Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cyn athro yn cyflwyno gwersi newydd i dîm ariannu’r Loteri

Area:
Cymru
Release date:
4 3 2008
Mae cyn athro a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes o Rondda Cynon Taf wedi’i ddewis i helpu i benderfynu sut y bydd hyd at filiwn o bunnau'r wythnos o arian y Loteri yn cael ei fuddsoddi i wella bywydau miloedd o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.

Mae Gareth Newton, sy’n byw yn Aberdâr, wedi ymuno â Phwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a bellach bydd yn cefnogi ei aelodau wrth oruchwylio sut y bydd miliynau o bunnau o arian achosion da y loteri yn cael ei fuddsoddi ar draws Cymru hyd at 2009.

Mae gan y Pwyllgor gyfoeth o brofiad ac mae Gareth yn ymuno â’r Cadeirydd, Huw Vaughan Thomas, cyn Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd a Sir Ddinbych, Graham Benfield, Prif Weithredwr CGGC, Janet Reed, Rheolwr Cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer Nwy Prydain, Mike Theodoulou, Prif Weithredwr Asiantaeth Adfywio Foothold a Barbara Wilding, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru.

Wrth ymhyfrydu ei fod yn rhan o’r Pwyllgor, dywedodd Gareth: “Yn ystod blynyddoedd lawer o gysylltiad personol wrth gyflwyno a rheoli gwaith ieuenctid, dysgu oedolion a datblygiad cymunedol, rwyf wedi gweld sawl enghraifft o sut mae arian y Loteri wedi gweddnewid bywydau unigolion a’u cymunedau. Edrychaf ymlaen at chwarae rhan wrth sicrhau bod rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr yn parhau i gael effaith ar yr ardaloedd hynny yng Nghymru lle fo anfantais wedi hen ymwreiddio ac yn ymestyn allan atynt.”

Ar ôl 11 mlynedd o ddysgu mewn ysgolion uwchradd yn y Bari a Chaerdydd, ymunodd Gareth, sy’n ŵr priod a thad i ddau o blant, â Chyngor Sir Morgannwg Ganol ym 1986 fel Swyddog Addysg Cymunedol llawn amser. Fe enillodd radd M.Sc. o Brifysgol Morgannwg mewn rheoli gwasanaethau addysgol ac fe’i penodwyd gan Brifysgol Cymru yn arholwr allanol ar gyfer gradd B.A. mewn gwaith Ieuenctid a Chymunedol yn Sefydliad Addysg Uwch Gogledd-ddwyrain Cymru, Wrecsam.

Ym 1996, fe’i penodwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Brif Swyddog Addysg Cymunedol. Ar ôl hynny daeth yn Gyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes y Cyngor yn 2000 a bu yn y swydd hon nes iddo ymddeol yn gynnar ym mis Mawrth 2007.

Ar hyn o bryd mae’n aelod o Bwyllgor Cofrestru a Safonau Cyngor Gofal Cymru ac mae hefyd yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Wrth groesawu’r aelod newydd hwn i'r Pwyllgor, dywedodd Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, Huw Vaughan Thomas: “Fel aelod o’r pwyllgor, bydd gan Gareth gyfle euraidd i ymestyn allan a chefnogi pobl o bob oedran a gallu yng Nghymru, pobl o gefndiroedd ethnig neu leiafrifol a hefyd helpu'r rheini sy'n wynebu materion penodol neu anfantais o fewn cymdeithas."

Ychwanegodd: “Edrychaf ymlaen at weithio gyda Gareth a defnyddio ei arbenigedd i wneud penderfyniadau pwysig ar brosiectau a fydd yn cael effaith bositif ar gymunedau ar draws Cymru ac yn gadael etifeddiaeth barhaus. Ar ran Bwrdd y DU, dymunaf ei groesawu i'r Pwyllgor a gobeithiaf y bydd yn mwynhau ac yn elwa’n fawr o’r profiad.”

Pwyllgor Cymru sy’n gyfrifol am strategaeth, polisi, cynllunio a rheoli rhaglenni yng Nghymru, o fewn fframwaith strategol ac ariannol cyffredinol a bennir gan Fwrdd y Gronfa Loteri Fawr yn y DU.

Y Gronfa Loteri Fawr yw’r mwyaf o blith dosbarthwyr achosion da y Loteri Genedlaethol a hyd yma mae wedi dyfarnu dros £600 miliwn yng Nghymru i brosiectau sy’n cyflwyno gwelliannau gwirioneddol i gymunedau a bywydau pobl anghenus ar draws y wlad.

Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ymwelwch â gwefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan a www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Categori

  • Corfforaethol
ADBORTH