Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dyfarniadau’r Loteri yn gwella bywydau Pawb a’i Le yng Nghymru

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
27 8 2008
Mae prosiect i roi mynediad i bobl gydag anableddau i weithgareddau hamdden prif ffrwd yn Ne Cymru a phrosiect i ailwampio parc Cofeb Ryfel yng Ngogledd Cymru ymhlith llu o grwpiau ar draws Cymru i elwa o hwb ariannol o dros £2.2 miliwn, a gyhoeddir heddiw trwy raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr.

Mae cyfanswm o £2,238,778 wedi’i ddyfarnu i dri phrosiect ar ddeg ar draws Cymru, ac y mae pob un ohonynt yn anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol (rhestr lawn o brosiectau ar ddiwedd y datganiad).

Gyda’r £208,676 maent wedi’i dderbyn, bydd sefydliad Every Link Counts ym Mhen-y-bont ar Ogwr, De Cymru yn rhedeg prosiect i helpu pobl gydag anableddau dysgu i gael mynediad at weithgareddau hamdden prif ffrwd. Bydd y prosiect yn sefydlu fframwaith lle bydd buddiolwyr, gyda chefnogaeth cynghorwyr a gwirfoddolwyr, yn cynllunio ac yn trefnu eu gweithgareddau eu hunain. Bydd hyn yn galluogi i bobl gydag anableddau dysgu i integreiddio gyda phobl yn eu cymunedau lleol.

Yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, bydd Parc Cofeb Ryfel Corwen yn gwario £81,057 ar ailwampio offer chwarae plant a’u disodli a darparu ardal bicnic ac eistedd ym Mharc Cofeb Ryfel Corwen. Ym Mhowys, canolbarth Cymru, bydd Cynllun Trafnidiaeth Cymunedol Llanidloes a’r Cylch yn defnyddio’r £124,924 maent wedi’i dderbyn i gyfoethogi cynllun trafnidiaeth gymunedol bwrpasol ar gyfer pobl hŷn sy’n arunig yn wledig, pobl anabl a gofalwyr sy’n byw ym Mhowys. Ynghyd â phrynu a rhedeg bws mini newydd wedi’i addasu ar gyfer pobl anabl, bydd yr arian hefyd yn ariannu cyflogau Cydlynydd Cynllun, tri o Dechnegwyr a Gyrwyr rhan amser ac un Swyddog Gweinyddol rhan amser.

Wrth dynnu sylw at effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn ei chael ar gymunedau ar draws Cymru, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a’i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.

“Mae Pawb a’i Le yn gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau llawer o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.

Rhestr lawn o brosiectau:

     
Pen-y-bont ar Ogwr – 1 Grant gwerth £208,676Every Link CountsSir Pen-y-bont ar OgwrBydd y prosiect yn helpu pobl gydag anableddau dysgu i gael mynediad at wasanaethau hamdden prif ffrwd. Bydd y prosiect yn sefydlu fframwaith lle bydd buddiolwyr, gyda chefnogaeth cynghorwyr a gwirfoddolwyr, yn cynllunio ac yn trefnu eu gweithgareddau eu hunain. Bydd hyn yn galluogi i bobl gydag anableddau dysgu i integreiddio gyda phobl yn eu cymunedau lleol.£208,676
Caerdydd – 2 Grant gwerth £244,790Cymdeithas Henoed Tsieineaidd Caerdydd CaerdyddGwasanaethu pobl Tsieineaidd dros 55 oed sy’n byw yng Nghaerdydd ac ardaloedd cyfagos trwy ddarparu canolfan alw i mewn, cyfarfodydd rheolaidd, gwasanaeth allgymorth a gwasanaeth ymweld.£92,784
 Pobl yn Gyntaf CaerdyddCaerdyddBydd y prosiect yn sefydlu grŵp Gweithredu sy’n cynnwys pobl ifanc gydag anabledd dysgu. Bydd y grŵp yn ymgynghori gyda phobl ifanc eraill sydd ag anabledd ac yn cysylltu gyda sefydliadau i ddweud wrthynt sut i wella hygyrchedd yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru. Byddant hefyd yn cynhyrchu pecyn adnoddau, a rhaglen hyfforddi a chefnogi; yn nodi ffyrdd o gysylltu gyda phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar sefydlu a rheoli digwyddiadau cymdeithasol hygyrch ar gyfer pobl ifanc gydag anabledd dysgu.£152,006
Sir Gaerfyrddin – 1 Grant gwerth £63,668Neuadd Bentref a sefydliad FfarmersFfarmers, Sir GaerfyrddinBydd y prosiect yn darparu cae chwarae er budd plant a phobl ifanc sy’n byw ym mhentref Ffarmers, Sir Gaerfyrddin a’r ardaloedd cyfagos. Bydd y grant yn talu am arwyneb, ffens ac offer chwarae.£63,668
Conwy – 1 Grant gwerth £500,000Cyngor Eglwys Blwyfol AbergelePensarn, AbergeleBydd y prosiect yn dymchwel Eglwys a Neuadd Eglwys Dewi Sant, ac yn ailadeiladu Canolfan Gymunedol aml ddefnydd newydd ym Mhensarn, Abergele.  Bydd y Ganolfan Dewi Sant newydd yn cynnwys neuadd sy'n addas ar gyfer amryw weithgareddau, cegin newydd, cyfleusterau toiledau ac ardaloedd eraill gan gynnwys ystafell TG ac ardal Caffi.£500,000
Sir Ddinbych – 1 Grant gwerth £81,057Parc Cofeb Ryfel CorwenSir DdinbychBydd y prosiect yn ailwampio offer ardal chwarae plant a’u disodli (h.y. siglenni, trogylchau ayyb) ac yn darparu ardal bicnic ac eistedd ym Mharc Cofeb Ryfel Corwen, Sir Ddinbych.  Bydd y grant dros gyfnod o flwyddyn yn talu am gyflenwi a gosod offer yn yr ardal chwarae a phicnic a ffens.£81,057
Ynys Môn – 1 Grant gwerth £149, 346Fforwm Anabledd Taran CyfYnys MônBydd y prosiect yn cyflwyno hyfforddiant sgiliau TGCh i grwpiau anodd eu cyrraedd i wella sgiliau, hyder a chyflogadwyedd a lleihau unigedd. Y grwpiau targed yw’r rhieni gydag anableddau, y di-waith yn y tymor hir, pobl hŷn a phobl sy’n ddifreintiedig yn wledig. Bydd gan dros 80% o’r buddiolwyr anableddau.£149,346
Merthyr Tudful – 1 Grant gwerth £60,000Prosiect Ieuenctid a Chymunedol Aberfan a Chwm MerthyrMerthyr TudfulBydd y prosiect, ym Merthyr Tudful, yn datblygu cynllun banc amser ar gyfer pobl ifanc a fydd yn arwain at ostyngiad mewn ymddygiad gwrth gymdeithasol a gwell perthnasau pontio’r cenedlaethau.  Bydd yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau lleol er budd cynyddol y gymuned.£60,000
Powys – 2 Grant gwerth £368,942Cynllun Trafnidiaeth Gymunedol Llanidloes a’r CylchLlanidloes (70%), ardaloedd cyfagos (30%)Bydd y prosiect yn cyfoethogi cynllun trafnidiaeth gymunedol bwrpasol ar gyfer pobl hŷn sy’n arunig yn wledig, pobl anabl a gofalwyr sy’n byw ym Mhowys.£124,924
 Neuadd Goffa LlanfechainPowysBydd y prosiect yn estyn ac yn adnewyddu'r neuadd bentref yn Llanfechain, Powys. Bydd y prosiect yn darparu gofod cymunedol gwell ac ychwanegol ynghyd â siop gymunedol a swyddfa'r post.£244,018
Rhondda Cynon Taf – 1 Grant gwerth £249,994Dragonsavers Credit UnionRhondda Cynon TafBydd y prosiect yn cyfarparu pobl sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf â’r sgiliau angenrheidiol i reoli eu materion ariannol beunyddiol a chynllunio ar gyfer diogelwch ariannol trwy gyflwyno hyfforddiant gallu ariannol, cynhyrchu canllaw poced ar wybodaeth ariannol a chyngor dyledion, mynediad estynedig i’r gronfa dwf a darparu nwyddau gwyn a phecynnau dodrefn ar gost isel.£249,994
Abertawe – 1 Grant gwerth £150,977Canolfan Gofalwyr Abertawe100% Abertawe – Dinas a SirBydd y prosiect yn ceisio yn weithredol i gysylltu gyda gofalwyr yn Ninas a Sir Abertawe, nad ydynt yn cael mynediad ar hyn o bryd at y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael. Bydd y prosiect yn cyflogi Gweithiwr Datblygu Allgymorth a fydd yn ymweld ag amryw ganolfannau cymunedol, grwpiau, clinigau Meddyg Teulu ac ysgolion i roi cyflwyniadau a chyflwyno gweithgareddau codi ymwybyddiaeth. Bydd y prosiect yn cynllunio ac yn adnabod rhaglen o weithgareddau ac yn hyfforddi gofalwyr; gan anelu at ddatblygu eu hunan hyder, lleihau unigedd trwy alluogi iddynt i ddysgu sgiliau newydd, a darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol ar gyfer gwirfoddoli a chyflogaeth.£150,977
Cymru gyfan – 1 Grant gwerth £161,328Dangos y Cerdyn Coch i HiliaethCaerdydd 40%, Abertawe 15%, Wrecsam 15%, Cymru gyfan 15%Bydd y prosiect yn cyflwyno gweithdai gwrth-hiliaeth, cystadlaethau a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth trwy gyfrwng chwaraeon i bobl ifanc ar draws Cymru, gan ganolbwyntio ar Gaerdydd, Abertawe a Wrecsam.£161,328

Gwybodaeth Bellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn Testun:  845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Iechyd a lles
  • Cymunedau Cryfach
  • Yr Amgylchedd
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau

Categori

  • Adfywio
ADBORTH