Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Hwyl ar y fferm i bobl ifanc anabl

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
17 5 2007
Bydd cannoedd o bobl ifanc anabl a’u teuluoedd yng Nghymru yn cael haf i’w gofio eleni diolch i hwb ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae dau brosiect, sydd wedi eu datblygu gan bobl ifanc eu hunain, yn rhannu cyfanswm o £5,729 a ddyfarnwyd trwy ffrwd Dyma Dy Gyfle y rhaglen Cronfa Pobl Ifanc, sy’n helpu i wneud newidiadau positif i fywydau pobl ifanc rhwng 10 a 19 mlwydd oed yng Nghymru.

Gyda’u dyfarniad o £1,466, bydd y Get Going Gang yn y Trallwng, Powys, yn darparu gweithgareddau i bobl ifanc rhwng 10 a 15 oed mewn cynllun chwarae haf.  Yn Sir Gaerfyrddin, De Orllewin Cymru, bydd Barnardos yn gwario £4,263 ar brosiect i ddarparu gwibdaith i bobl ifanc anabl a’u teuluoedd.  

Yn ystod gwyliau’r haf, bydd tua 120 o bobl ifanc anabl yn ymweld â Pharc Antur Folly Farm a Sŵ yn Sir Benfro am y dydd.  Mae’r trip cyfan wedi ei drefnu gan y bobl ifanc anabl eu hunian.  Wedi ei leoli yng nghalon cefn gwlad Sir Benfro, mae gan Folly Farm fuarth ffarm, sŵ, ffair hwyl hen ffaswin a pharc chwarae antur.  Bydd addysg hefyd yn rhan bwysig o’r diwrnod a bydd y bobl ifanc yn dysgu am anifeilliad, cadwraeth a ffermio pan fyddant yn ymweld â’r parc.  

Gan fynegi ei hapusrwydd o dderbyn y dyfarniad yma, dywedodd Swyddog Cynhwysiad a Chymeryd Rhan Barnado’s Laura Skudra: “Gofynnom i’r bobl ifanc beth yr hoffen nhw ei wneud ac fe ffurfiwyd grŵp cynllunio i roi’r cais at ei gilydd.  Yn ogystal â’u cael nhw i weithio fel tîm, rhoddodd y gwaith ddealltwriaeth iddynt o faint mae pethau yn gostio a faint o ymdrech sydd yn mynd i mewn i drefnu digwyddiadau.  Maent wedi trefnu'r daith bws ac maent wedi gwirio'r holl agweddau iechyd a diolgewch a logisteg eraill eu hunain.”

“Mae’r prosiect wedi rhoi’r cyfle iddynt wneud rhywbeth adeiladol a threfnu diwrnod llawn hwyl iddyn nhw ei fwynhau gyda’i gilydd.  Nid yw llawer o’r bobl ifanc yn cael y cyfle i weld ffrindiau y tu allan i’r ysgol, felly mae hwn yn gyfle gwych iddynt gymdeithasu a chael diwrnod allan yng nghwmni eu teulu a ffrindiau.”

Gan amlinellu pwysigrwydd y rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Cronfa Pobl Ifanc, Mike Theodoulou: “Mae’r prosiectau hyn yn brawf o sut y gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ifanc ledled Cymru, beth bynnag eu gallu.  Os gall rhwng £500 a £5,000 o arian helpu eich grŵp i ddatblygu amrediad o sgiliau a chymryd rhan mewn gweithgareddau, mae’r neges yn un syml - ‘anfonwch eich cais i ni’.”

Gwybodaeth pellach

Am wybodaeth bellach am y prosiectau, a manylion cyswllt ar gyfer y grwpiau a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr dros e-bost neu ar y rhifau isod os gwelwch yn dda.

Am wybodaeth bellach am y Gronfa Pobl Ifanc a sut y gall eich grŵp chi ymgeisio am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr yn www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio sy’n benodol ar gyfer ‘Cymru’. Fel arall, gallwch gysylltu â swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun:0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael o: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 filiwn mewn arian achosion da'r Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y Deyrnas Unedig fod y rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a’i ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
  • Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu yn y meysydd hynny ble maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
ADBORTH