Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Agor Drysau Newydd i Bobl Anabl Ynys Mon

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
27 8 2008
Bydd pobl anabl, henoed a phobl arunig sy’n byw ar Ynys Môn yn cael cyfle i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau ymarferol ar gyfer gwirfoddoli a chyflogaeth wedi'i thalu, diolch i grant o ymron i £150,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae Fforwm Anabledd Taran Cyf, ym Mona, Ynys Môn, wedi derbyn £149,346 o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i redeg y prosiect Reachout, a fydd yn galluogi i bobl anabl ennill hyder, sgiliau a hyfforddiant i'w paratoi at ymgymryd â naill ai gwirfoddoli, cyflogaeth neu addysg bellach. Bydd hyn, yn ei dro, yn eu helpu i oresgyn rhwystrau a helpu i newid agweddau tuag at bobl gydag anableddau a gweithwyr anabl yn y gymuned.

Trwy hyfforddiant achrededig Rhwydwaith y Coleg Agored, bydd y prosiect yn cyflwyno sgiliau TGCh i grwpiau anodd eu cyrraedd a gwella eu sgiliau, eu hyder a’u cyflogadwyedd a lleihau unigedd. Y grwpiau targed yw’r rheini ag anableddau, y rhai sy’n ddi-waith yn yr hirdymor, pobl hŷn a phobl sy’n ddifreintiedig yn wledig. Bydd gan dros 80% o fuddiolwyr anableddau, gan gynnwys y rheini sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn talu am Reolwr Prosiect, Rheolwr TGCh a Gweithiwr Cymorth Cymunedol. Cyflwynir yr hyfforddiant ar y safle, yn y cartref neu mewn canolfannau TGCh hygyrch eraill ar draws yr ynys.

Bydd y prosiect yn gweithio gydag ystod o sefydliadau gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, grŵp Anglesey Access, Canolfan Byd Gwaith a Hyfforddiant Môn. Defnyddir hyfforddiant allgymorth hefyd os oes diffyg hyder gan unigolion i adael y cartref. Bydd hyfforddiant yn y cartref yn cael ei ddefnyddio i feithrin hyder hyd nes bod yr unigolyn yn teimlo’n ddigon hyderus i ddod i'r ganolfan. Gan fod trafnidiaeth yn fater ar gyfer rhai buddiolwyr, cynigir trafnidiaeth hygyrch am ddim, naill ai gan ddefnyddio bws mini'r sefydliad neu fenter drafnidiaeth Gymunedol Môn.

Dywedodd Pam Davies o Fforwm Anabledd Tafarn Cyf, wrth ymhyfrydu yn y dyfarniad: “Bydd y prosiect yn adfywio cymunedau trwy alluogi pobl gydag anableddau, pobl â nam ar eu golwg, pobl hŷn a phobl sy'n ddi-waith yn yr hirdymor i ddatblygu hyder a sgiliau a allai arwain at wirfoddoli, addysg bellach neu gyflogaeth â thal. Bydd hefyd yn gwella cysylltiadau cymunedol trwy gyfranogiad cymunedol cynyddol ac yn gwella perthnasau teuluol trwy ostwng lefelau straen a dibyniaeth."

Fe ychwanegodd: “Tynnwyd sylw at yr angen ar gyfer y prosiect hwn yn ystod ein rhaglen beilot 12 mis llwyddiannus iawn. Dangosodd ymgynghoriad pellach gyda’r defnyddwyr cyfredol a phosibl bod angen ymestyn y prosiect. Mae gwasanaethau TGCh annigonol ar gyfer y grwpiau lleiafrifol, a bydd y prosiect hwn o fudd iddynt.”

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a’i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.  Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, taclo amddifadedd a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.

Gwybodaeth Bellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn Testun:  845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Iechyd a lles
  • Cymunedau Cryfach
  • Yr Amgylchedd
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau

Categori

  • Adfywio
ADBORTH