- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 14 10 2008
Mae caffi syber yn Neuadd Eglwys Caerffili yn gorfoleddu heddiw, yn sgil newyddion ei fod ar fin elwa o ddyfarniad o dros £110,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae Neuadd Saint Cattwg Community Hall, yng Nghaerffili, wedi derbyn £111,751 o dan y rhaglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy'n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.
Gydag arian y Gronfa Loteri Fawr, bydd y neuadd yn cyflogi Mentor/Rheolwr TGCh llawn amser i redeg y caffi syber a bydd hefyd yn rhwydweithio gyda sefydliadau allanol i ddatblygu prosiectau newydd a pharhau i ddarparu help a chefnogaeth i ddefnyddwyr.
Bydd yr arian yn galluogi’r cyfleuster i gynnig cyngor ac arweiniad, cefnogi cleientiaid wrth ddefnyddio cyfrifiaduron, datblygu polisïau i annog defnydd derbyniol ar gyfrifiaduron, a gweithio gyda sefydliadau partner i gynorthwyo gyda chyflwyno hyfforddiant a monitro ynghyd â datblygu gwasanaethau newydd.
Tra bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno i'r gymuned gyfan, byddant yn targedu yn benodol pobl ifanc, pobl hŷn a phobl sy’n wynebu rhwystrau at ddysgu sy’n byw yn ardaloedd Gelligaer a Phenybryn yng Nghaerffili.
Bydd y neuadd yn parhau i ddarparu cyfleusterau TG a hyfforddiant anffurfiol ar gyfer pobl ifanc a bydd yn ail-lansio'r clwb gwaith cartref. Bydd hefyd yn darparu gwasanaethau i bobl sydd allan o waith, a bydd yn cynnig cyfleoedd dysgu anffurfiol ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu teithio pellteroedd ac sy’n casáu amgylcheddau dysgu ffurfiol, neu nad ydynt erioed wedi cael y cyfle i ddefnyddio offer TG.
Bydd gwasanaethau eraill yn cynnwys mynediad i'r rhyngrwyd a chefnogaeth, hyfforddiant TG anffurfiol, cysylltiadau â darpariaeth addysg leol arall a mentrau hyfforddi yn y gymuned, cyfleoedd gwirfoddoli, grŵp mam a phlant bach, cadw'n heini a dosbarthiadau Tai Chi, boreau coffi a gweithgareddau cymdeithasol a hamdden cyffredinol.
Mewn datganiad ar y cyd, fe fynegodd y Tîm Rheoli yn Neuadd Saint Cattwg Community Hall, eu balchder ar dderbyn y dyfarniad: “Nid yw rai o’r preswylwyr eisiau mynd i'r coleg oherwydd bod yr amgylchedd yn rhy ffurfiol ac maent yn gofyn am gredydau, sy'n codi ofn ar bobl. Mae pocedi o amddifadedd yn y gymuned hon hefyd a cheir problemau gyda’r gost o fynd i'r coleg a chael mynediad at gyfrifiaduron. Bydd y prosiect hwn yn adfywio’r gymuned trwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant sgiliau, a fydd yn arwain at gyfleoedd ar gyfer ennill cymwysterau a chyflogaeth. “
Fe ychwanegodd: “Bydd cysylltiadau cymunedol yn gwella hefyd trwy ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol a helpu pobl ifanc i gael gwell synnwyr o gymuned a dinasyddiaeth. Bydd y cyfleuster hwn hefyd yn gwella trwy ddarparu mwy o wasanaethau a chyfleoedd er mwyn i bobl leol gwrdd a chwarae rhan."
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.
Gwybodaeth Bellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags