- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 7 8 2007
“Cyfle euraidd” yw’r geiriau y mae AS Caernarfon Hywel Williams yn eu defnyddio heddiw i ddisgrifio’r potensial i ddatblygu gwasanaeth o ansawdd i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Ychwanegodd fod yn rhaid i’r gwasanaeth fod yn gyfartal “i siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd.”
Mae wedi bod yn siarad mewn cefnogaeth i ymgyrch y Gronfa Loteri Fawr i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl yng Nghymru, a fydd â phresenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn cael ei chynnal yn Sir y Fflint o Awst 4 -11, Eisteddfod Genedlaethol Cymru fydd stop nesaf Cymru yn ymgyrch Mwy na Rhif y Gronfa Loteri Fawr, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl yng Nghymru. Lansiwyd rhaglen £15miliwn Iechyd Meddwl gan y Gronfa Loteri Fawr yn gynharach eleni hefyd.
Bydd digwyddiad arbennig i ddathlu'r ymgyrch Mwy na Rhif yn cael ei gynnal ar stondin Arian y Loteri yng Nghymru am 11:00am ar Ddydd Mawrth Awst 7. Bydd Hywel Williams AS Caernarfon, sydd yn hyrwyddwr cryf o faterion iechyd meddwl, yn ymuno â siaradwyr o’r Gronfa Loteri Fawr yn ogystal â sefydliadau iechyd meddwl, Hafal a Mind Cymru, i amlygu’r ymgyrch. Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gweithio mewn partneriaeth â Hafal a Mind Cymru i amlygu’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gan ddangos ei gefnogaeth i’r ymgyrch a gan leisio ei obeithion i’r dyfodol o ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru, dywedodd AS Caernarfon Hywel Williams: “Mae cyfle euraidd o’n blaenau ni i ddatblygu gwasanaeth o safon i bobl efo problemau meddyliol yng Nghymru. Mae gan y Gronfa Loteri Fawr y rhaglen Iechyd Meddwl a phasiwyd Deddf Iechyd Meddwl newydd eleni, sy’n rhoi grym i’r Cynulliad weithredu yn bositif a gwneud yn siŵr fod gwasanaeth addas ar gael ym mhob rhan o Gymru, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.”
Ychwanegodd: “Dwi’n croesawu'r ymgyrch Mwy na Rhif fel cyfrwng i ddenu ymwybyddiaeth pobl ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru."
Dengys ystadegau y bydd un o bob pedwar oedolyn yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ryw amser yn ystod eu bywyd a bydd un o bob deg plentyn angen cymorth proffesiynol ar gyfer anhwylder iechyd meddwl. Dyma pam y penderfynodd y Gronfa Loteri Fawr i fynd ar daith gyda’u hymgyrch Mwy na Rhif a ddechreuodd yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin ym mis Mai. Defnyddiwyd y digwyddiad yn arbennig i bwysleisio ag amlygu sut mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghrymu. Gyda ffermio wedi ei adnabod fel un o’r galwedigaethau sydd mewn risg fwyaf o hunan laddiad, lansiodd y Gronfa Loteri Fawr ddarn o waith ymchwil gwledig sylweddol yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, gyda’r nod tymor hir o wella bywydau pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig Cymru.
Wrth drafod yr ymgyrch Mwy na Rhif, dywedodd Barbara Wilding, Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd Meddwl: “Mae cyflwr pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn aml yn cael ei waethygu gan y stigma, diffyg dealltwriaeth ac anffafriaeth a wynebir ganddynt yn ddyddiol. Gobeithiaf fod yr ymgyrch yma wedi gallu difa rhai o’r tybiaethau hynny. Y prif fater sy’n ein pryderu ni yw sut y gellir cysylltu â’r rhai sydd mewn cyfyngder ac yn fwy penodol, sut y gellir perswadio pobl sydd mewn argyfwng i ofyn am gymorth.”
Ychwanegodd: “Os yw’n golygu cefnogi prosiectau sy’n gwella gwasanaethau mewn cymunedau gwledig neu fentrau sy’n cynnig mwy o gyngor a chefnogaeth i bobl ifanc a hen fel ei gilydd, prif amcan ein rhaglen Iechyd Meddwl yw cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd Meddwl difrifol i fyw bywydau llawn yn eu cymunedau ac i leihau achosion o atgwymp neu argyfwng.”
Gwybodaeth pellach
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri fawr ar gael ar y wefan yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu yn agos at £1 miliwn yr wythnos mewn arian achosion da y Loteri, sydd ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri yn golygu fod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru o fewn ychydig filltiroedd o brosiect a’i ariannwyd gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu yn y meysydd hynny ble maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.
Tags