Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Eisteddfodwyr ifanc yn rhoi ‘help llaw’ i Gymru

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
23 5 2008
Fel rhan o ymgyrch i ddathlu’r £100 miliwn sydd eisoes wedi ei ddosbarthu i bobl ifanc yng Nghymru, bydd y Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Treftadaeth y Loteri yn bresennol yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop yr wythnos nesaf. Byddant yn gofyn i bobl ifanc sut fydden nhw’n rhoi help llaw i’w cymuned pe bai ganddynt filiynau o bunnoedd o arian loteri i’w wario.

O Dydd Llun 26 Mai hyd Ddydd Sadwrn 31 Mai 2008 bydd y Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Treftadaeth y Loteri yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghonwy i ymgynghori â phobl ifanc ac i ddathlu’r £100 miliwn sydd eisoes wedi ei ddosbarthu i ddatblygu gweithgareddau a gwasanaethau i bobl ifanc led led y wlad.

Ers ffurfio’r Loteri Genedlaethol ym 1994, buddsoddwyd miliynau o bunnoedd o arian Loteri i wella bywydau pobl ifanc ar draws Cymru gyfan. Mae’r Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Treftadaeth y Loteri yn bwriadu defnyddio tair gŵyl fawr (Eisteddfod yr Urdd, Sioe Amaethyddol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol) i nodi’r gwahaniaeth a wnaed ac i ymgynghori â phobl ifanc am beth yr hyn sy’n werthfawr iddynt a beth ellid ei wneud i wella’u cymunedau.

Gyda 15,000 o gystadleuwyr ifanc a 100,000 o ymwelwyr, pa le gwell i ymgynghori ag ieuenctid nag Eisteddfod yr Urdd? Gydol yr wythnos, gwahoddir ieuenctid yn llythrennol i adael eu hôl ar Gymry trwy gyfrannu at ‘Mur Help Llaw’ ar y stondin. Map mawr o Gymru yw’r ‘Mur Help Llaw’ a byddwn yn gofyn i  eisteddfodwyr roi eu llaw ar ble maen nhw’n byw a thynnu amlinelliad ohono.  O fewn eu hamlinelliad,  byddant yn nodi eu barn am ble gellid gwario arian loteri i wella eu cymunedau. Bydd y gweithgareddau yn digwydd ar y cyd gyda grwpiau ieuenctid lleol. Bydd y dystiolaeth a gesglir gan yr ieuenctid ym mhob gŵyl yn cael ei ddefnyddio gan y Gronfa Loteri Fawr wrth lunio rhaglenni grant yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cyfrannu at gynllun gweithredu cyfranogiad ieuenctid a gwaith hunaniaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri.

I gyd fynd â’r ymgyrch mae’r Gronfa Loteri Fawr hefyd wedi cynhyrchu rhifyn arbennig o’i gylchgrawn Newydd Mawr, bydd y cylchgrawn ar gael am ddim ac yn llawn o erthyglau am fuddsoddiad sylweddol i wasanaethau pobl ifanc yng Nghymru. Ac yn well fyth, gall y darllenwyr roi cynnig ar gystadleuaeth wych i ennill un o dri i-Pod. Mae rhoi cynnig ar y gystadleuaeth yn hawdd iawn.

Yr oll sydd angen I ymgeiswyr ei wneud yw nodi eu syniadau am ble gellid gwario arian Loteri yn eu hardal. Bydd manylion pellach ar gael yn y cylchgrawn.

Wrth wneud sylwadau ar y pwysigrwydd o ymgynghori gydag ieuenctid, dywedodd  Mike Theodoulou,  Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pobl Ifanc: “Mae ein hymrwymiad i ddarparu etifeddiaeth barhaol ar gyfer pobl ifanc yn amlwg. Dros y blynyddoedd rydym wedi helpu miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru gyfan i sylweddoli eu potensial a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau. Ni fyddwn yn datblygu ein rhaglenni ar ein pen ein hunain ac rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd siarad â, ac yn bwysicach, gwrando ar farn pobl ifanc.

"Dyna pam ry’n ni wedi cymryd y cyfle hwn dros fisoedd yr haf i ofyn i bobl ifanc beth yw eu barn a bydd y rhain yn cael eu bwydo i mewn i raglenni ariannu’r dyfodol. Mae’r neges yn glir - os oes gan unrhyw un farn am sut dylid gwario arian loteri i wella eu hardal - ry’n ni am eu clywed nhw. A phwy a ŵyr efallai gallent ennill i-Pod yn y fargen."

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr– Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa : 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan:  www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc

Categori

  • Corfforaethol
ADBORTH