- Area:
- Cymru
- Release date:
- 1 3 2007
Mae Pwyllgor Cymru'r Gronfa Loteri Fawr a sefydlwyd o’r newydd yn paratoi i benderfynu sut bydd mwy na £116 miliwn o arian y loteri yn cael ei wario ar wella bywydau miloedd o bobl mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae pum unigolyn o bob cwr o’r wlad wedi ymuno â Phwyllgor Cymru newydd y Gronfa Loteri Fawr. Daw’r penodiadau newydd ar ôl penodi Huw Vaughan Thomas yn Gadeirydd ar Bwyllgor Cymru ddiwedd y llynedd. Bydd yr aelodau yn cefnogi’r Cadeirydd wrth oruchwylio sut bydd miliynau o bunnau o arian achosion da'r loteri yn cael eu buddsoddi yn y sector gwirfoddol, cymunedol, cyhoeddus a phreifat ledled Cymru rhwng yn awr a 2009.
Mae aelodau'r pwyllgor yn cynnig cyfoeth o brofiad. Yr aelodau yw, Graham Benfield, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Tom Davies, Comisiynydd Cwynion Annibynnol yr Heddlu dros Gymru a chyn Aelod Bwrdd y Gronfa Loteri Fawr, Janet Reed, cyn Gyfarwyddwr Centrica a Rheolwr Cenedlaethol Cymru dros Nwy Prydain, Mike Theodoulou, Cadeirydd Gweithredol dros Asiantaeth Adfywio Foothold a Barbara Wilding, Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru (am wybodaeth bellach, gweler y bywgraffiadau isod).
Pwyllgor Cymru fydd yn gyfrifol am strategaeth, polisi, cynllunio a rheoli rhaglenni yng Nghymru, o fewn fframwaith strategol ac ariannol cyffredinol a bennir gan Fwrdd DU y Gronfa Loteri Fawr.
Y Gronfa Loteri Fawr yw’r mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da'r Loteri Genedlaethol a hyd yma mae wedi dyfarnu dros £750 miliwn yng Nghymru i brosiectau sy’n darparu gwelliannau gwirioneddol i gymunedau a bywydau pobl mewn angen ledled y wlad.
Wrth amlinellu pwysigrwydd sefydlu Pwyllgor Cymru'r Gronfa Loteri Fawr, dywedodd Alun Pugh, Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon: “Dymunaf groesawu penodi Pwyllgor Cymru'r Gronfa Loteri Fawr. Golyga hyn y bydd penderfyniadau ar ariannu’r loteri yn cael eu gwneud yng Nghymru gan bobl â dealltwriaeth o anghenion Cymru".
Wrth edrych ymlaen at weithio gyda’r aelodau newydd, dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd Cymru: “Dyma'r Pwyllgor Cymru cyntaf erioed i'w benodi a fydd â throsolwg strategol ac rydym i gyd yn rhan o ddigwyddiad hanesyddol lle fo dosbarthu arian y Loteri ar gyfer achosion da yng Nghymru dan sylw. Mae gan yr aelodau newydd gyfle gwych i ymestyn allan a chefnogi pobl o bob oedran a gallu yng Nghymru, pobl o gefndiroedd ethnig neu leiafrifol a hefyd i gynorthwyo'r rheiny sy'n wynebu problemau neu anfanteision penodol mewn cymdeithas.”
Ychwanegodd: “Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r pwyllgor newydd a defnyddio eu profiadau mewn amryw feysydd i wneud penderfyniadau pwysig ar brosiectau a fydd yn cael effaith bositif ar gymunedau ledled Cymru a gadael etifeddiaeth barhaus. Ar ran Bwrdd DU, dymunaf groesawu hwy i’r pwyllgor a gobeithio y byddant yn mwynhau’r profiad ac yn elwa’n fawr ohono.”
Am wybodaeth bellach ynghylch aelodau’r pwyllgor, cysylltwch ag Oswyn Hughes yn swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr ar 02920 678 207. (Gellir cael lluniau o aelodau’r pwyllgor wrth wneud cais i swyddfa'r wasg Cronfa Loteri Fawr).
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030 Llinell Destun: 845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 filiwn mewn arian achosion da'r Loteri bob 24 awr ac, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y Deyrnas Unedig, mae’n golygu fod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da'r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.
Bywgraffiadau a Dyfyniadau Pwyllgor Cymru ar gyfer y Cyfryngau
Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd (Conwy, Gogledd Cymru)
Mae Hugh Vaughan Thomas wedi bod yn Gyfarwyddwr ar Taro Consultancy Ltd, cwmni wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, sy’n arbenigo mewn gwaith polisi sefydliadol, llywodraethol ac economaidd yn y sector cyhoeddus, er Mehefin 2001. Ar hyn o bryd mae'n gynrychiolydd y defnyddiwr ar y Cyngor Cymhorthion Clyw ac yn aelod annibynnol o'r Bwrdd Parôl. Yn ddiweddar bu’n gwasanaethu fel Aelod o’r Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Treuliodd ei yrfa gynnar yn y gwasanaeth sifil a llywodraeth leol. Mae’n gyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Gwynedd, a chyn Gyfarwyddwr Cymru'r Comisiwn Gwasanaethau Gweithlu ac Adran Gyflogaeth. Mae ei benodiadau gwirfoddol a chyhoeddus blaenorol, ymhlith eraill, yn cynnwys bod yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Aelod o Gyngor Prince’s Trust, Cymru, aelod o Bwyllgor Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, ymddiriedolwr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ac aelod lleyg Cyngor Llywodraethu Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Graham Benfield OBE, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Y Bont-faen, Caerdydd)
Mae gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 2000 o aelodau a 115 o staff wedi’u lleoli ledled Cymru, ac yn rheoli cyllideb o £30 miliwn. Mae’n asiantaeth annibynnol genedlaethol sy’n darparu ymchwil, hyfforddiant, gwybodaeth, polisi ac arian ar gyfer gwirfoddolwyr a'r sector gwirfoddol.
Mae Mr Benfield wedi bod yn Brif Weithredwr arno er 1989.
Ymhlith ei swyddi blaenorol mae:
Cyfarwyddwr Virginia House Settlement, Plymouth; Uwch Ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol a Gwaith Cymunedol, Plymouth; Swyddog Datblygu Cymdeithasol yn Skelmersdale New Town; Cyfarwyddwr Asiantaeth Gwirfoddoli Ieuenctid, Llundain; Cyfarwyddwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Gorllewin Morgannwg.
Mae ganddo MA (Oxon) mewn Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg ac MSc mewn Polisi Cymdeithasol o Brifysgol Cymru
Ar hyn o bryd mae'n:
Ymddiriedolwr Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol
Aelod o Bwyllgor monitro a grŵp polisi Amcan 1
Aelod o CIVICUS - Cynghrair y Byd dros Gyfranogiad Dinasyddion
Aelod o Fwrdd Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau’n Gyntaf
Aelod o Gyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol
Aelod o Gomisiwn Carnegie ar Ddatblygu Cymunedau Gwledig
CymrawdCymdeithas Frenhinol y Celfyddydau
CadeiryddUnlimited
Fel gwirfoddolwr mae’n Cadeirio Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Gelfyddydau St. Donats.
Yn 2003, derbyniodd OBE am ei wasanaethau i'r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Dyfyniad:
“Rydw i wrth fy modd o gael fy mhenodi ac edrychaf ymlaen at lunio'r ffordd y mae arian y loteri yn cael ei ddosbarthu yng Nghymru. Yr her fwyaf sy’n ein hwynebu yw sicrhau fod yr arian yn cael ei wario mewn ffordd effeithiol sy’n gallu cefnogi anghenion pobl a’u cymunedau.”
Tom Davies (yn wreiddiol o Wrecsam, Gogledd Cymru, bellach yn byw ym Mhenarth, De Cymru)
Mae Tom Davies, sy'n frodor o Ogledd Cymru, wedi bod yn Gomisiynydd y DU dros Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu er 2003, gyda chyfrifoldebau dros Gymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
O 2000 ymlaen bu Tom yn Aelod Bwrdd DU y Gronfa Cyfleoedd Newydd gyda chyfrifoldebau dros Gymru, ac yn 2004 ymgymerodd Tom â rôl Aelod Bwrdd dros Gymru y Gronfa Loteri Fawr.
Yn ddiweddar bu’n gwasanaethu fel aelod o Fwrdd UWIC.
Fe raddiodd o Brifysgol Lerpwl a derbyniodd raddau ôl-raddedig o Brifysgolion Cymru a Sheffield, mae hefyd yn Gymrawd British Institute of Management. Ar ôl gyrfa hir mewn addysg fel Prifathro yng Ngogledd Cymru, Prif Arolygydd ysgolion yn Bradford a Chyfarwyddwr Addysg yng Nghaerdydd, treuliodd Tom bedair blynedd hefyd fel Cyfarwyddwr sefydlu Prince’s Trust yng Nghymru.
Dyfyniad:
“Dyma grŵp ymrwymedig iawn o bobl gyda phrofiad helaeth mewn amryw o feysydd. Ar ôl bod yn rhan o’r Gronfa Loteri Fawr o’r cychwyn a chynorthwyo i sefydlu rhai o’r mecanweithiau, edrychaf ymlaen at weithio ar y rhaglenni newydd mewn ardaloedd newydd o amddifadedd cymdeithasol, nad ydynt hyd yma wedi’u cyffwrdd gan arian y loteri.”
Ychwanegodd: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a hanesyddol i mi ac yn nhermau’r Loteri, dyma’r pwyllgor cyntaf dros Gymru, yn cyflwyno rhaglenni penodol i Gymru. Mae’n dda gweld y corff yn datblygu o’i gyfnodau cynllunio cychwynnol i'r lle’r ydym ni heddiw."
Janet Reed OBE (Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru)
Ymddeolodd Janet Reed o swydd Rheolwr Cenedlaethol Cymru dros Nwy Prydain yn 2005. Ymestynnodd yrfa Janet gyda Nwy Prydain dros 31 mlynedd ac roedd yn cynnwys rolau mewn gwerthiannau, marchnata a rheolaeth gyffredinol yn y marchnadoedd masnachol a domestig.
Cyfrannodd at sefydlu Swyddfa Werthiannau Cenedlaethol yng Nghaerdydd, a oedd yn cyflogi dros 2000 o staff. Yn 2004, derbyniodd yr OBE am ei gwasanaethau i ddatblygiad economaidd yng Nghymru.
Roedd Janet yn aelod o fwrdd Busnes yn y Gymuned am 12 mlynedd ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn annog arweinwyr busnes i chwarae rhan yn y cymunedau lle maent wedi’u lleoli. Mae bellach yn defnyddio’r profiad hwn yn ei rôl fel Ymddiriedolwr Cyngor Sgowtiaid Cymru.
Mae Janet wedi bod yn aelod a Chadeirydd ar Gyngor CBI Cymru. Roedd yn aelod o fwrdd Awdurdod Datblygu Cymru ac yn rhan o Grŵp Arweinyddiaeth Prince's Trust yng Nghymru.
Dyfyniad:
“Ar ôl ymddeol, penderfynais fy mod eisiau ymroi fy amser i wneud llawer o waith gyda mudiad y Sgowtiaid. Fe’m tarodd i ba mor anodd oedd hi ar grwpiau fel hyn i sicrhau arian i oroesi. Pan welais y swydd yn cael ei hysbysebu, penderfynais y byddwn i’n hoffi bod yn rhan o rywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.
Mae gennym ni fel pwyllgor gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ac mae’n bwysig ein bod yn parhau â ffocws pendant ar ba ganlyniadau sy'n rhaid eu cyflawni. Mae’n bleser gen i fod yn rhan o grŵp bach, dethol ag ystod mor eang o brofiad mewn gwahanol feysydd. Byddwn yn dwyn y profiadau hyn ynghyd er lles Cymru.”
Mike Theodoulou (Llanelli, De-orllewin Cymru)
Yn Gadeirydd Gweithredol, ymunodd Mike Theodoulou â Foothold ym 1998, pan oedd y corff yn bodoli fel Asiantaeth Fenter Leol fach. Gyda gyrfa sydd wedi’i rhannu’n gyfartal rhwng y sector masnachol a’r sector nid-er-elw, dechreuodd gyrfa Mike yn llwyddiannus yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain cyn symud ymlaen i weithio mewn Llywodraeth Leol. Dros nifer o flynyddoedd datblygodd ei yrfa gyda nifer o Gymdeithasau Tai yn Llundain ac ar ôl hynny daeth yn Brif Weithredwr ar un o’r Cymdeithasau Tai mwyaf yn y DU.
Yn y sector preifat, mae wedi bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar Gwmni Datblygu ac Adeiladu a Chyfarwyddwr Gweithredol Quality Street Ltd. (eiddo), lle'r oedd ganddo gyfrifoldeb dros fuddsoddiad cyffredinol o £1/4 biliwn ar gyfer y corff.
Ers symud i Gymru mae Mike wedi rhoi’r weledigaeth a’r arweinyddiaeth sydd wedi symud The Foothold Group drwy gyfnod o dwf ac amrywiad, gan ei sefydlu yn un o'r cwmnïau adfywio mwyaf blaenllaw'r Dywysogaeth.
Mae Mike wedi chwarae rhan mewn nifer o gyrff eraill, ac yn parhau i wneud hynny:
- Cadeirydd Sefydlu'r Bwrdd Partneriaeth a sefydlodd Cyllid Cymru, y Banc Datblygu Cymru
- Cadeirydd Sefydlu a Chyfarwyddwr Cyfredol Siambrau Cymru.
