- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 21 6 2012
Bydd dros 100 o bobl yn barod am yrfa yn y sector gweithgareddau awyr agored ffyniannus yng Ngogledd Cymru a bydd bron mil o gyfleoedd gwirfoddoli ychwanegol yn cael eu creu i ddysgu sgiliau newydd i bobl yn y diwydiant diolch i ddyfarniad o £420k gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae twristiaeth a chwaraeon awyr agored yn cyfrannu dros £300 miliwn i economi Gogledd Cymru bob blwyddyn. Erbyn hyn, diolch i grant o £420,000 gan raglen Pawb a’i Le’r Gronfa Loteri Fawr, mae mudiad y Bartneriaeth Awyr Agored yng Ngogledd Cymru’n bwriadu manteisio i’r eithaf ar y sector gweithgareddau awyr agored prysur a chreu mwy o gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl leol yn yr ardal.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored (sef Partneriaeth Awyr Agored Gogledd-orllewin Cymru gynt) wedi bod yn gweithredu ers 2005, a’i nod yw hyrwyddo cyflogaeth, addysg, hyfforddiant, mentora a chyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl leol yn y sector awyr agored.
Un o bryderon y mudiad yw lefelau cymryd rhan isel ymysg pobl ifanc leol a lefelau cymryd rhan is ymysg pobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn y sector gweithgareddau awyr agored, y mae gan lawer ohonynt fynediad uniongyrchol i’r cyfoeth o gyfleusterau naturiol yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn golygu bod llai o hyfforddwyr a staff rheoli Cymraeg eu hiaith yn cael eu cyflogi gan y busnesau awyr agored
Trwy’r rhaglen Llwybrau i Gyflogaeth Awyr Agored a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn anelu at gynyddu cynrychiolaeth a chyfranogiad pobl leol, yn enwedig siaradwyr Cymraeg, yn y sector gweithgareddau awyr agored yng Ngogledd Cymru. Bydd tua 900 o wirfoddolwyr yn cael eu recriwtio a’u hyfforddi i ennill cymwysterau’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer ystod o weithgareddau awyr agored megis cymwysterau arweinwyr mynydda, dringo, campau padlo, hwylio a beicio mynydd.
Bydd cynllun mentora yn cael ei ddatblygu hefyd ar gyfer arweinwyr gwirfoddoli a bydd rhaglenni datblygu sgiliau’n cael eu cynnig i 180 o bobl leol sy’n anweithgar yn economaidd. Y nod yw darparu llwybr i gyflogaeth yn y sector ar gyfer o leiaf 110 o bobl. Bydd y prosiect yn targedu 16 ardal Cymunedau’n Gyntaf i gynyddu ymwybyddiaeth o gyflogaeth a gwirfoddoli yn y sector ac mae’n anelu at annog 5,400 o bobl ychwanegol i ymaelodi â chlybiau awyr agored dros dair blynedd. Bydd y grant yn talu cyflogau 3 swyddog amser llawn i gyflwyno’r prosiect.
Ac yntau wrth ei fodd â’r ariannu ac yn edrych ymlaen at ddechrau ar y prosiect tair blynedd, meddai, Paul Frost, Cadeirydd y Bartneriaeth Awyr Agored: “Mae twristiaeth a champau awyr agored yn cyfrannu dros £300m i economi Gogledd Cymru, ac mae’r grant hwn yn helpu i roi pobl leol wrth wraidd y diwydiant awyr agored. Mae’r grant yn rhoi cyfle i ni ddatblygu cefnogaeth a hyfforddiant pellach ar gyfer hyfforddwyr, arweinwyr a gwirfoddolwyr mewn gweithgareddau a champau awyr agored.”
Yn ôl Tracey Evans, Prif Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Awyr Agored, mae gwir angen am brosiect fel yr un yma yng Ngogledd Cymru: Dengys ymchwil fod y sector yn cael ei ddatblygu’n bennaf gan bobl sydd wedi symud i’r ardal. Mae hyn yn cyflwyno risg i’r diwylliant, iaith a threftadaeth leol, gan greu ymdeimlad o estroneiddiad ymysg pobl leol. Felly, mae “cylch cythreulig diwylliannol” yn cael ei ddiffinio: mae lefelau isel o gyfranogiad awyr agored ymysg pobl leol – yn arwain at lefelau cyflogaeth leol isel – yn arwain yn ei dro at lai o ymgysylltu â phobl leol – sy’n golygu lefelau isel o gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.”
“Nod ein rhaglen ‘Llwybrau i Gyflogaeth Awyr Agored’ yw cynyddu cyfranogiad pobl leol, yn enwedig siaradwyr Cymraeg, yn y sector gweithgareddau awyr agored yng Ngogledd Cymru. Bydd ein rhaglen yn cefnogi ystod o unigolion, o’r rhai heb unrhyw brofiad neu â phrofiad cyfyngedig o’r awyr agored i’r rhai sy’n gweithio tuag at ennill eu cymwysterau arweinyddiaeth neu hyfforddi, i fod yn Hyfforddwyr Awyr Agored. Bydd pobl yn ennill hyder, profiad, gwybodaeth a chymwysterau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn yr awyr agored.”

Gan amlygu pwysigrwydd rhaglenni megis Pawb a'i Le, meddai Cadeirydd Cronfa Loteri Fawr Cymru, Syr Adrian Webb: “Mae'r hinsawdd ariannol gyfredol wedi effeithio ar arianwyr, y rhai sy'n cyflwyno gwasanaethau, cyrff statudol ac, yn bwysicaf oll, y bobl rydym yn cydweithio â nhw. Ni ddylid tanamcangyfrif hwn. Trwy raglenni megis Pawb a'i Le, mae ein cenhadaeth i ddod â gwelliannau i gymunedau a bywydau'r bobl fwyaf anghenus yn parhau wrth wraidd popeth a wnawn. A thrwy sianelu arian i brosiectau megis y rhai a ariennir yng Ngogledd Cymru heddiw, byddwn yn parhau i rymuso pobl leol i ddatblygu eu hatebion i'r problemau a'r cyfleoedd sy'n eu hwynebu.”
Bydd prosiect y rhaglen ‘Llwybrau i Gyflogaeth Awyr Agored’ yn dechrau ar 1 Awst 2012. I gael mwy o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Tracey Evans trwy ffonio 01690 720 106 neu e-bostio tracey.evans@outdoorpartnership.co.uk.
Mae'r rhaglen Pawb a'i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol. I gael gwybod mwy am y rhaglen Pawb a'i Le a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100k y diwrnod mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags