Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Arian Loteri ar Gyfer Buddsoddiad Mawr i Drawsnewid Clybiau Ieuenctid a Chynyddu Sgiliau 1,900 O Bobl Ifanc

Area:
Cymru
Lloegr
Release date:
11 7 2012
  • PrFont34Bin0BinSub0Frac0Def1Margin0Margin0Jc1Indent1440Lim0Lim1Bydd pobl ifanc ar draws Cymru a Lloegr yn ennill cymwysterau a sgiliau trwy raglen "Volunteer it Yourself" (VIY) arloesol London Youth
  • Bydd crefftwyr lleol Wickes yn mentora ac yn hyfforddi pobl ifanc i adnewyddu 47 canolfan ieuenctid mewn cynllun a gefnogir gan City and Guilds
  • Mae'r cyfryngau wedi’u  gwahodd i weld y prosiect ar waith ac i gynnal cyfweliadau â budd-ddeiliaid allweddol yn lansiad VIY ar ddydd Mercher 11 Gorffennaf o 5:30pm mewn clwb ieuenctid yn Hackney.
    RSVP: emma.kosmin@londonyouth.org.uk

Bydd rhaglen uchelgeisiol newydd sydd â'r nod o roi cyfle i bobl ifanc 14 oed ac yn hyn yng Nghymru ennill sgiliau adeiladu a chrefft cartref achrededig, ac adnewyddu eu canolfannau ieuenctid lleol ar yr un pryd, yn lansio heddiw.

Bydd y cynllun Volunteer It Yourself (VIY), a redir gan yr elusen pobl ifanc, London Youth, gyda chefnogaeth ar ffurf grant o £940,000 gan y Gronfa Loteri Fawr, yn gweld pobl ifanc yn adnewyddu 47 canolfan ieuenctid ar draws Cymru a Lloegr, gan gael eu mentora gan grefftwyr lleol Wickes ac ennill cymwysterau City and Guilds.

Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan Wickes, ac yn ogystal â recriwtio crefftwyr trwy ei rwydwaith cenedlaethol o siopau, mae'r manwerthwr crefft cartref blaenllaw wedi gwneud rhodd o offer a deunyddiau adeiladu ar gyfer y prosiect. Bydd pob clwb ieuenctid sy'n cymryd rhan hefyd yn cael ei baru gyda siop Wickes leol.

Yn lansio'r rhaglen newydd, meddai Prif Weithredwr London Youth, Rosie Ferguson:

“VIY yw un o'r prosiectau mwyaf pwysig ac uchelgeisiol y mae London Youth erioed wedi ymwneud ag ef. Mae'n bwysig oherwydd bod gwasanaethau ieuenctid ar draws y wlad wedi wynebu toriadau yn eu cyllideb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae angen buddsoddiad ar lawer o'r clybiau ieuenctid rydym yn cydweithio â nhw i'w helpu i barhau i gyflwyno'r gwasanaethau y mae eu hangen ar bobl ifanc mewn cymunedau lleol.

"Ac mae'n uchelgeisiol gan i ni gredu bod gan y bartneriaeth rydym wedi'i datblygu y grym i drawsnewid profiadau pobl ifanc o fewn eu clybiau'n wirioneddol, i'w helpu i ddysgu gan bobl hyn fedrus mewn ffordd sy'n fuddiol i bawb o fewn eu cymuned ac yn rhoi gwell cyfle iddynt greu eu gyrfa eu hunain.

“Ar adeg pan fydd diweithdra ymysg pobl ifanc yn parhau'n uchel iawn bydd VIY yn rhoi hwb enfawr i glybiau a phobl ifanc - a chredwn fod hwn yn rhywbeth y gall partneriaethau eraill ei efelychu ac adeiladu arno, er mwyn i fwy o bobl ifanc elwa ohono.”

Mae VIY yn bosib oherwydd grant o £940,000 gan y Gronfa Loteri Fawr, a fydd yn galluogi i'r cynllun gael ei gyflwyno ar draws Cymru a Lloegr. Yn disgrifio pwysigrwydd VIY, meddai Rajay Naik, Aelod Bwrdd y Gronfa Loteri Fawr:

“Mae'r Gronfa Loteri Fawr wrth ei bodd â bod yn cefnogi'r cynllun hwn, a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau miloedd o bobl ifanc.

Deallwn fod hwn yn amser anodd iawn i lawer o bobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith a chyfleoedd hyfforddi. Mae Volunteer It Yourself yn ffordd arloesol o gynnig profiadau gwaith ystyrlon a'r cyfle i ennill cymwysterau gwerthfawr iddynt, y gobeithir y byddant yn cynyddu eu cyfleoedd o sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.

“Y tu hwnt i hynny rydym hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc adnewyddu eu clybiau ieuenctid lleol, gan sicrhau bod ganddynt le diogel i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol am flynyddoedd i ddod.

“Dyma gyfnod heriol i'r genedl ond yn y Gronfa Loteri Fawr rydym yn ymrwymedig - trwy ein buddsoddiadau, partneriaethau a'n rôl genedlaethol - i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i lwyddo beth bynnag yw eu cefndir."

Mae crefftwyr Wickes yn cael eu gwahodd i roi o'u hamser a'u harbenigedd i'r prosiect ar sail wirfoddol, gyda'r nod o gyflwyno dros 50,000 awr o gefnogaeth i wirfoddolwyr ar hyd y rhaglen.

Rhoddodd Cyfarwyddwr Brand Wickes, Tony Holdway, ei sylwadau:

“Y mis diwethaf, datgelodd ffigurau'r llywodraeth fod y ganran o bobl 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi codi 8%. Ar yr un pryd, er bod 60% o grefftwyr wedi dechrau yn y grefft trwy fod yn brentis, gwyddwn nad yw 82% yn cyflogi un ar hyn o bryd, ac mae hynny'n ffigur syfrdanol.** Mae'r prosiect VIY yn pontio'r ddwy broblem hon ac yn darparu ateb effeithiol; hyfforddi pobl ifanc sy'n barod i fod yn brentisiaid i ymdrin ag angen penodol yn y diwydiant. Mae gan grefftwyr Prydain gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ac yn Wickes rydym yn frwd o blaid diogelu hyn ar gyfer y genhedlaeth nesaf o grefftwyr. Yn ogystal â helpu i adfywio clybiau ieuenctid mewn angen, mae hefyd yn manteisio ar arbenigedd a haelioni crefftwyr lleol ein gwlad sydd wrth wraidd eu cymunedau."

Mae lansiad cenedlaethol VIY wedi'i adeiladu ar brosiect peilot cychwynnol llwyddiannus yn Ne Llundain. Mae Clwb Ymddiriedolaeth Ieuenctid a Chymunedol Streatham wedi cael ei drawsnewid o ganlyniad i waith a wnaed gan bobl ifanc leol, gyda chefnogaeth gan ystod o fusnesau.

Meddai Sophie Manzi, 17, un o gyfranogwyr y prosiect VIY peilot:

"Rwyf wedi bod yn mynychu'r clwb ieuenctid yma ers deng mlynedd bellach, ac roedd y cyfleuster wedi mynd yn adfeiliedig ac yn ddi-raen. Felly croesawodd pawb y cyfle i'w adfywio.

“O ganlyniad i VIY agorodd diwydiant nad oeddwn erioed wedi'i ystyried o'r blaen i fyny i mi, ac mae'r achrediad a enillais mewn sgiliau adeiladu a gwaith wedi rhoi gwir fantais i mi wrth symud ymlaen. Fel y rhan fwyaf o bobl ifanc rwy'n pryderu am gael swydd, felly mae ennill sgiliau yn y fan a'r lle a gweithio gyda chrefftwr fel mentor sy'n gwybod y diwydiant yn golygu fy mod yn cael fy mharatoi'n well.

Cynhelir digwyddiad i nodi lansiad cenedlaethol VIY ar ddydd Mercher 11 Gorffennaf am 5.30pm yng Nghlwb Ieuenctid Pedro, 175 Rushmore Rd, Llundain E5 0HD. Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau gan fudd-ddeiliaid y prosiect yn ogystal â chyfle i weld hyfforddiant crefft cartref ar waith gyda phobl ifanc a chrefftwyr Wickes. Mae cyfweliadau ar gael ar gais. Dylai cynrychiolwyr y cyfryngau sydd am fod yn bresennol anfon RVSP at emma.kosmin@londonyouth.org.uk

Mae Clwb Pedro yn un o'r clybiau cyntaf i elwa o fod yn rhan o VIY.

Meddai James Cook MBE, Rheolwr Clwb Pedro:

“Clwb Pedro yw un o glybiau ieuenctid hynaf Llundain erbyn hyn. Mae'n ganolfan a hoffir yn fawr sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau pwysig mewn ardal lle mae llawer o heriau'n wynebu pobl ifanc, felly rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r rhaglen VIY.

“Bydd VIY yn rhoi cyfle i bobl ifanc yng Nghlwb Pedro wella'r cyfleusterau yma, dysgu sgiliau newydd a chreu cysylltiadau gyda gweithwyr medrus o'r gymuned leol.”

Bydd yr hyfforddiant y mae'r bobl ifanc yn ei dderbyn fel rhan o VIY i gyd yn cael ei achredu gan City and Guilds i sicrhau ei ansawdd a sicrhau bod y cyfranogwyr yn manteisio i'r eithaf ar eu profiad. Meddai Chris Jones, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Cyffredinol City and Guilds:

“Mae City and Guilds wrth ei fodd â bod yn achredu'r rhaglen VIY a bod yn bartner iddi. Rydym yn annog pob person ifanc i ddarganfod eu doniau a datblygu eu sgiliau i ddatgloi ei botensial llawn, a heb os nac oni bai bydd y prosiect hwn yn galluogi cyfranogwyr i wneud hynny. Bydd y rhaglen yn galluogi pobl i roi rhywbeth yn ôl i'w cymuned leol, a bydd yn darparu profiadau gwaith a bywyd gwerthfawr ar yr un pryd. Credwn nad oes unrhyw derfyn ar ddysgu, a thrwy gynnig cyfle i bobl ifanc gael blas ar yrfa amrywiol a chyffrous, gobeithiwn y byddwn yn eu rhoi ar y trywydd iawn i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol."

Yn gweithio ochr yn ochr â London Youth i ddatblygu a chyflwynoVIY yw'r Asiantaeth Noddi ar y Cyd (The Co-Sponsorship Agency), mudiad sy'n arbenigo mewn dod â phartneriaethau ynghyd ar draws sectorau i ymdrin â phroblemau a heriau cymdeithasol pwysig. Meddai Tim Reading, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Noddi ar y Cyd:

"Mae VIY yn enghraifft wych o fudiadau gwahanol yn cydweithio i gyflawni rhywbeth arwyddocaol na allai un o'r partneriaid ei gyflawni ar ei ben ei hun. Mae'n ymwneud hefyd â helpu mudiadau i gyfrannu asedau heblaw am arian wrth helpu  i greu buddion ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n gweithio ynddynt, megis sgiliau a doniau eu cyflogeion a'u cwsmeriaid, yn ogystal â'u nwyddau a'u cyfleusterau."

Nodiadau i Olygyddion

Pobl gyswllt

I gael cyfweliadau, neu i drafod cyfleoedd tynnu lluniau neu ffilmio mewn un o'r clybiau neu gyda phobl ifanc, ffoniwch Shivangee Patel ar 020 7549 8802 neu 07736619606 neu Jim Minton ar 020 7549 8819 neu 07736 619596.

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr 020 7211 1888, Tu allan i oriau:  07867 500 572, Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030, Ffôn testun: 08456 021 659

Ymchwil a ddyfynnwyd yn y datganiad

** Ymchwil Wickes a gyflawnwyd gan 72point fis Chwefror eleni gyda 500 o grefftwyr ledled y wlad. Dyfynnir ffigurau eraill o ddata'r llywodraeth yn

http://www.guardian.co.uk/education/2012/jun/28/pupils-staying-in-school-after-16

Ynglyn â'r partneriaid VIY

Mae London Youth yn rhwydwaith o 400 mudiad cymunedol sy'n gwasanaethu 75,000 o bobl ifanc a'u teuluoedd mewn cymdogaethau ar draws holl fwrdeistrefi Llundain. Rydym eisiau i bawb sy'n tyfu i fyny yn Llundain ac o'i chwmpas fwynhau mynediad i waith ieuenctid o safon - gweithgareddau strwythuredig a datblygiadol, rhywun i siarad â nhw a grwp cymheiriaid cadarnhaol - oll o fewn amgylchedd diogel, ysgogol a chefnogol.

Cenhadaeth London Youth yw helpu pobl ifanc i fod y gorau y gallant. Mae ganddo weledigaeth un o fod mewn un o ddinasoedd gorau'r byd lle mae pob person ifanc yn cael ei werthfawrogi a’i herio i wneud hynny, beth bynnag yw eu cefndir.

Gwnawn hyn yn Llundain trwy ystod o raglenni cyfoes sy'n esblygu trwy'r amser, gan ymwneud â gweithredu ieuenctid ac arweinyddiaeth ieuenctid, datblygiad trwy chwaraeon, cyflogadwyedd, yr amgylchedd, mynd i'r afael â throseddu ieuenctid, hyfforddiant gwaith ieuenctid, Marc Ansawdd London Youth (ein cynllun sicrhau ansawdd sydd wedi'i achredu gan City and Guilds), a'n dwy ganolfan breswyl awyr agored, Woodrow High House a Hindleap Warren, sydd hefyd yn cynnal Activenture, ein hwythnosau antur preswyl ar gyfer pobl ifanc ag anableddau.

Mae manylion llawn gwaith London Youth ar y wefan: www.londonyouth.org

Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.  Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers mis Mehefin 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £4.4biliwn.

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888, Tu allan i oriau:  07867 500 572, Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030, Ffôn testun: 08456 021 659

Mae manylion llawn gwaith, rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Mae gan Wickes dros 200 o siopau ar hyd a lled y wlad ac mae'n frand sefydledig o fewn marchnad crefft cartref y DU. Mae'r siopau wedi'u llunio i apelio at gwsmeriaid sydd o ddifrif am grefft cartref a chyflawni prosiectau mwy cymhleth, a chrefftwyr sy'n cyflawni gwaith atgyweirio cyffredinol, prosiectau cynnal a chadw / gwella mewn aelwydydd. Mae Wickes hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio a gosod ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi.

Mae'r Asiantaeth Noddi ar y Cyd / The Co-Sponsorship Agency (CoSpA)yn arbenigo mewn creu, cyflwyno a gwella prosiectau gweithredu cymdeithasol trwy adnabod a galluogi cyfleoedd partneriaeth ac ariannu ar draws sectorau. Mae'r rhan fwyaf o'i gwaith yn canolbwyntio ar feysydd fel addysg a hyfforddiant, menter gymdeithasol, iechyd a chwaraeon, a gwirfoddoli a chydlyniant cymunedol. Mae rôl CoSpA gyda VIY yn cynnwys datblygu'r cysyniad gwreiddiol, rhoi partneriaethau ar waith a rhannu tasgau rheoli prosiect a chyflwyno gyda London Youth.

City and Guilds yw mudiad addysg alwedigaethol blaenllaw y DU. Gyda thros 130 mlynedd o brofiad, rydym yn cynnig mwy na 500 o gymwysterau ar draws 28 diwydiant ac yn dyfarnu tua 2 filiwn o dystysgrifau bob blwyddyn. Ein diben craidd yw galluogi pobl a mudiadau i ddatblygu eu sgiliau er twf personol ac economaidd, a gwnawn hyn trwy helpu i lunio polisïau addysg o fewn y dirwedd economaidd ehangach.

Er bod City and Guilds yn fudiad byd-eang, rydym yn ymroddedig o hyd i gefnogi'r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio oddi mewn iddynt. Deallwn fod yn rhaid i'n dylanwad ar yr amgylchedd o'n cwmpas gael ei ymgorffori mewn ymagwedd fusnes sy'n cynnwys y gymuned ehangach. Mae gan ddysgu y grym i drawsnewid bywydau, ac rydym ni'n gyfrifol am adnabod yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu ac am gydweithio â nhw er mwyn iddynt gyflawni eu potensial. Er enghraifft, rydym yn cyfrannu'n rheolaidd at gynlluniau gwirfoddoli ac yn darparu bwrsariaethau ar gyfer y sawl na allant roi cefnogaeth ariannol i'w datblygiad. Trwy VIY, rydym yn rhoi i bobl y cyfleoedd y mae arnynt eu hangen i lwyddo.


Tags

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Pobl Ifanc
ADBORTH