mae Miliynau’r Bobl, fodd bynnag, yn galluogi pawb i gymryd rhan a phleidleisio dros eu hoff brosiect. Gyda bron i 350,000 o bobl yn cymryd y cyfle'r llynedd i bleidleisio, rydym yn gobeithio am hyd yn fwy o ymateb eleni, gyda mwy o wylwyr yn chwarae rôl hollbwysig wrth benderfynu ym mhle fydd arian loteri yn cael ei wario yn eu cymuned.”
Dywedodd Elis Owen, Cyfarwyddwr a Rheolydd Rhaglenni ITV Cymru: “Ers lansiad Miliynau’r Bobl yn 2005, mae cyfanswm o £378,071 wedi ei ddyfarnu i wyth o brosiectau yn rhanbarth ITV Cymru. Mae nifer o’r prosiectau hyn yn awr wedi eu cychwyn ac maent yn asedau hanfodol o fewn y gymuned. Eleni, gyda dyfarniadau unigol o hyd at £80,000 ar gael rwy’n siŵr y bydd gwylwyr mor awyddus ag erioed i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Miliynau’r Bobl, a phleidleisio dros y prosiect y maen nhw yn feddwl sydd fwyaf haeddu cefnogaeth y loteri.”
Gwybodaeth pellach
Swyddog y Wasg Cronfa Loteri Fawr- Oswyn Hughes:02920 678 207
Cyswllt y Tu Hwnt i Oriau:07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 08448 810 202
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
Rhanbarthau darlledu ITV ym Miliynau’r Bobl:
ITV Anglia (East), ITV Anglia (West), ITV Border, ITV Central (East), ITV Central (West), ITV Cymru, ITV Granada, ITV London, ITV Meridian (South), ITV Meridian (East), ITV Thames Valley, ITV Tyne Tees, ITV West, ITV West Country, ITV Yorkshire, stv Central, stv North, UTV
- Mae 90 o ddyfarniadau ar gael ar draws y DU – pedwar enillydd ac un dyfarniad bonws ar gyfer pob un o 18 rhanbarth ITV.
- Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth yw ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol drwy weddnewid yr amgylchedd lleol. Eleni mae prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd neu gyfleusterau er mwyn mwynhau’r amgylchedd lleol hefyd wedi’u hychwanegu at y meini prawf ariannu.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y DU bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Rhifau ffôn pleidleisio – Yn yr un modd â’r arfer, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na'r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o'r rhifau ffôn pleidleisio.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd fe gymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Y Gronfa Gymunedol) y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff cyfun er mwyn symleiddio ariannu’r ardaloedd hynny sy’n gorgyffwrdd ac i sicrhau bod arian y Loteri yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian.
Tags