- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 28 11 2007
Mae prosiect Partneriaeth Dolgellau Partnership yng Ngwynedd ar ben eu digon heddiw ar ôl iddynt ennill cyfran o £80,000 o arian achosion da gan gystadleuaeth ranbarthol Miliynau’r Bobl y Gronfa Loteri Fawr.
Pleidleisiodd gwylwyr ITV Cymru dros y prosiect i ennill y dyfarniad yn dilyn cystadleuaeth gyffrous benben am bleidlais y gymuned a’i darlledwyd ar Nos Fawrth ar newyddion rhanbarthol ITV Cymru.
Enillodd Partneriaeth Dolgellau Cyf galonnau - a chyfran fwy o’r bleidlais gyhoeddus - wedi i wylwyr ddarganfod beth fyddai prosiect Partneriaeth Dolgellau Partnership yn ei wneud â’r arian. Gyda’r arian, amcan y prosiect yw darparu cyfleusterau newydd ym mharc y dref i gynnig cyfleoedd hamddena pellach i blant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach. Mae’r broses o ddatblygu’r prosiect trwy weithio traws gymunedol hefyd yn cael ei weld fel rhan allweddol o godi hyder a lefelau sgiliau pobl yn ardal Dolgellau.
Pob nos rhwng Tachwedd 26 a 29, mae dau brosiect o Gymru yn cael eu harddangos ar newyddion rhanbarthol ITV Cymru mewn brwydr benben i ddiogelu’r mwyafrif o bleidleisiau cyhoeddus ac i ennill dyfarniad Cronfa Loteri Fawr o hyd at £80,000.
Bydd rhifau ffôn pleidleisio yn cael eu darlledu yn ystod y rhaglen a byddant hefyd ar gael ar wefan y Gronfa Loteri Fawr o 9am bob dydd, www.cronfaloterifawr.org.uk ynghyd â rhestr o’r enillwyr dyddiol. Bydd rhifau pleidleisio hefyd yn y Daily Mirror ar ddydd y pleidleisio.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth mae hefyd un dyfarnid bonws ychwanegol o hyd at £80,000 i’r prosiect yn yr ail safle a dderbyniodd y mwyafrif o bleidleisiau a bydd yr enillydd yma yn cael ei gadarnhau ar Dachwedd 30.
Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd Cymru Cronfa Loteri Fawr: “Rwy’n falch iawn fod yr arian yma gan y Gronfa Loteri Fawr yn mynd i brosiect lleol y mae’r cyhoedd wedi datgan eu cefnogaeth brwd drosto. Mae hwn yn newyddion gwych i’r ardal ac mae ein harian achosion da eisoes ar ei daith i’r prosiect buddugol. Gall y prosiect yma nawr ddod yn realiti a gall y gymuned elwa ohono am flynyddoedd i ddod. Trwy gydol yr wythnos yma bydd gan lawer iawn mwy o grwpiau achos i ddathlu yn y gystadleuaeth yma sy’n rhoi gwariant y Loteri yn nwylo’r cyhoedd sy’n pleidleisio.”
Elis Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolydd Rhaglenni ITV Cymru: “Un o’n prif gryfderau yw ein gallu i gysylltu â phobl leol am faterion cymunedol. Eleni eto mae ein rhaglen newyddion rhanbarthol wych yn gofyn i’r cyhoedd benderfynu pa brosiectau cymunedol lleol sydd fwyaf haeddu cefnogaeth y Loteri a chyda’r dyfarniadau rhanbarthol mwyaf hyd yn hyn ar gael, mae Miliynau’r Bobl yn siŵr o gael effaith barhaol.”
Mae’r gystadleuaeth yn parhau heno, Nos Fercher Tachwedd 28. Fe fydd hi’n frwydr Gogledd v Y De wrth i’r prosiect EYST Urban Fix Up Project o Abertawe fynd benben yn erbyn prosiect Ailwampio/Adfywio Cam 4 Gladstone o Benarlâg, Sir y Fflint.
Ac ar Nos Iau, Tachwedd 29, bydd y prosiect Aber Valley Water Play Feature Phase 2 yng Nghaerffili yn brwydo yn erbyn y Prosiect Eco-Anabledd yn sir gyfagos Blaenau Gwent.
Mae cystadleuaeth Miliynau’r Bobl, sydd yn ei drydedd flwyddyn, yn cael ei redeg ar draws 18 rhanbarth ITV*, gyda chyfanswm o 90 o ddyfarniadau ledled y DU a hyd at £7.8 miliwn o arian y Gronfa Loteri Fawr yn nwylo’r cyhoedd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae cystadleuaeth dyfarniadau rhanbarthol Miliynau’r Bobl wedi dosbarthu £7.2m i 139 o achosion da’r DU ac mae 350,000 o bobl wedi pleidleisio dros eu hoff brosiect.
Rhifau ffôn pleidleisio - fel mewn blynyddoedd blaenorol, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhif ffôn graddfa genedlaethol di bremiwm. Nid yw ITV na’r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud proffid o’r rhifau ffôn pleidleisio.
Yr wythnos sy’n dilyn cystadleuaeth deledu ranbarthol Miliynau’r Bobl, bydd y Gronfa Loteri Fawr ac ITV1 yn arddangos cystadleuaeth ‘People’s £50 million Lottery Giveaway’ ar nosweithiau dilynol ble bydd pedwar prosiect o bwysigrwydd cenedlaethol yn cystadlu am blesidlais y cyhoedd i ennill dyfarniad £50 miliwn digynsail gan y Gronfa.
Gwybodaeth Pellach
Swyddog y Wasg Cronfa Loteri Fawr- Oswyn Hughes:02920 678 207
Cyswllt y Tu Hwnt i Oriau:07760171431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 08448 810 202
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
Rhanbarthau darlledu ITV ym Miliynau’r Bobl:
ITV Anglia (East) ITV Anglia (West) ITV Border ITV Central (East) ITV Central (West) ITV Cymru ITV Granada ITV London ITV Meridian (South) ITV Meridian (South East) ITV Thames Valley ITV Tyne Tees ITV West ITV West Country ITV Yorkshire stv Central stv North UTV
Mae 90 o ddyfarniadau ar gael ar draws y DU – pedwar enillydd ac un dyfarniad bonws ar gyfer pob un o 18 rhanbarth ITV.
Dyddiad allweddol Miliynau'r Bobl ar gyfer y dyddiaduron:
26 - 30 Tachwedd 2007: Darlledu cystadleuaeth Miliynau'r Bobl ar ITV
Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth yw ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol drwy weddnewid yr amgylchedd lleol. Eleni mae prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd neu gyfleusterau er mwyn mwynhau’r amgylchedd lleol hefyd wedi’u hychwanegu at y meini prawf ariannu.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y DU bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
Rhifau ffôn pleidleisio – Yn yr un modd â’r arfer, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na'r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o'r rhifau ffôn pleidleisio.
Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd fe gymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Y Gronfa Gymunedol) y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff cyfun er mwyn symleiddio ariannu’r ardaloedd hynny sy’n gorgyffwrdd ac i sicrhau bod arian y Loteri yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian.
Tags