Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Byddai di wedi 'chwalu' heb gymorth gan newcis

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
14 10 2011

Di Weed sy'n 57 oed o Ben-y-ffordd ger Bwcle, Sir y Fflint. Mae Di wedi bod yn gofalu am ei thad, sy'n dioddef o glefyd Alzheimer, ers dros wyth mlynedd a gofalodd am ei mam nes y bu farw yn drist fis Tachwedd y llynedd. Heb gefnogaeth NEWCIS, mae Di yn benderfynol y byddai wedi "chwalu" o dan y straen.

“Aeth fy nhad yn sâl gyda chlefyd Alzheimer yn 2002 ac ni allai fy mam ymdopi gan yr oedd eisoes wedi dioddef o strôc a newidiodd ei phersonoliaeth yn gyfan gwbl," meddai Di.

“Heb NEWCIS, credaf yn onest y byddwn wedi chwalu. Roeddwn eisoes yn gofalu am fy nhad ac yn gweithio oriau anghymdeithasol i fedru gwneud popeth.  Pan gafodd fy mam ei tharo i lawr, roedd yn amhosib i mi wneud y ddau beth a bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'r gwaith. Yn 2007 fe ddioddefodd strôc difrifol a'i gadawodd yn anabl yn gorfforol ac yn feddyliol a bu'n rhaid i mi deithio i'r ysbyty ac yn ôl i ofalu am fy nhad am chwe mis. Yna bu'n rhaid i mi drefnu i fy mam fynd i gartref nyrsio, ac yna yr oedd hi'n byw nes y buodd hi farw fis Tachwedd diwethaf. Felly roeddwn yn gofalu am y ddau ar yr un pryd ac roedd yn wirioneddol anodd."    

Mae tad Di wedi gorfod mynd i gartref nyrsio am ofal arbenigol bellach oherwydd natur ei salwch, ond mae'n rhaid i Di edrych ar ôl ei anghenion o hyd:

“Dyna pam mae NEWCIS mor bwysig,” meddai.

“Maen nhw wedi bod yn wych ac wedi rhoi cymaint o gefnogaeth a chyngor i mi. Mi fyddai wedi bod yn amhosib i mi fod yn ofalwr am gymaint o amser heb eu cefnogaeth ragorol nhw. Roedd yn anodd iawn gofalu am ddau aelod o'ch teulu. Nid oeddwn byth yn disgwyl mynd yn ofalwr. Plentyn unig ydw i ac arnaf i y mae'r baich. Roeddwn yn disgwyl i'm rhieni gael henoed hapus ac yna aeth y ddau ohonynt yn sâl mewn ffyrdd gwahanol. Mae wedi bod yn hynod o anodd. Mae wedi newid fy mywyd."

Mae'r prosiect hefyd wedi galluogi Di i ddod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i'w bywyd: “Er eich bod yn gyfyngedig iawn o ran yr hyn y gallwch ei wneud pan fyddwch yn gofalu am rywun, mae NEWCIS yn eich galluogi i fwrw 'mlaen ag agweddau arferol ar fywyd," meddai.

“Rhoddodd gyfle i mi ennill cymwysterau cyfrifiadurol ac maent yn cynnal ystod o ddosbarthiadau dysgu gydol oes gwahanol.”

“Heb eu cefnogaeth nhw ni fyddwn wedi cael y cyfle i ymwneud ag unrhyw un o'r rhain na'u fforddio nhw ychwaith gan nad oedd gennyf unrhyw incwm. Maen nhw'n rhoi'r cyfle i chi ddatblygu eich hun o fewn y rôl ofalu honno. Mae'r ochr gymdeithasol yn wych hefyd. Gallwch fynd allan am rai oriau a chwrdd â phobl yn yr un sefyllfa, ac mae hynny'n hyfryd gan ei fod yn rhoi persbectif ar eich sefyllfa eich hun. Mae'n peri i chi sylweddoli'r hyn y gallwch ei wneud o hyd oherwydd bod rhaid i'ch anghenion eich hunain fod yn eilaidd pan ydych yn ofalu am rywun. Rydych hefyd yn colli llawer o hyder pan ydych gartref drwy'r dydd yn gofalu ac rydych yn colli eich sgiliau cymdeithasol. Ni allwch fynd allan i gyfarfodydd yn ystod y dydd, felly mae NEWCIS yn trefnu cyfarfodydd gyda'r hwyr neu yn y bore pan fydd pobl mewn gofal dydd. Byddant yn gwneud unrhyw beth i wneud pethau'n haws i chi."   

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, meddai Di: “Mi fydd y prosiect newydd yn wych i ofalwyr yn Sir y Fflint. Gall gofal dydd fod yn eithaf heriol i bobl â chlefyd Alzheimer. Mae'n anodd os ydych yn mynd â nhw i leoliad newydd a gwahanol ac maent yn dechrau cynhyrfu. O dan gynllun newydd NEWCIS, gall pobl fynd i ofal dydd gyda'u gofalwyr. Mae hynny'n sicrhau eu bod yn sefydlog ac yn gyfforddus, sy'n bwysig gyda chlefyd Alzheimer gan fod pobl sydd â'r cyflwr weithiau'n anghofio pwy ydych chi."

“O safbwynt cyfreithiol mae'n rhaid ymladd cryn dipyn i gael y pethau iawn ar gyfer y bobl rydych yn gofalu amdanynt. Gall NEWCIS siarad ar eich rhan, ac mae hynny'n fudd sylweddol. Maent yn agor drysau er mwyn i chi gael y gefnogaeth iawn. Dw i wrth fy modd bod NEWCIS wedi derbyn y grant yma. Bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gynifer o bobl, dyma'r newyddion gorau eleni."

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun:  0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH