- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 31 10 2007
Mae disgwyliadau yn codi ar draws Cymru wrth i grwpiau glywed heddiw y byddant yn cystadlu yng nghystadleuaeth deledu ranbarthol Miliynau’r Bobl ar gyfer arian achosion da y Gronfa Loteri Fawr.
Gall y grwpiau ennill dyfarniadau o hyd at £80,000 yr un ar gyfer eu prosiect cymunedol o’r gystadleuaeth Miliynau’r Bobl rhanbarthol a fydd yn cael eu harddangos ar ITV Wales yn fuan.
Dyma’r drydedd flwyddyn i'r Gronfa Loteri Fawr gydweithio gyda ITV ar y gystadleuaeth. Yn ystod yr wythnos rhwng 26 a 30 Tachwedd, bydd achosion da yn mynd benben ar ITV Wales mewn ymgais i sicrhau cefnogaeth gyhoeddus drwy bleidlais ffôn.
Mae 2007 yn nodi trydedd flwyddyn cystadleuaeth ranbarthol Miliynau’r Bobl ar raglenni newyddion rhanbarthol ar draws 18 o ranbarthau ITV*. Bob nos bydd dau brosiect yn brwydro yn erbyn ei gilydd ac ar ddiwedd yr wythnos, bydd cyfanswm o bum prosiect wedi ennill cyfran o’r £7.8 miliwn o arian achosion da. Bydd y prosiect a fydd yn sicrhau’r nifer fwyaf o bleidleisiau ar ôl y pedwar enillydd yn sicrhau’r pumed lle ac fe gyhoeddir enw’r enillydd hwnnw ar Ddydd Gwener, 30 Tachwedd.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r rhaglen wedi dosbarthu £7.2 miliwn i 139 o achosion da ar draws y DU ac mae 350,000 o bobl wedi pleidleisio dros eu hoff brosiect.
Ddydd Llun, 26 Tachwedd, bydd prosiect Campfa Jyngl ‘Little Monkeys’ Ffarm Cold Barns yn Nhrefddyn, Torfaen yn brwydro yn erbyn prosiect 'Calon Lân' o Fryncynon, Rhondda Cynon Taf.
Pe bai prosiect Campfa Jyngl ‘Little Monkeys’ Fferm Cold Barn yn cael gafael ar y £80,000 byddent yn ei wario ar adnewyddu’r tu allan ac ymestyn ar Ganolfan Gweithgareddau Ieuenctid Fferm Cold Barn er mwyn creu Campfa Jyngl 'Little Monkeys'.
Bydd yr adeilad yn cynnwys ystafell iechyd MOT a fydd yn cynnig rhaglenni iechyd a lles ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc lleol. Bydd cyfleuster hefyd yn cael ei gynnwys i hyrwyddo prosiectau amgylcheddol lleol.
Byddai ei gwrthwynebydd sef prosiect ‘Calon Lân', a redir gan Strategaeth Adnewyddu Cymunedol Bryncynon Cyf, yn darparu man cymunedol ar gyfer pobl leol gan gynnwys cerfluniau a gwaith celf ar dir Canolfan Byw’n Iach a ariannir gan y Gronfa Loteri Fawr ym Mryncynon, Rhondda Cynon Taf. Mae’r prosiect yn cynnwys darparu sesiynau gweithdai celf a fydd yn arwain at gynllunio ac adeiladu darnau celf i'w harddangos.
Y noson ganlynol, Nos Fawrth 27 Tachwedd, bydd prosiect Llwybr Troed Crwn Treffynnon o Dreffynnon, Sir y Fflint, yn cystadlu yn erbyn Parc Chwarae, Hamdden ac Adloniant Dolgellau yn Nolgellau, Gwynedd.
Nod prosiect Llwybr Troed Crwn Treffynnon, a redir gan Grŵp Cerdded St Beunos, yw cyfoethogi a gwella mynediad at lwybrau troed o fewn Treffynnon, gan gynnig mynediad gwyrddach, glanach a mwy diogel i'r gymuned leol a thwristiaid i'r amgylchedd a mannau hamdden a threftadaeth ar hyd y llwybr 5km.
Nod prosiect Parc Chwarae, Hamdden ac Adloniant Dolgellau, a redir gan Bartneriaeth Dolgellau Cyf, yw darparu cyfleusterau newydd ym mharc y dref er mwyn cynnig cyfleoedd hamdden pellach i blant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach. Mae’r broses o ddatblygu’r prosiect drwy gydweithio ar draws y gymuned hefyd yn cael ei ystyried fel rhan allweddol o feithrin hyder a lefelau sgiliau pobl yn ardal Dolgellau.
Bydd yn frwydr arall rhwng y Gogledd a’r De ar nos Fercher, 28 Tachwedd, gan y bydd Prosiect EYST Urban Fix Up o Abertawe yn mynd benben â phrosiect Refurbishment/Regeneration Phase 4 Gladstone ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.
Bydd Prosiect EYST Urban Fix Up yn caniatáu i Dîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig yn Abertawe i uwchraddio’r ganolfan alw i mewn i ieuenctid wrth hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau adeiladu amgylcheddol. Cynhelir y prosiect dros gyfnod o chwe mis a bydd yn hyfforddi 12 o ddynion ifanc ac yn cynnwys 100 o aelodau fel gwirfoddolwyr.
Bydd prosiect Gladstone Refurbishment/Regeneration Phase 4, yn caniatáu i Gyngor Sgowtiaid Ardal Clwyd i uwchraddio’r ganolfan sgowtio er budd y gymuned leol a grwpiau sgowtiaid sy’n ymweld â Gogledd-ddwyrain Cymru, gan gynnig cyfleoedd i fwynhau gweithgareddau awyr agored o fewn amgylchedd diogel, cyfforddus ac o dan reolaeth.
Ar y noson olaf, Nos Iau 29 Tachwedd, bydd prosiect Aber Valley Water Play Feature Phase 2 yng Nghaerffili yn brwydro yn erbyn Disability Eco-Project yn sir gyfagos Blaenau Gwent.
Bydd y prosiect Aber Valley Water Play Feature Phase 2, a redir gan Bartneriaeth Cymunedau Dyffryn Aber, yn cael gwared ar yr hen gyfleuster pwll padlo yn Senghennydd Welfare Park, ac yn gosod system chwarae dŵr cwbl awtomaidd a rhyngweithiol sydd wedi'i chynllunio i gyffroi plant o bob gallu, gan gynnwys y rheini ag anableddau.
Drwy’r Disability Eco-Project, bydd Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Waundeg a Nant-y-bwch yn darparu mynediad i'r anabl at dŷ cymunedol yn Waundeg sydd wedi’i adeiladu o ddeunyddiau cynaliadwy. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys elfen addysgiadol yn ymwneud â materion cynaladwyedd, a fydd yn arwain at arddangosfeydd parhaol.
Cyhoeddir yr enillwyr y diwrnod ar ôl y bleidlais.
Dywedodd Tom Davies, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Miliynau’r Bobl: “Yn nhrydedd flwyddyn Miliynau'r Bobl rydym yn cynnig mwy o arian na'r hyn a ddyfarnwyd yn 2005 a 2006 gyda'i gilydd. Rwy’n argyhoeddedig y bydd dyfarniadau eleni yn cyffwrdd â chalonnau hyd yn oed yn fwy o wylwyr yng Nghymru. Rwy’n eu hannog i godi’r ffôn a phleidleisio dros y prosiectau a fydd yn cael effaith hirdymor ar eu cymunedau lleol yn eu barn hwy.”
Dywedodd Elis Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolydd Rhaglenni ITV Wales: “Mae hyn yn newyddion gwych ac mae’n braf gweld pobl o bob cwr o Gymru yn elwa o Filiynau’r Bobl. Mae ITV Wales yn edrych ymlaen at helpu’r gwylwyr i benderfynu pwy fydd yn elwa o'r fenter werthfawr hon."
Rhifau ffôn pleidleisio – yn yr un modd â’r arfer, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na'r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o'r rhifau ffôn pleidleisio.
Yn ystod yr wythnos ar ôl cystadleuaeth ranbarthol Miliynau'r Bobl ar y teledu, bwriada’r Gronfa Loteri Fawr ac ITV1 ddangos Dyfarniad £50 Miliwn y Bobl y Loteri ar nosweithiau olynol lle bydd pedwar prosiect o bwysigrwydd cenedlaethol yn cystadlu am bleidlais y cyhoedd i ennill dyfarniad anferth o £50 miliwn o bunnau gan y Gronfa.
Gwybodaeth pellach
Swyddog y Wasg y Gronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV: Sally Holmes ar 02920 590 746
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
Rhanbarthau darlledu ITV ym Miliynau’r Bobl:
ITV Anglia (East), ITV Anglia (West), ITV Border, ITV Central (East), ITV Central (West), ITV Granada, ITV London, ITV Meridian (South), ITV Meridian (South East), ITV Thames Valley, ITV Tyne Tees, ITV Wales, ITV West, ITV West Country, ITV Yorkshire, stv Central, stv North, UTV
Dyddiad allweddol Miliynau’r Bobl ar gyfer y dyddiaduron: 26 - 30 Tachwedd 2007, Darlledu cystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar ITV
- Mae 90 o ddyfarniadau ar gael ar draws y DU – pedwar enillydd ac un dyfarniad bonws ar gyfer pob un o 18 rhanbarth ITV.
- Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth oedd ariannu prosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol drwy weddnewid yr amgylchedd lleol. Eleni mae prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd neu gyfleusterau ar gyfer mwynhau’r amgylchedd lleol hefyd wedi’u hychwanegu at y meini prawf ariannu.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £2 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob 24 awr ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws y DU bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Rhifau ffôn pleidleisio – yn yr un modd â’r arfer, bydd ITV a’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhifau ffôn cost isel. Nid yw ITV na'r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o'r rhifau ffôn pleidleisio.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un bryd fe gymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Y Gronfa Gymunedol) y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff cyfun er mwyn symleiddio ariannu’r meysydd hynny sy’n gorgyffwrdd ac i sicrhau bod arian y Loteri yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian.
Tags