- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 15 8 2007
Bydd diogelwch a chydlyniad ymysg bechgyn ifanc o gefndiroedd ethnig yn Abertawe yn gwella a bydd gan bobl ifanc anabl yng Nghymoedd De Cymru fynediad gwell at fwy o gyfleoedd hamdden, diolch i grant o dros £1.2 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae pobl ifanc ar draws De Cymru yn llawenhau yn dilyn y newyddion y byddant yn elwa o gyfanswm o £1,241,737, a ddyfarnwyd i nifer o brosiectau o dan Gronfa Pobl Ifanc y Gronfa Loteri Fawr. Elwodd pum prosiect o’r arian a ddyfarnwyd o dan y rhaglen £6.2 miliwn ‘Help Llaw’, sydd yn amcanu i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sydd mewn perygl o ddod, neu sydd eisoes yn anfodlon a datgyweddog, yn arbennig mewn cymunedau dan anfantais.
Mae prosiectau sy’n gweithredu dros siroedd Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe yn rhannu’r dyfarniadau. Bydd yr arian yn cael ei wario ar amrediad eang o fentrau a fydd yn helpu pobl ifanc o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a galluoedd.
Gan amlinellu pwysigrwydd y rhaglen Help Llaw, dywedodd Aelod Pwyllgor Cymru y Gronfa Loteri Fawr a Chadeirydd y Pwyllgor Cronfa Pobl Ifanc, Mike Theodoulou: “Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi bod yn weithredol iawn wrth gefnogi pobl ifanc yng Nghymru dros y blynyddoedd a does dim amheuaeth gen i y bydd gan y prosiectau yr ydym wedi eu hariannu heddiw fuddion pell gyrhaeddol i gannoedd o bobl ifanc o gymunedau a chefndiroedd gwahanol yn Ne Cymru.”
Bydd dyfarniad o bron i chwarter miliwn o bunnoedd (£248,914) yn galluogi Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig yn Abertawe i redeg prosiect sydd â’r nod o gynyddu diogelwch cymunedol a chydlyniad ar gyfer bechgyn ifanc ethnig. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy raglen bartneriaeth o safleoedd gwaith ar gyfer unigolion a hyfforddiant ymwybyddiaeth diwylliannol ar gyfer asiantaethau sy’n cymryd rhan.
Bydd pobl ifanc anabl hefyd yn profi’r buddion. Bydd tua 160 o bobl ifanc gydag anableddau sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf yn cael cyfleoedd i gael mynediad at amrediad o chwaraeon prif lif a gweithgareddau hamdden diolch i grant o £211,324 a ddyfarnwyd i’r Prosiect Viva. Nod y prosiect yw gwella hyder a hunan barch pobl ifanc anabl a’u helpu nhw i integreiddio yn eu cymunedau eu hunain.
Bydd Cymru Ddiogelach Cyf yng Nghaerdydd yn gwario eu dyfarniad nhw o bron i £300,000 ar brosiect i ddatblygu Warws Glan yr Afon fel darpariaeth i’r ieuenctid i wasanaethu pobl ifanc yng Nglan yr Afon, Grangetown & Canton. Bydd gweithgareddau yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd cymdeithasol, chwaraeon, diwylliannol, artistig a chymunedol i hyrwyddo cydlyniad cymunedol, integreiddiad cymdeithasol, gwaith tîm a chynnydd mewn hyder a pharch. Bydd hefyd sesiynau cyngor a gwybodaeth i bobl ifanc yng nghlybiau gwaith cartref Somali a Bangladeshi. Roedd y prosiect hefyd yn enillydd lwcus iawn yn ôl yn Nhachwedd 2006, pan enillodd £50,000 trwy gystadleuaeth Miliynau’r Bobl y Gronfa Loteri Fawr ac ITV. Gwariwyd yr arian ar adnewyddu’r adeilad yn Riverside.
Gofalwyr ifanc yw plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy’n edrych ar ôl rhieni a pherthnasau eraill sy’n anabl neu sy’n byw ag amrywiaeth o gyflyrau gwanychol. Gyda’r £184,413 a ddyfarnwyd iddynt, bydd Barnardo’s yn rhedeg prosiect i roi cefnogaeth i ofalwyr rhwng 10 a 19 oed yn Sir Gaerfyrddin. Bydd yn cynnwys cefnogaeth emosiynol un i un, gweithgareddau hamdden gyda brodyr a chwiorydd sydd hefyd yn ofalwyr, sefydlu rhwydweithiau cefnogi, clybiau, a gweithdai a chyrsiau yn ogystal â gweithio gydag ysgolion i adnabod a chefnogi brodyr a chwiroedd sy’n gofalu.
Mae cannoedd o bobl ifanc yn Sir Benfro hefyd yn elwa o’r arian. Bydd grant o £298,499 yn galluogi Cyngor Sir Benfro i redeg prosiectau aml-asiantaeth i weithio gyda 150 o bobl ifanc rhwng 14 ac 19 mlwydd oed, sy’n ddatgyweddog. Bydd y prosiect yn defnyddio gweithgareddau antur awyr agored, prosiectau cerddoriaeth ac amgylcheddol i weithio â’r bobl ifanc a bydd yn datblygu hyder, symbyliad, gwaith tîm a sgiliau bywyd eraill trwy amrywiaeth o raglenni ffurfiol ac anffurfiol.
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp chi ymgeisio am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk
Am wybodaeth bellach am y prosiectau, a manylion cyswllt ar gyfer y grwpiau a’r sefydliadau sy’n cael eu cynnwys, cysylltwch â swyddfa wasg y Gronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod os gwelwch yn dda.
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan yn www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £1 miliwn yr wythnos mewn arian achosion da y Loteri, sydd ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri yn golygu fod y mwyafrif o bobl yng Nghymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect sydd wedi ei ariannu gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd yn y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol gychwyn yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei wario gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi ei godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi ei dyrannu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags