Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Grant Loteri yn agor Pennod Newydd Canolfan Gelfyddydau

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
14 10 2008
Fe wnaeth ailddatblygu un o ganolfannau mwyaf poblogaidd Cymru dderbyn hwb anferth heddiw, diolch i grant o dros £70,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae Canolfan Celfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd wedi derbyn £71,469 o dan raglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr, sy’n anelu at ddwyn pobl ynghyd i wneud cymunedau yn gryfach ac i wella amgylcheddau gwledig a threfol.

Sefydlwyd y Chapter ym 1971, ac mae’n un o ganolfannau celfyddydau mwyaf blaenllaw Ewrop ac mae ganddi gymysgedd amrywiol o gyfleusterau megis sinemâu, oriel, gofodau perfformio, gofodau celfyddydau gweledol a bar caffi prysur. Mae hefyd yn gartref i nifer o artistiaid a sefydliadau celfyddydol. Bydd dyfarniad o dros £70,000 gan y Gronfa Loteri Fawr yn cael ei wario ar ail gyfnod prosiect mwy o £3.8 miliwn i ailddatblygu ac ehangu ar y gofodau cyhoeddus ac artistig yn y ganolfan.

Bydd yr arian gan y Gronfa Loteri Fawr yn cael ei wario ar ddarparu dau ofod ar gyfer gweithgareddau cymunedol yn adeilad ysgol Old Canatonian High. Bydd yr ystafelloedd newydd yn cynnig gofod cyfarfod a chyfranogi cwbl hygyrch i holl sectorau’r gymuned. Bydd y rhain ar gael i unrhyw un eu harchebu fesul awr ar gost isel saith niwrnod yr wythnos am bedair awr ar ddeg y diwrnod. Bydd y 150 o sefydliadau gwirfoddol sy’n defnyddio’r ganolfan ar hyn o bryd yn elwa o’r arian hwn, ynghyd ag unigolion o’r gymuned leol sy’n gallu llogi’r ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol a phartïon. Bydd gan y rheini sy’n defnyddio’r ystafelloedd newydd fynediad at gyfleusterau newydd ac wedi’u hadnewyddu eraill yn y ganolfan megis y bar caffi a gofodau cymdeithasol eraill.

Fel rhan o’r pecyn ailddatblygu cyfan, bydd yr ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr yn darparu gwell cyfleusterau i gwrdd ag anghenion artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, perfformwyr a chynhyrchwyr ffilmiau a chynyddu nifer yr ymwelwyr â’r ganolfan. Ynghyd â gwella’r adeilad a’r tirlun yn lleol, bydd yr arian hefyd yn cyfoethogi ac yn adfywio Mecca diwylliannol ym mhrifddinas Cymru.

Wrth ymhyfrydu yn y dyfarniad, dywedodd, Janek Alexander, Cyfarwyddwr Chapter: “Mae’r dyfarniad hwn yn newyddion gwych ac yn garreg filltir bwysig i ni. Ailddatblygiad y Chapter yw’r cynllun gwella mwyaf yn hanes y ganolfan.

Mae’r Chapter yn chwarae rhan bwysig ym mywydau nifer o bobl ac rydym eisiau i genedlaethau’r dyfodol brofi'r amrywiaeth a'r cyfleoedd y mae'r ganolfan yn eu cynnig. Bydd y prosiect cyfan yn diogelu dyfodol y Chapter wrth i ni gwblhau rhaglen uchelgeisiol o newid i wella ein cyfleusterau i'r cyhoedd.”

Bydd Chapter yn parhau yn agored trwy gydol y gwaith ailddatblygu gyda rhestr lawn o weithgareddau ar y safle, ac oddi arno. Byddant yn lansio cyfleusterau newydd gyda mis o ddigwyddiadau arbennig yn y gwanwyn 2009.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.  Mae’n gweithredu ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag amddifadedd ar ei ben a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywydau cymaint o bobl yn y gymuned a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae rhaglen Pawb a’i Le gwerth £66 miliwn yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio cyfleuster chwilio penodol 'Cymru'.

Gwybodaeth Bellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes:  02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn testun:  0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £22 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,500 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
ADBORTH