Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Sibrwd Ceffylau a Syrffio Stryd yn Derbyn Cyfran o Arian i Bawb

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
21 3 2012

Yn y ffilm ddrama Americanaidd ym 1998, The Horse Whisperer, mae Robert Redford yn chwarae hyfforddwr talentog gyda dawn hynod o ddeall ceffylau, ac mae'n cael ei logi i helpu merch yn ei harddegau sydd wedi'i hanafu a'i cheffyl i iachâd ar ôl damwain drasig.

Yn awr, diolch i grant o £5,000 gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr a chan defnyddio technegau tebyg i'r rhai sydd i'w gweld yn y ffilm, mae elusen arloesol newydd wedi'i lleoli yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn anelu at ddefnyddio therapi â chymorth ceffylau i helpu rhai o'r plant mwyaf difreintiedig i ddatblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a hunan-barch a all gyfoethogi eu rhagolwg o gyflogaeth yn y dyfodol.

At ei gilydd bydd 56 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £203,423 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf rhaglen grantiau bach Arian i Bawb (rhestr lawn y dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).

Gyda'u dyfarniad o £5,000, bydd The Penytrip Project wedi'i leoli ar Fferm Pen y Trip, Porthmadog, yn rhedeg prosiect therapi â chymorth ceffylau newydd - y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Bydd pobl ifanc difreintiedig ac sydd wedi'u hallgau'n gymdeithasol â materion ymddygiadol a rheoli dicter yn cael ceffyl neu ferlen wedi'u hachub i weithio â hwy o dan oruchwyliaeth therapydd ceffylau hyfforddedig ar y fferm.

Trwy dechneg o'r enw 'sibrwd ceffylau', byddant yn hyfforddi ac yn meithrin bond ymddiriedaeth gyda'u ceffyl. Ac wrth iddynt ddechrau deall yr effaith y mae tôn eu llais, eu hanadlu ac iaith eu corff yn gallu'i chael ar greadur byw arall, bydd newidiadau pwerus mewn materion ymddygiadol, rheoli dicter a lefelau hunanbarch yn cael eu tystio.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y prosiect, a fydd yn dechrau ym mis Ebrill, dywedodd Lindsey Mitchell, y Rheolwr Prosiect:  "Rydym yn brosiect gweddol newydd a bydd yr arian yn galluogi inni redeg peilot er mwyn adnabod a oes angen ar gyfer y math hwn o brosiect yma. Gyda'r bloc ariannu hwn byddwn yn gweithio gyda phymtheg o blant ifanc."

“Bydd y prosiect hwn yn rhedeg am chwe mis a gobeithiwn weithio gyda phlant o unedau cyfeirio disgyblion, gwasanaethau cymdeithasol neu sydd yn y system gofal ar hyn o bryd. Byddwn yn eu dysgu i ddefnyddio iaith eu corff a'u lleisiau er mwyn cael dylanwad positif ar y ceffylau a'r merlod. Bydd hyn o fudd i bobl ifanc gyda materion ymddygiad a rheoli dicter oherwydd rhaid iddynt ddysgu bod yn weddol dawel yma. Mae'n dda hefyd ar gyfer pobl ifanc sy'n nerfus oherwydd rhaid iddynt fod yn weddol bendant a gofalu am eu hunain.

“Rydym yn ceisio teilwra ein rhaglenni i weithio gyda phlant gydag amrywiaeth eang o anghenion i helpu i wella eu bywydau. Mae paralel rhwng y ffilm o ran y ceffyl a'r merched bach yn y ffilm yn helpu ei gilydd i wella. Mae gennym geffylau sydd â phroblemau a phlant sydd â phroblemau. Ni fyddem wedi gallu dechrau'r prosiect hwn heb arian gan y Loteri Genedlaethol. Gobeithiwn ehangu ar y prosiect os bydd y peilot yn llwyddiannus i gynnwys wyth o blant y flwyddyn o wahanol ardaloedd o Gymru."

Yn Sir Ddinbych, bydd grant o £1,375 yn galluogi i Gymdeithas Preswylwyr Gorllewin Meliden redeg y prosiect Street Surfin in Meliden. Mae Street Surfers yn defnyddio byrddau wedi'u cynllunio'n arbennig sy'n cyfuno llifedd naturiol syrffio gyda symudedd llyfn eirafyrddio a sglefrio. Bydd y prosiect yn darparu sesiynau syrffio stryd ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd.  

Wrth amlinellu buddion y prosiect, dywedodd Mr Robert Paterson, Cadeirydd Cymdeithas Preswylwyr Gorllewin Meliden: "Gan nad yw'n bosibl darparu parc sglefrio yn y tymor byr cytunwyd y byddai'r grwp yn darparu sesiynau syrffio stryd fel cyflwyniad perffaith gan y gellid ei roi at ei gilydd yn gyflym a’i gynnal mewn ardal gemau amlddefnydd."

“Mae gennym chwe gwirfoddolwr a fydd yn derbyn hyfforddiant a fydd yn galluogi iddynt ddysgu syrffio stryd, darparu gwerthusiadau diogelwch a chynnal y cyfarpar a fydd yn ofynnol i redeg y prosiect.  Bydd hyn yn galluogi i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd a mwynhau gweithgaredd corfforol yn yr awyr agored heb gost a fydd yn datblygu eu hunanhyder.  Bydd y gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant a fydd yn arwain at achrediad ac yn eu hannog i gyfranogi mewn gweithgareddau eraill ar gyfer pobl ifanc."

Ac wrth dynnu sylw at amrywiaeth y prosiectau a ariennir trwy'r rhaglen Arian i Bawb, bydd Troedyrhiw Environemntal Forum ym Merthyr Tudful yn gwario £1,950 ar adeiladu ty gwydr o boteli wedi'u hailgylchu tra bydd Air Training Corps 2416 Squadron y Drenewydd ym Mhowys yn gwario £5,000 ar alluogi i'w cadlanciau ymgymryd â chyrsiau hyfforddi ar ddefnydd TG ac ennill sgiliau wrth saethu at darged.     

Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu i sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu i adeiladu cymunedau cryfach.”

Gellir lawrlwytho ffurflen ymgeisio'r rhaglen, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ei chwblhau a'i dychwelyd yn uniongyrchol drwy e-bost i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae hefyd ar gael ar ffurf copi caled.

Mae ffurflenni ymgeisio ar gael drwy fynd i www.arianibawb.org.uk neu ffonio 0845 4 10 20 30.

Rhestr lawn o ddyfarniadau a gyhoeddwyd heddiw yng Nghymru 
- 59KB
.

Mwy o Wybodaeth

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £100,000 y dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH