- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 10 6 2008
MAE grwpiau â bysedd gwyrdd ledled Cymru heddiw yn derbyn cannoedd o filoedd o bunnau mewn grantiau gwyrdd gan y Gronfa Loteri Fawr, sy’n golygu fod mwy na 40 o sefydliadau llawr gwlad yn trawsnewid mannau lleol ar gyfer bobl leol.
Nod yr ymgyrch Llefydd i Natur sy’n cael ei arwain gan y BBC yw dod a chymunedau yn agosach at natur. Mae’r cynllun grantiau DU gyfan y Gronfa Loteri Fawr wedi galluogi miloedd o bobl i gyd-weithio i greu ‘lle i natur’ i’w hunain a bywyd gwyllt. Mae dyfarniadau grant heddiw yn dathlu buddsoddiad o gyfanswm o £8.5 miliwn i mewn i fannau gwyrdd o dir prysg i barciau dinas ag o dir diffaith i goedwig.
Dywedodd Kate Humble, Cyflwynydd BBC Springwatch: “Mae hwn yn newyddion gwych i fywyd gwyllt a phobl. Mae Llefydd i Natur yn agor ledled y DU mewn parciau a gerddi, ysgolion a mannau cymunedol. Yn fawr neu’n fach, mae’r ardaloedd bywyd gwyllt yma yn gwneud gwahaniaeth, nid yn unig i natur ond hefyd wrth roi’r esgus perffaith i bobl leol i fynd tu allan a mwynhau’r byd naturiol sydd ar garreg eu drws.”
Heddiw bydd gan 40 prosiect o bob cwr o Gymru eu hesgidiau glaw a rhawiau yn barod i greu hafan i’w cymunedau i’w fwynhau wedi iddynt dderbyn grantiau o hyd at £10,000.
Un o’r prosiectau llwyddiannus yng Nghymru yw Prosiect Gerddi Erlas sydd wedi ei lleoli yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Yn swatio yn nhir wyth acr Neuadd Erlas, mae’r prosiect yn darparu hyfforddiant achrededig a phrofiad gwaith mewn garddwriaeth ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu. Gyda’r £9,995 maent wedi ei dderbyn, bydd y grŵp yn rhedeg prosiect i wella’r gerddi sy’n bodoli eisoes drwy osod bocsys adar ac ystlumod gyda chamerâu gwyliadwriaeth wedi eu hymgorffori, datgelydd ystlumod, ymborthwr adar a chuddfan adar. Bydd hyn yn annog mwy o fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau ecolegol drwy ddarparu gweithgareddau mewn garddwriaeth a fydd yn hyrwyddo cadwraeth, amddiffyniad a gwellhad yr amgylchedd naturiol.
Yn hapus iawn â’r dyfarniad, dywedodd Ann Morton, Cydlynydd Datblygu Prosiect i Brosiect Gerddi Erlas: “Rydym wrth ein boddau gyda’r dyfarniad a bydd y myfyrwyr sy’n dod yma bob dydd yn cael gwir fudd o’r arian. Yn awr gallwn wella cyflwyniad hyfforddant sylfaenol a chreu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr i gymryd rôl weithredol trwy weithdai a gwirfoddoli. Bydd yr arian yn ein galluogi ni i gymryd cam mawr ymlaen gyda’n amcanion tymor hir ac i wella’n helaeth yr amgylchedd lleol er budd y gymuned leol.”
Hefyd yn sicrhau arian Llefydd i Natur y gwanwyn yma mae Ysgol Gynradd Gymraeg Y Wern yn Ystalyfera, De Cymru. Gyda’r £2,700 a ddyfarnwyd, bydd yr ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg yng Nghastell Nedd Port Talbot yn rhedeg Prosiect Gwarchodfa Natur Y Wern, sydd â’r nod o ail ddatblygu man pwll sy’n gyfagos â’r ysgol i greu cynefin dŵr newydd. Drws nesaf i’r pwll, bydd coed brodorol a phlanhigion yn cael eu plannu i greu man bywyd gwyllt. Bydd llwybr newydd hefyd yn cael ei adeiladu i ddarparu mynediad anabl llawn i’r lle i natur. Bydd yr ysgol hefyd yn gweithio gyda’r Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf ar y prosiect.
Gan edrych ymlaen at gychwyn y prosiect, dywedodd Kevin Davies, yr athro yn ysgol sydd wedi datblygu’r prosiect gyda’r disgyblion: “Bydd gan ddefnyddwyr cadair olwyn yn awr fynediad llawn i’r ardd a bydd gan ddisgyblion yn yr ysgol noddfa ble gallant ymlacio, astudio a mwynhau eu hunain. Rydym eisoes yn gysylltiedig gyda phob peth amgylcheddol yn yr ysgol ac yn ddiweddar dechreuodd y disgyblion gompostio a phlannu 30 o goed ar y safle. Bydd yr arian yn ein helpu i ehangu ar yr hyn sydd eisoes yma ac yn ein galluogi ni i ddatgelu’r disgyblion i ddysgu am yr awyr agored a’r amgylchedd. Unwaith y bydd wedi ei gwblhau, bydd y gymuned leol hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r safle tu allan i oriau ysgol ac ar benwythnosau.”
Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Cymru y Gronfa Loteri Fawr: “Mae’r cynllun ar y cyd yma rhwng y Gronfa Loteri Fawr a’r BBC wedi dal sylw pobl ledled Cymru. Gyda dwsinau o lefydd i natur yn awr wedi eu creu neu ar gychwyn, gall miloedd o bobl werthfawrogi’r gwahaniaeth y gall man gwyrdd ei wneud i gymuned, eu hamgylchedd a bywyd gwyllt lleol.”
Mae mwy o wybodaeth am Lefydd i Natur ar gael yn www.bbc.co.uk/breathingplaces ac mae rhestr lawn o grantiau a ariannwyd o dan y rhaglen yma ar gael yn www.cronfaloterifawr.org.uk
Lawr lwytho rhestr lawn o brosiectau a ariannwyd heddiw (dogfen Word)
- 51KB
Gwybodaeth pellach
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ledled y DU ers ei sefydlu ym Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd yn y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Mae’r rhaglen Llefydd i Natur yn fenter ar y cyd gan y BBC sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr. Ers 2006 mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi dosbarthu £8.5 miliwn i 1073 o brosiectau trwy gynllun grantiau bach ymroddedig, gan ganiatáu i gymunedau drawsnewid eu hamgylchedd leol a chreu mannau gwyrdd sy’n garedig fywyd gwyllt.
Llefydd i Natur y BBC
- Mae Llefydd u Natur y BBC yn ymgyrch bum mlynedd i ysbrydoli pobl i greu a gofalu am fannau gwyrdd ble maent yn byw. Wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth gydag amrediad enfawr o sefydliadau bywyd gwyllt a chadwraeth, mae’r ymgyrch yn annog cynulleidfaoedd newydd i gymryd rhan mewn gwneud un peth dros natur, wrth ddarparu cyfleoedd i Lefydd i Natur y BBC gael eu creu ledled y DU.
- Mae www.bbc.co.uk/breathingplaces yn rhoi manylion ar sut i wneud un peth dros natur ble rydych yn byw o roi ymborthwr adar i fyny i greu lle i natur. Gall y cyhoedd chwilio dros 7,000 o lefydd a digwyddiadau i ddod o hyd i un yn eu hymyl nhw.
- Mae Lle i Natur yn wych ar gyfer bywyd gwyllt a phobl. Mae ganddo gymuned actif o bobl yn creu, mwynhau a’i gynnal.
Tags