- Cadeirydd ar Siambr Fasnach Sir Gaerfyrddin (yr ail Siambr fwyaf yng Nghymru)
- Llywydd ar Siambr Fasnach Porth Tywyn a Phen-bre
- Aelod o Bwyllgor sy’n goruchwylio Amcan Un yng Nghymru, ac yn un o’r tîm negodi gwreiddiol gyda’r Comisiwn.
- Cadeirydd Is-bwyllgor Monitro Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.
- Aelod pwyllgor ar y Bwrdd sy’n paratoi Cymru ar gyfer cylch nesaf o arian Undeb Ewropeaidd ynghyd â Grŵp Cynllun Datblygu Gwledig Cymru.
- Yn lleol, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol.
Dyfyniad:
“Mae gan y Gronfa Loteri Fawr rôl anferth i’w chwarae yng Nghymru a gobeithiaf y gallaf rannu fy mhrofiadau a rhoi rhywbeth yn ôl i gymunedau Cymru. Mae gofynion sy’n gwrthdaro ar arian y loteri yn y wlad hon ac edrychaf ymlaen at sicrhau fod pob cymuned yn cael gwerth am ei phunt Loteri. Mae’n anrhydedd gwasanaethu ar y pwyllgor a byddwn yn cydweithio ac yn gwneud yr hyn y gallwn ni dros Gymru.”
Barbara Wilding, CBE, QPM, CCMI, (Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru)
Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru
Ymunodd Miss Wilding â Heddlu’r Tiroedd yn Jersey fel cadét ym 1967 ac fe’i hardystiwyd yn gwnstabl ym 1970. Ym 1971 fe drosglwyddodd i’r Heddlu Metropolitan lle gwasanaethodd yn bennaf fel ditectif gweithredol ledled Llundain ac ar unedau arbenigol yn New Scotland Yard. Daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu Kent ym 1994, gyda chyfrifoldeb dros Bersonél, ac ym 1997 cymerodd gyfrifoldeb dros Weithredoedd Trosedd, Cudd-wybodaeth a Chyswllt Ewropeaidd.
Ym 1998 trosglwyddodd i’r Heddlu Metropolitan fel Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol gan wasanaethu yn yr adran bersonél a Gweithrediadau Arbenigol lle arweiniodd y Gyfarwyddiaeth Diogelwch ac Amddiffyn a oedd yn cynnwys amddiffyn gweinidogion, y teulu Brenhinol, Cangen Arbennig, Maes Awyr Heathrow, cudd-wybodaeth ac unedau drylliau arbenigol. Penodwyd Miss Wilding yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru ar 1 Ionawr 2004.
Mae Miss Wilding yn Gyd-gyfarwyddwr ar Ganolfan Asesu Cenedlaethol yr Heddlu. Mae hefyd yn goruchwylio cynllun Mentora Cenedlaethol ar gyfer Uwch-arolygwyr benywaidd.
Astudiodd Miss Wilding droseddeg ym Mhrifysgol Llundain, ac mae’n Gydymaith y Sefydliad Rheolwyr Siartredig. Mae hefyd yn Aelod o’r Sefydliad Brenhinol dros Faterion Rhyngwladol a Choleg Brenhinol Astudiaethau Amddiffyn. Gwobrwywyd Medal Heddlu’r Frenhines iddi yng Ngwobrau Mileniwm 2000 am wasanaeth arbennig i’r heddlu. Anrhydeddwyd Miss Wilding yng Ngwobrau Pen-blwydd y Frenhines yn 80 mlwydd oed pan dderbyniodd fedal Comander Ymerodraeth Prydain am ei gwasanaethau i’r heddlu.
Mae Miss Wilding yn briod â theithiwr byd gyda Chriced Rhyngwladol ac mae ganddi ddwy ferch yn y Brifysgol.
Dyfyniad:
“Rwy’n cydnabod y gwaith gwych sydd wedi’i wneud gan y loteri ar draws Cymru yn barod, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r pwyllgor i gefnogi pobl mewn cymunedau ledled y wlad sydd wirioneddol angen arian am amryw resymau.
Trwy fy rôl fel Prif Gwnstabl, fy mhrofiad breintiol yw dod i gysylltiad â chymunedau Cymru ac rwyf yn deall y problemau cymdeithasol ac economaidd y mae nifer o’r ardaloedd hyn yn eu hwynebu. Rwy'n edrych ymlaen yn awr at ddefnyddio fy ngwybodaeth o’r cymunedau hyn i wneud gwahaniaeth yng Nghymru.”
Tags