- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 15 8 2007
Mae hwb ariannol o ymron i £35,000 gan y Gronfa Loteri Fawr yn helpu pobl ifanc yng Nghymru sy'n ddigartref ac sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau antur.
Bydd naw prosiect a ddatblygwyd gan bobl ifanc yn rhannu cyfanswm o £34,327 a ddyfarnwyd drwy gangen Dyma Dy Gyfle y Gronfa Pobl Ifanc. Mae Dyma Dy Gyfle yn gwneud newidiadau positif i fywydau pobl ifanc rhwng 10 ac 19 mlwydd oed yng Nghymru.
Bydd yr arian yn helpu i ddarparu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc agored i niwed ac anabl a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Bydd rhai prosiectau yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau newydd tra bydd eraill yn darparu cyfleoedd newydd na fyddai nifer o bobl ifanc yn gallu eu mwynhau fel arall.
Mae peth o’r arian yn cael ei wario ar roi gwên ar wynebau pobl ifanc agored i niwed yng Nghymru. Bod yn ddigartref yw un o'r profiadau mwyaf brawychus y gall unrhyw un ei brofi a bydd sefydliad Llamau Ltd yn gwario £5,000 ar brosiect sy'n gorchuddio Casnewydd, Caerffili a Thorfaen, a fydd yn galluogi i grwpiau o bobl ifanc sydd wrth risg ar hyn o bryd o ddod yn ddigartref i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden gan gynnwys gweithgareddau awyr agored, gweithdai dawns, celf a cherddoriaeth.
Bydd grant o £2,861 hefyd yn caniatáu i Gymorth i Fenywod Sir Faesyfed yn Llandrindod, Powys, i ddarparu gweithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol ar gyfer pobl ifanc y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Ymhlith y gweithgareddau fydd ymweliadau â chanolfan gweithgareddau awyr agored, marchogaeth ceffylau, dringo, y theatr a glan y môr.
Mae prosiectau sy’n hyrwyddo ac yn annog ffordd o fyw iachach a mwy gweithredol hefyd yn nodwedd amlwg yn y dyfarniadau. Mae Grŵp Cymunedol Pen y Bryn a'r Ardal yng Nghonwy yn un o ddau brosiect i rannu cyfanswm o £6,238 a ddyfarnir i Ogledd Cymru. Byddant yn gwario eu dyfarniad o £1,503 ar brosiect i alluogi pobl ifanc o’r ardal i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau yn ystod yr haf, gan gynnwys ymweliadau â chanolfannau gweithgareddau awyr agored, sglefrio ar iâ ac ymweliad addysgiadol â gorsaf bŵer leol.
Iechyd sydd wrth galon The Underwood Trust Ltd yng Nghasnewydd, De-ddwyrain Cymru. Bydd y grŵp yn gwario £4,850 ar brosiect i annog pobl ifanc rhwng 11 a 15 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a meithrin perthnasau cymdeithasol drwy ymgymryd â gweithgareddau hwyl.
Bydd pobl ifanc mewn tair ward difreintiedig yn Abertawe yn gwisgo eu sgidiau dawnsio yn fuan gan fod Grŵp Diwylliannol Beribazu yn y Ddinas yn bwriadu gwario £4,478 ar brosiect i ddarparu 30 wythnos o weithgareddau, gan gynnwys Capoeira, sy’n ddawns ymladd o Frasil, gêm a chrefft ymladd a grëwyd gan Affricaniaid a gaethiwyd yn ystod y 19eg Ganrif. Cynhelir dosbarthiadau dawns, offerynnau cerdd a chanu rhwng Medi 2007 a Mehefin 2008. Bydd y rhain yn gwella ac yn cynyddu aml ddiwylliant, parch, iechyd a ffitrwydd a hunanhyder y bobl ifanc.
Mae prosiectau sy’n hyrwyddo defnyddio’r iaith Gymraeg ymhlith pobl ifanc hefyd yn elwa o'r dyfarniadau. Bydd grant o £4,735 yn caniatáu i Aelwyd Bangor yng Ngogledd Cymru i ddarparu penwythnos preswyl o adeiladu tîm a gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobl ifanc 14-15 mlwydd oed, a bydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn Ne Cymru yn gwario £1,900 ar brosiect i ddarparu penwythnos preswyl i bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg mewn clybiau amser cinio mewn dwy ysgol ym Mhontypridd.
Bydd pobl ifanc ag anableddau hefyd yn elwa o’r arian. Bydd Clwb Gweithgareddau Anghenion Arbennig ym Mhort Talbot yn gwario eu dyfarniad o £4,700 ar brosiect i alluogi grŵp o bobl ifanc 11 mlwydd oed a hŷn gydag anghenion arbennig i gymryd rhan mewn clwb drama wythnosol am flwyddyn, gan gynnwys perfformio mewn dau gynhyrchiad. Bydd Canolfan TOGs yn Nhorfaen hefyd yn gwario £4,300 ar brosiect a fydd yn darparu rhaglen amrywiol iawn o weithgareddau i bobl ifanc sydd ag anghenion synhwyraidd, corfforol ac addysgiadol.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Dyma Dy Gyfle, dywedodd Mike Theodoulou, aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc: “Bydd y prosiectau yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu gwersi newydd gwerthfawr, i fod yn greadigol, i ddatblygu sgiliau newydd a chyffrous ac i fynegi eu hunain mewn amgylchedd diogel. Mae’r neges y mae’r grantiau hyn yn eu hanfon at grwpiau eraill yn glir: Os credwch chi y gallai rhwng £500 a £5,000 o arian helpu eich grŵp i ddatblygu ystod o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, yna anfonwch eich ffurflen gais at y Gronfa Loteri Fawr.”
Am wybodaeth bellach am y prosiectau, a manylion cyswllt ar gyfer y grwpiau a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg y Gronfa Loteri Fawr drwy naill ai anfon e-bost neu ffonio’r rhifau isod.
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Pobl Ifanc a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio ‘Cymru’. Fel arall, ffoniwch swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers sefydlu’r Loteri Genedlaethol ym 1994, mae 28c o bob punt a warir gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u rhoi ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags