- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 29 10 2008
Mae'r ymgyrchoedd ar droed ar draws Cymru wrth i wyth o grwpiau glywed heddiw eu bod wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar gyfer arian y Gronfa Loteri Fawr gwerth £250,000.
Bydd pum grŵp yng Nghymru yn ennill dyfarniadau o hyd at £50,000 yr un ar gyfer eu prosiect cymunedol trwy gystadleuaeth Miliynau’r Bobl, a fydd yn cael ei darlledu’n fuan ar raglen newyddion nosweithiol ITV Wales Tonight.
Dyma'r bedwaredd flwyddyn y mae’r Gronfa Loteri Fawr ac ITV wedi rhoi’r cyfle i'r cyhoedd bleidleisio ar le y mae arian achosion da'r loteri yn mynd yn eu rhanbarth.
Bydd y gystadleuaeth ranbarthol, sy’n cynnig grantiau a fydd o fudd i gymunedau lleol, yn mynd yn fyw yn ystod yr wythnos rhwng 24 a 28 Tachwedd. Bydd yr wyth cynllun yn gwneud eu cais am y dyfarniadau ar raglen newyddion rhanbarthol ITV Wales gyda’r cyhoedd yn penderfynu ar yr enillwyr trwy bleidlais ffôn.
Bob nos (Dydd Llun i Ddydd Iau) bydd dau grŵp achosion da yn ymrafael ac ar ddiwedd yr wythnos bydd pedwar prosiect wedi ennill cyfran o £250,000 o arian achosion da'r loteri. Bydd yr un sy’n ennill y nifer uchaf o bleidleisiau ffôn o blith y rhai a ddaeth yn ail hefyd yn ennill grant i fod yn bumed enillydd, a gyhoeddir Ddydd Gwener, 28 Tachwedd.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae’r rhaglen wedi dosbarthu £730,000 i 13 o achosion da ar draws Cymru gyda mwy na 30,000 o bobl yn pleidleisio dros eu hoff brosiectau'r llynedd.
Ddydd Llun, 24 Tachwedd, bydd sefydliad All Creatures Great and Small yn Llanfrechfa, Torfaen, yn brwydro yn erbyn King George V Playing Fields Association yng Nghastell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin.
Pe bai'r prosiect Barn Regeneration a redir gan y sefydliad All Creatures Great and Small yn ennill, byddant yn adnewyddu ysgubor ger Cwmbrân ac yn ei gweddnewid yn ystafell ddysgu gyda chyfleusterau toiledau. Byddai hyn yn caniatáu i ysgolion a grwpiau cymunedol gael mynediad at ganolfan addysg er mwyn dysgu ynghylch ymwybyddiaeth anifeiliaid anwes ynghyd â threftadaeth y gymuned ffermio leol.
Pe bai King George V Playing Fields Association yn cael gafael ar yr arian, byddent yn ei wario ar y prosiect Playground. Byddai’r arian yn cael ei wario ar amnewid hen offer chwarae gyda maes chwarae modern a diogel ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghastell Newydd Emlyn.
Dydd Mawrth, bydd y The Grasslands Trust yn Sir Gaerfyrddin yn cystadlu yn erbyn y prosiect Ferndale Skate Park (FSP) Ltd yn Rhondda Cynon Taf.
Drwy'r prosiect Trysorau Coedwig Hynafol Carmel, byddai The Grasslands Trust yn adfywio coedwig hynafol sydd wedi ei lleoli yng Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Carmel yn Sir Gaerfryddin. Byddai’r arian yn gwella mynediad i’r safle, hyfforddi pobl leol mewn sgiliau cefn gwlad a dod â bywyd gwyllt yn ôl i un o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Prydain.
Trwy’r prosiect Carmel's Ancient Woodland Treasures, byddai The Grasslands Trust yn adfer coetir hynafol yng Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Carmel yn Sir Gaerfyrddin. Byddai’r prosiect yn cynnwys prynu beic cwad a threlar, tirlunio a phlannu. Byddai gwirfoddolwyr hefyd yn cael eu hyfforddi mewn gwaith rheoli coetir er mwyn annog rhywogaethau, planhigion a chynefinoedd brodorol i ddychwelyd.
Byddai Ferndale Skate Park (FSP) Ltd yn Rhondda Cynon Taf yn ymfalchïo wrth dderbyn pleidlais o hyder gan y cyhoedd. Byddent yn gwario’r arian ar ddarparu ystod o offer at ddibenion addysgol a chymdeithasol yn y ganolfan gweithgareddau ieuenctid yng Nglyn Rhedynog, gan gyfoethogi'r gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal a fydd yn arwain at hyrwyddo perthnasau da a ffordd o fyw iach.
Nos Fercher bydd Ysgol Gynradd Bryn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn brwydro yn erbyn 1st Llanelli Scout Group yn Sir Gaerfyrddin.
Byddai Ysgol Gynradd Bryn yn defnyddio’r arian i redeg y prosiect Health and Fitness Through Learning trwy sefydlu amgylchedd addysgol awyr agored ar dir yr ysgol. Byddai'n cynnwys llwybr taclus a gardd amlsynhwyraidd i hyrwyddo ffordd o fyw iach ymhlith disgyblion yr ysgol.
