Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Ieuenctid digartref yn cael eu cyfle gyda hwb ariannol y Loteri

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
6 12 2007
Bydd ieuenctid digartref yn Ne Cymru yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd a bydd gofalwyr ifanc yn cynhyrchu ffilm arbennig i dynnu sylw at yr heriau maent yn eu hwynebu, diolch i hwb ariannol o dros £40,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae deg o brosiectau a ddatblygwyd gan y bobl ifanc eu hunain yn rhannu cyfanswm o £40,817 a ddyfarnwyd drwy adain Dyma dy Gyfle y Gronfa Pobl Ifanc. Mae Dyma dy Gyfle yn helpu pobl ifanc yng Nghymru rhwng 10-19 mlwydd oed i wneud newidiadau positif i’w bywydau.

Bydd yr arian yn helpu i ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc o ystod o wahanol gefndiroedd. Nod y prosiectau yw galluogi i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, mynegi eu hunain mewn ffyrdd newydd a chreadigol a darparu cyfleoedd na fyddai nifer ohonynt yn gallu eu mwynhau fel arall.

Mae tri phrosiect yng Nghasnewydd, De-ddwyrain Cymru yn rhannu cyfanswm o dros £14,000 a ddyfarnwyd yn y sir. Bydd un o’r prosiectau, hostel Solas Cymru i’r digartref yng Nghasnewydd, yn gwario £5,000 ar ddarparu gweithgareddau i’r bobl ifanc ddigartref y tu allan i amgylchedd yr hostel. Ymhlith y gweithgareddau y bydd beiciau cwad, marchogaeth ceffylau, dringo creigiau, saethyddiaeth a gweithdai yn ymdrin â thestunau megis iechyd rhywiol a maeth/bwyta’n iach. Yn y cyfamser bydd ieuenctid yn sefydliad Ringland Community Association Ltd yn gwario eu dyfarniad o £4,999 ar raglen chwaraeon a gweithgareddau i bobl ifanc. Bydd yr ieuenctid yn cael cyfle i ymlacio yn Grŵp Cymunedol Chwaraeon a Gweithgareddau St Julians.  Byddant yn defnyddio eu £4,136 ar greu ardal ymlacio a gwybodaeth mewn canolfan gymunedol leol a fydd yn galluogi i bobl ifanc gael mynediad at wybodaeth, dysgu sgiliau newydd neu’n syml yn gyfle i'w denu oddi ar y strydoedd.

Bydd ieuenctid rhwng 14 a 19 ag anableddau dysgu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden diolch i ddyfarniad o £4,916 i'r sefydliad Every Link Counts.  Ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, bydd Barnardo’s yn gweini prydau iach. Bydd eu dyfarniad o £2,630 yn gwella cyfleusterau’r gegin yn rhan gymunedol eu prosiect tai â chymorth, er mwyn galluogi i rieni ifanc ddatblygu sgiliau coginio’n iach.  

Golau, camera ac ewch fydd hi i Pembrokeshire Mind, gan fod pobl ifanc y prosiect yn bwriadu gwario eu £5,000 ar gynhyrchu ffilm yn ymwneud â’u problemau a’u bywydau.  Bydd ieuenctid ag awtistiaeth yn Sir Benfro hefyd yn elwa. Bydd Cymdeithas Cyfeillion Ysgol Penfro yn defnyddio eu £1,750 er mwyn darparu gweithdai hyfforddi sgiliau coetir i bobl ifanc â lefelau amrywiol o awtistiaeth.

Mae’r llwyfan mawr a’r ddinas fawr yn aros am Glybiau Ffermwyr Ifanc ym Mhowys. Gyda’r £3,816 maent hwy wedi derbyn, bydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfair-ym-muallt yn galluogi i bobl ifanc gynnal dosbarthiadau dawns gyda hyfforddwr dawns cymwys er mwyn ennill sgiliau ar gyfer eu cymhwyster bywyd, dosbarth colur theatr, gweithdy gwneud gwisgoedd, ac ymweliad â Llundain er mwyn mwynhau cynhyrchiad theatr proffesiynol.

Bydd Clwb Ffermwyr Ifanc Erwood hefyd yn gwario eu dyfarniad o £5,000 ar brosiect meithrin sgiliau tîm, a fydd yn cynnwys trip i Lundain ar y trên i ymweld ag amgueddfeydd a gweld sioe gerdd yn y Westend. Bydd yr aelodau hefyd yn aros mewn byncws yng Ngogledd Cymru am dair noson, yn ymweld â Sw Caer, ymweld â Labyrinth y Brenin Arthur, marchogaeth ceffylau, nofio a mynd ar daith ar drên ager.

Hanes a threftadaeth fydd y canolbwynt yn Rhondda Cynon Taf wrth i bobl ifanc sy'n gweithio gyda Anvil Trust Tonyrefail Ltd gofio aberth y rheini a ymladdodd ac a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y prosiect yn gwario £3,570 er mwyn ymchwilio i hanes lleol a chynnal penwythnosau o weithgareddau ar sail treftadaeth tua’r adeg y byddwn yn cofio y 'Rhyfel Mawr'.

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Mike Theodoulou aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc: “Bydd y prosiectau yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu gwersi newydd gwerthfawr, i fod yn greadigol a datblygu sgiliau newydd a chyffrous a mynegi eu hunain o fewn amgylchedd diogel. Dyma enghraifft berffaith o sut gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth mawr, drwy helpu grwpiau i ddatblygu ystod o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.”

Am wybodaeth bellach ynghylch y prosiectau, a manylion cyswllt y grwpiau a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg  y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ar y rhifau isod.

Am wybodaeth bellach ynghylch y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grwpiau wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol i Gymru. Fel arall, cewch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr:  02920 678 207

Cyswllt y tu hwnt i oriau:  07760 171 431

Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030

Ffôn testun:  0845 6021 659

Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
ADBORTH