Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Prosiect atal digartrefedd yn rhannu cyfran ariannu Fawr

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
19 12 2011

Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n ddiolchgar bod cartref cynnes a chyfforddus yn aros ar ein cyfer yn ystod tywydd garw y gaeaf. Ond meddyliwch am eiliad am y miloedd o bobl yng Nghymru a fydd wedi'u swatio yn y stryd yn trigo i farwolaeth y Nadolig yma.

Dyna pam mae'r Valleys Inclusion Project (VIP) a redir gan Welsh Housing Aid Limited yn dathlu y Nadolig yma ar ôl cael gwybod eu bod ymysg 14 o brosiectau ar draws Cymru sy'n rhannu cyfanswm o £2,832,060. Dyfernir yr arian o dan rownd ddiweddaraf rhaglen Pawb a'i Le'r Gronfa Loteri Fawr, sydd â'r nod o ddod â phobl ynghyd i wneud cymunedau'n gryfach a gwella amgylcheddau gwledig a threfol.

Mae nifer yr aelwydydd y datganwyd eu bod yn ddigartref hyd yn hyn eleni yn y DU 13 y cant yn uwch o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd yn ôl ffigurau a ryddhawyd yn gynharach eleni gan Homeless Link. Dyna pam y bydd Welsh Housing Aid Limited yn gwario'r £306,935 a ddyfarnwyd iddo gan y Gronfa Loteri Fawr ar brosiect a fydd yn atal digartrefedd drwy fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac eithrio cymdeithasol yn ardaloedd awdurdod lleol Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Bydd y prosiect VIP yn darparu cefnogaeth i fuddiolwyr gydag ystod o broblemau, gan gynnwys lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella amodau byw, cyngor ar reoli arian, cytundebau tenantiaeth, cefnogaeth emosiynol, mynediad i addysg a hyfforddiant a chyngor ar broblemau alcohol ac iechyd.

Gan amlygu pwysigrwydd y prosiect, meddai Andrew Jones, Cydlynydd Valleys Inclusion Project: “Mae'r ariannu rydym wedi'i dderbyn gan y Gronfa Loteri Fawr yn bwysig iawn i ni gan iddo ein galluogi i barhau i ddarparu cefnogaeth i aelwydydd yn y ddau fwrdeistref sirol a gwmpasir gan VIP. Mae hyn yn teimlo fel pleidlais o hyder dros y gwaith yr ydym yn ei wneud.

“Rydym yn gweithio gydag aelwydydd sydd mewn perygl o ddigartrefedd o ganlyniad i honiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. I'r aelwydydd hyn, dyma gyfle i weithio gyda VIP i ymdrin ag achosion craidd eu hymddygiad. Mae'r prosiect yn darparu cefnogaeth gyda'r nod o beri newid parhaus er budd yr aelwydydd hynny a hefyd y cymunedau lleol y maent yn byw ynddynt."

A bydd pobl ifanc ddifreintiedig yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn llythrennol yn cael cyfle i rasio tuag at ddyfodol mwy disglair diolch i'r £250,000 a ddyfarnwyd i Bartneriaeth Maesgeirchen ym Mangor i redeg y prosiect Fast Track to Developing Skills and Providing Opportunities. Bydd yr ariannu'n galluogi saith grwp Cymunedau'n Gyntaf a  Chyngor Sir Gwynedd i weithio mewn partneriaeth â Redline Indoor Karting Centre i ddarparu 'Cwrs Mecanyddiaeth Sylfaenol' ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed difreintiedig, gan helpu i'w symbylu, datblygu ystod o sgiliau bywyd a chyfathrebu, a chynnig cefnogaeth ymarferol lawn i'w helpu i gyrraedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.      

Meddai Paul Hockaday, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Marchog: "Rydym ni - y gwirfoddolwyr a'r staff - wrth ein boddau â llwyddiant y cais. Mae'n ein galluogi i estyn prosiect sydd wedi bod yn hynod o fuddiol i bobl ifanc leol ar draws y wlad gyfan. Mae hefyd yn darparu'r adnoddau a'r dilyniant i ni weithio'n llawer mwy manwl ac am gyfnodau hwy i helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial."

“Yn y flwyddyn newydd byddwn yn gweithio gyda'n carfan gyntaf o bobl ifanc gan ddefnyddio ymagwedd fentora wedi'i theilwra. Bydd yn defnyddio ffocws gyrru ceirt i ddarparu cyfleoedd iddynt drafod yr opsiynau sydd ar gael iddynt a'u cynorthwyo i gyflawni eu cyrchnodau - cyrchnodau nad ydynt o bosib wedi’u hystyried yn flaenorol."

Ychwanegodd:  Yn hinsawdd bresennol y dirywiad economaidd, mae'n hollbwysig bod pobl ifanc yn derbyn arweiniad a chefnogaeth wedi'u targedu. Buddion economaidd yw'r rhai amlwg, ond ni ddylem anghofio costau cymdeithasol ac economaidd dadrithio dros yr hir dymor. Mae'r dyfarniad hwn yn rhoi cyfle i ni ymdrin â'r mater er budd y bobl ifanc eu hunain, ac ar ben hynny y cymunedau y maent yn rhan ohonynt."

Yn ne-orllewin Cymru, mae Canolfan Deuluoedd Garnant yn Sir Gâr yn dathlu ar ôl sicrhau £113,740 i sefydlu ystod newydd o wasanaethau newydd yn y ganolfan yng Ngarnant. Bydd y gwasanaethau hyn yn cynnwys grwp Tadau, sesiynau hyfforddi a gweithdai i rieni, man chwarae synhwyraidd a meddal i blant ag anableddau, ac ystafell hyfforddiant a gaiff ei defnyddio ar gyfer clwb gwaith cartref. Bydd y prosiect hefyd yn cysylltu â gardd gymunedol y mudiad i helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau newydd.   

Meddai'r Cydlynydd, Eira Wilshere: Bydd teuluoedd sy'n dod i'r ganolfan yn gallu ymlacio, gan wybod y bydd y drysau'n parhau i fod ar agor ar eu cyfer. Oherwydd diweithdra cynyddol a theuluoedd sy'n wynebu unigedd, mae canolfannau fel hon yn gymorth ac yn llinell fywyd hollbwysig.

“Gyda'r cynlluniau a'r syniadau newydd a chyfleusterau sy'n llawer gwell, mi fydd fel chwa o awyr iach i'r ganolfan gan y bydd yn apelio at deuluoedd newydd, gyda'r nod o ddenu dros 70 o deuluoedd o Garnant a'r cylch dros y tair blynedd nesaf.

Gan amlygu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, meddai Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le, Gareth Newton, "Mae rhaglenni fel Pawb a'i Le'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae'n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau.”

Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael gwybod mwy am y rhaglen Pawb a'i Le a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o ddyfarniadau 
- 48KB
.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                           
Ffôn testun:  0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £26 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH