- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 18 6 2007
Mae un ar bymtheg o brosiectau cymunedol ar hyd a lled y wlad yn rhannu mwy na £3 miliwn a ddyfarnwyd heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr er mwyn cefnogi lles teuluoedd ledled Cymru.
Mae amrywiaeth o brosiectau cymunedol yn elwa o’r £3,105,857 gan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, a’i nod yw dod â phobl ynghyd i gryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau trefol a gwledig. Mae gan y rhaglen Pawb a’i Le gyfanswm o £66 miliwn ar gyfer prosiectau yng Nghymru.
Mae prosiectau sy’n hyrwyddo a chefnogi iechyd a lles yn uchel ar restr y rheini sy’n elwa o ddyfarniad heddiw. Bydd grant o £40,522 yn caniatáu i Grŵp Cefnogi Gofalwyr Dementia Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin ddarparu gofal ysbaid i ddioddefwyr dementia er budd gofalwyr a chleientiaid. Bydd y cartref yn darparu’n benodol ar gyfer dioddefwyr iau dementia ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn.
Mae Cymdeithas Canolfan Byw’n Iach Cymunedol St Julian's yng Nghasnewydd yn bwriadu gwario £14,000 ar grant datblygiad cyfalaf a fydd yn talu am ffioedd penseiri, ffioedd cyfreithiol a sicrhau costau prydles a chaniatâd cynllunio. Nod y grŵp yw adeiladu canolfan byw’n iach yng nghanol cymuned St Julian, sy’n ardal ddifreintiedig yn gymdeithasol. Byddai’r ganolfan newydd yn galluogi pobl i ddysgu am ffordd o fyw iach, gan annog pobl i ymarfer corff yn rheolaidd a darparu cyfleusterau y gall y gymuned gyfan eu defnyddio. Bydd y ganolfan hon yn darparu canolfan ffitrwydd ac amrediad eang o weithgareddau megis clinigau gordewdra ymhlith plant, cadw’n heini, pilates, tylino i fabanod, weight watchers, active 50+, gofal deintyddol, cwnsela cyffuriau ac alcohol ac iechyd rhyw.
Gall fod yn amser emosiynol a thrawmatig i bobl sydd wedi cael diagnosis o gancr. Dyna pam y bydd Canolfannau Gofal Canser Maggie yn Ysbyty Singleton, Abertawe, yn gwario £330,956 ar brosiect i ddarparu rhaglen o gefnogaeth seicogymdeithasol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan gancr yn Ne-orllewin Cymru. Bydd y grant yn ariannu cyflogau seicolegydd ac Arbenigwr Cefnogaeth Cancr dros dair blynedd.
Mae’r olwynion yn troi ar gyfer Sustrans Limited. Bydd grant o £102,819 yn galluogi iddynt dargedu 19 ardal ledled Cymru a chyflwyno rhaglen Saddles and Secateurs Volunteer Rangers er mwyn gwella defnydd o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru.
Mewn prosiect sy’n ymgorffori Canol a Gorllewin Tredegar ynghyd â Gogledd a De Glyn Ebwy, bydd Ymddiriedolaeth Datblygu Tredegar yn gwario £572,329 i sefydlu Rhaglen Lles i gynnwys ardaloedd y 3 Bwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf. Bydd Ymgynghorydd Bwyd yn cael ei gyflogi gyda’r arian.
Bydd cefnogaeth i gynorthwyo teuluoedd yng Nghymru i ymdrin â materion amrywiol hefyd yn nodwedd gref yn y cylch diweddaraf o ddyfarniadau. Bydd Canolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion yn gwario £82,139 er mwyn ymestyn y gwasanaethau a ddarperir gan y ganolfan drwy gynyddu oriau agor, hyrwyddo cyrsiau achrededig a rhai nad ydynt wedi’u hachredu, megis sgiliau rhianta, ffordd o fyw iach er mwyn magu hyder ac annog rhieni i geisio hyfforddiant neu gyflogaeth bellach.
Gyda’r £335,273 a gawsant, bydd Right From The Start yn rhedeg prosiect ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, a fydd yn ymestyn y gwasanaeth teuluol cyfredol drwy gyflogi gweithiwr tadau i gefnogi tadau yn eu rôl, datblygu eu rôl rhianta, cefnogi anghenion hyfforddi, sefydlu grwpiau cefnogi a sicrhau cynhwysiad. Dylai hyn annog mwy o dadau i ddod yn wirfoddolwyr a darparu cefnogaeth grŵp i’r naill a’r llall, gan ddod yn aelodau mwy gweithgar o’u cymunedau. Bydd gweithiwr trosiannol hefyd yn cael ei gyflogi i weithio gyda phlant rhwng 10 a 13 mlwydd oed er mwyn lleihau bwlio ac ymddygiad ymosodol a gwella perthnasau rhwng rhieni, plant a’r ysgol.
Bydd dyfarniad o £160,943 yn cynorthwyo Scope i ddarparu’r cynllun Face2Face yn sir Pen-y-bont, De Cymru, er mwyn lleihau’r bylchau cefnogaeth sydd wedi’u hadnabod ar gyfer rhieni plant ag anableddau a’r rheini â namau amryfal a chymhleth. Bydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd â’r rhaglen hyfforddi bod yn gyfaill â rhieni Face2Face er mwyn darparu cefnogaeth emosiynol, empathi a chefnogaeth ymarferol i rieni plant sydd newydd gael diagnosis o anableddau pryd bynnag y bydd angen y gefnogaeth honno.
Bydd The Friendly Trust, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd a’r Bari, ac sy’n gwasanaethu’r ardal honno hefyd, yn cynorthwyo pobl ag anableddau drwy wario £249,339 ar brosiect i ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar faterion ariannol ar gyfer pobl anabl.
Mae prosiectau sy’n helpu merched yn nodwedd gref yn siroedd Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd Gwasanaethau Cam-drin yn y Cartref Blaenau Gwent yn gwario £132,611 ar brosiect i ddatblygu a rhedeg rhaglenni mewn grwpiau ar gyfer merched sy’n profi trais yn y cartref. Bydd unigolion yn medru dod ynghyd, rhannu profiadau a chefnogi ei gilydd drwy amrywiol raglenni.
Wedi’u lleoli yng Nghwmafan, Castell-nedd Port Talbot, bydd YWCA England & Wales yn defnyddio eu dyfarniad o £218,579 i ymgymryd ag ymgynghoriad â merched ifainc sy’n byw yng Nghwmafan. Yn dilyn yr ymgynghoriad, cefnogir merched ifainc i drefnu digwyddiadau, gweithdai a digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol i ferched ifainc eraill.
Mae’r dyfarniadau hefyd yn helpu i adfywio adeiladau cymunedol yng Nghymru. Er mwyn cwblhau ail gyfnod ailddatblygu ac ailwampio'r hen ysgol ym Methlehem, Sir Gaerfyrddin, bydd Cymdeithas Bethlehem Dyffryn Ceidrych Association Ltd yn gwario eu £103,420 ar wella wynebau allanol a mynediad ac uwchraddio’r cyfleusterau sydd ar gael, tra bydd Canolfan Gymunedol Penderyn yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio eu dyfarniad o £125,630 er mwyn ymestyn ac ailwampio canolfan gymunedol fechan ym mhentref Penderyn i fodloni gofynion cymunedol cynyddol.
Mae dau brosiect yng Ngogledd-orllewin Cymru yn manteisio ar ymron i £430,000. Bydd Cyngor ar Bopeth Gwynedd a De Ynys Môn sydd wedi’i leoli ym Mangor ac yn gwasanaethu Gwynedd a De Ynys Môn, yn gwario £10,697 ar grant datblygu cyfalaf yn ymwneud â phwrcasu ac ailwampio adeilad presennol er mwyn darparu mwy o le i wirfoddolwyr. Bydd hyn yn arwain at fynediad gwell ac ehangach i wasanaethau llinell gyngor y grŵp. Bydd y grant yn talu am ffioedd a chostau dylunio ac arbenigol dros flwyddyn.
Wedi’i leoli yng Nghaergybi, Peblig, Talysarn a Chaernarfon, bydd BTCV yn gwario ymron i £416,600 ar brosiect tair blynedd a fydd yn canolbwyntio ar integreiddio rhwng gwahanol sectorau’r gymuned, yn enwedig rhwng aelodau iau a hŷn, ac er mwyn cynyddu ymglymiad y rheini sy’n profi unigedd cymdeithasol mewn gweithgareddau cymunedol. Gwneir hyn drwy gefnogi a hyfforddi cymunedau lleol er mwyn gallu adnabod a datblygu amgylcheddau cymunedol lleol yn ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.
Bydd 3 G's Development Trust ym Merthyr Tudful yn gwario £210,000 ar gais datblygu i ddarparu clwb sinema i’r plant 5-11 mlwydd oed yng nghymunedau Merthyr Tudful. Y gwelliant ar y prosiect blaenorol yw cyflwyno sesiynau blasu mewn materion ffordd o fyw, er enghraifft, hyder, ymdopi â phwysau, ffordd o fyw iach ac annog dysgu. Byddant hefyd yn darparu sioeau ffilm i bobl hŷn.
Wrth roi sylwadau ar yr effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn eu cael ar gymunedau ledled Cymru, dywedodd Janet Reed, Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae Pawb a’i Le yn cyflwyno ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i’r afael ag amddifadedd yn uniongyrchol a gadael etifedd a fydd yn parhau. Rwy’n sicr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau nifer o bobl yn y gymuned ac yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod."
Mae’r rhaglen Pawb a’i Le yn dyfarnu grantiau o rwng £5001 a £1 miliwn i amrediad eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach am y rhaglen Pawb a’i Le a sut gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk <http://www.cronfaloterifawr.org.uk> a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’.
Gwybodaeth Pellach
Am wybodaeth bellach am sut i gael manylion cyswllt ar gyfer prosiectau llwyddiannus neu gyfleoedd cyfweld, ffilmio a thynnu lluniau, cysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ar y rhifau isod.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 filiwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y Deyrnas Unedig fod y rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a’i ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.
Tags