Byddai’r grant yn galluogi’r 1st Llanelli Scout Group yn Sir Gaerfyrddin i redeg y prosiect Phoenix ac adnewyddu’r neuadd sgowtiaid i ddarparu amgylchedd modern a diogel ar gyfer pobl ifanc. Byddai’r grant yn talu am gostau adnewyddu a mynediad i'r anabl.
Bydd hi’n frwydr rhwng y Gogledd a’r De Ddydd Iau 27 Tachwedd, wrth i brosiect COMART yn Abertawe frwydro yn erbyn prosiect St Annes Creative Learning Spaces yn Wrecsam.
Trwy gyflogi artist cymunedol a thalu am ddeunyddiau ac offer celf, bydd y prosiect COMART, a redir gan Dŷ Fforest Community House yn Abertawe, yn taflu lliw dros y gymuned trwy ddarparu cyfleoedd i'r gymuned leol ddysgu sgiliau artistig newydd er mwyn codi eu hyder a’u sgiliau.
Trwy brynu offer chwarae newydd a thirlunio, byddai eu gwrthwynebwyr yn y Gogledd, Ysgol Gynradd Gatholig St Annes, yn rhedeg y prosiect St Annes Creative Learning Spaces, gyda’r nod o weddnewid y maes chwarae llwm cyfredol yn amgylchedd dysgu creadigol.
Bydd y llinellau ffôn pleidleisio yn agor am 9am ar y diwrnod y bydd y prosiectau yn ymddangos ar ITV a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi'r diwrnod wedyn.
Dywedodd Ceri Doyle, Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae cystadleuaeth Miliynau’r Bobl yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn ac mae’n argoeli i fod y gystadleuaeth fwyaf cyffrous eto, gyda phump o brosiectau yng Nghymru yn sicr o gipio £50,000 yr un. Bydd pobl yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau trwy bleidleisio dros y prosiectau y credant a fydd yn cael yr effaith fwyaf yn eu rhanbarth. Mae prosiectau gwych yn cystadlu a bydd gan bleidleiswyr benderfyniadau anodd eu gwneud wrth benderfynu pa achosion da y byddwn yn eu hariannu.”
Dywedodd cyflwynydd newyddion ITV Wales Tonight, Andrea Benfield: “Mae ITV a’r Gronfa Loteri Fawr wedi sefydlu perthynas weithio gref ac rydym wrth ein boddau ein bod yn cefnogi Miliynau’r Bobl. Dyma ein pedwaredd flwyddyn o bartneriaeth ac rydym wedi helpu i ddosbarthu grantiau sy’n gwneud cyfanswm o ymron i filiwn o bunnau i brosiectau ar draws Cymru. Mae’r arian hwnnw wedi helpu i gyfoethogi bywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws y wlad ac eleni rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan wrth ddyfarnu mwy o grantiau.”
Bydd y galwadau yn costio 10c fesul galwad o linell BT, gallai galwadau o rwydweithiau eraill amrywio a bydd galwadau o ffonau symudol yn sylweddol uwch. Unwaith y bydd y costau gweithredu wedi’u hadennill bydd unrhyw refeniw ffôn sy’n weddill yn cael ei gyfrannu i elusen. Nid yw ITV na’r Gronfa Loteri Fawr yn elwa o’r rhifau ffôn pleidleisio.
Gwybodaeth Bellach
Swyddog y Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 08448 810 202
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
| Rhanbarthau darlledu ITV ym Miliynau’r Bobl: |
| ITV Anglia (East) |
| ITV Anglia (West) |
| ITV Border |
| ITV Central (East) |
| ITV Central (West) |
| ITV Cymru |
| ITV Granada |
| ITV London |
| ITV Meridian (South) |
| ITV Meridian (South East) |
| ITV Thames Valley |
| ITV Tyne Tees |
| ITV West |
| ITV West Country |
| ITV Yorkshire |
| STV Central |
| STV North |
| UTV |
- Mae 89 o ddyfarniadau ar gael ar draws y DU – pedwar enillydd ac un dyfarniad bonws ar gyfer pob un o 18 rhanbarth ITV (ac eithrio Thames Valley lle bydd tri dyfarniad ac un dyfarniad bonws).
- Dyddiad allweddol Miliynau’r Bobl ar gyfer y dyddiaduron:
24 - 28 Tachwedd 2008: Darlledu cystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar ITV
- ·Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth yw ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol trwy weddnewid yr amgylchedd lleol.
- ·Y Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, sy’n gyfrifol am ddosbarthu hanner yr arian achosion da a godir gan y Loteri Genedlaethol.
- ·Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i gyflwyno gwelliannau gwirioneddol i gymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus ac mae wedi bod yn cyflwyno grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Sefydlwyd y Gronfa yn ffurfiol gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- ·Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt a wariwyd gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. Yn sgil hynny, mae £22 biliwn bellach wedi’i godi ac mae mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags