- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 24 5 2007
Mae haf llawn antur ar y gweill i nifer fawr o bobl ifanc De Cymru, diolch i hwb ariannol o bron £20,000 gan y Gronfa Loteri Fawr i bedwar prosiect a’u datblygwyd gan bobl ifanc.
Bydd y prosiectau yn rhannu cyfanswm o £19,140 a ddyfarnwyd trwy ffrwd Dyma Dy Gyfle y rhaglen Cronfa Pobl Ifanc, sy’n helpu i wneud newidiadau positif i bobl ifanc rhwng 10 a 19 oed yng Nghymru.
O weithgareddau antur i weithdai ymwybyddiaeth cyffuriau, bydd pobl ifanc yng Ngheredigion, Casnewydd, Sir Benfro, Abertawe a Bro Morgannwg yn cael haf i’w gofio diolch i’r arian.
Gyda’r £4,333 maent wedi ei dderbyn, bydd Profiad Theatr Ieuenctid Beaufort yn darparu gweithgareddau haf i bobl ifanc yn ardal St Julians, Casnewydd, a fydd yn cynnwys tripiau i Lundain, Oakwood a’r West Midlands Safari Park a gweithgareddau megis beicio cwad, pledu paent a syrffio.
Bydd pobl ifanc yn Sir Benfro a Cheredigion yn mynd i’r afael a’u hochr greadigol drwy gyfres o weithdai hwyliog ac addysgol. Bydd dyfarniad o £5,000 yn caniatáu i’r Travellers School Charity redeg prosiect a fydd yn galluogi teithwyr ifanc i ddarparu man gweithgaredd ymwybyddiaeth iechyd ac adeiladu hyder ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau mewn dau ddigwyddiad dros yr haf. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys gweithdai ymwybyddiaeth cyffuriau a fydd yn cyfleu’r neges trwy ffilm a gwaith celf.
Bydd y Prosiect Down To Earth yn Abertawe yn gwario eu dyfarniad o £4,920 i alluogi grŵp o bobl ifanc datgyweddog i gyfnerthu sgiliau a gafwyd ar raglen cwricwlwm amgen a mynychu man preswyl gwersylla a gweithgaredd am bedwar diwrnod i gyfnerthu y gallu i weithio mewn grŵp.
Bydd pobl ifanc ym Mhenarth, Bro Morgannwg, yn cymysgu a dysgu sgiliau newydd mewn gŵyl a fydd yn eu darparu â gwledd llawn hwyl o ddiwylliant trefol. Mae Prosiect Ieuenctid Penarth Cyf wedi derbyn £4,887 i ddarparu “diwrnod gŵyl ieuenctid” a gweithgareddau a fydd yn cynnwys gweithdai DJ, sglefr fyrddio ar rampiau proffesiynol, gweithdai celf, dawnsio breg, gweithdai ASBO, gweithdai camddefnyddio sylweddau a stondin wybodaeth.
Gan amlinellu pwysigrwydd rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Aelod pwyllgor Cymru y Gronfa Loteri Fawr a Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc, Mike Theodoulou: “Rwy’n siŵr y bydd yn haf bythgofiadwy i’r bobl ifanc yma. Bydd y prosiect yn eu darparu â chyfle i ddysgu gwersi gwerthfawr newydd, i fod yn greadigol, datblygu sgiliau newydd a chyffrous a mynegi eu hunain mewn amgylchedd ddiogel. Mae’r negeseuon y mae’r grantiau hyn yn eu hanfon at grwpiau eraill yn glir. Os ydych chi’n meddwl y gall rhwng £500 a £5,000 o arian helpu eich grŵp i ddatblygu amrediad o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, yna anfonwch eich cais i’r Gronfa Loteri Fawr.”
Am wybodaeth bellach am y prosiectau, a manylion cyswllt y grwpiau a sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â Swyddfa Wasg Cymru y Gronfa Loteri Fawr dros e-bost neu ar y rhifau isod os gwelwch yn dda.
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Pobl Ifanc ac sut y gall eich grŵp chi ymgeisio am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio sy’n benodol ar gyfer ‘Cymru’. Fel arall, gallwch roi galwad i swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760 171431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar ein gwefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Ar 28 Tachwedd cwblhawyd Gorchymyn y Gronfa Loteri Fawr 2006 (Gwariant penodedig) ei daith Seneddol a death i rym ar Ddydd Gwener Rhagfyr 1af. Gwelodd hynny hefyd y Gorchymyn Diddymu Dosbarthwyr y Loteri Genedlaethol 2006 gan ddiddymu Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol) Y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a Chomisiwn y Mileniwm.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr - y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn adeiladu ar brofiad ac arfer da y cyrff cyfun i symleiddio ariannu yn y meysydd hynny ble maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian y Loteri yn sicrhau y gwerth gorau am arian.
Tags